Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”).

Mae Rheoliadau 2009 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs dynodedig ym maes addysg uwch yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar 1 Medi 2010 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall drafftio yn nhestun Cymraeg rheoliad 28 o Reoliadau 2009.