Search Legislation

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3

ATODLEN 1Cosbau ariannol penodedig

Pŵer i osod cosb ariannol benodedig

1.—(1Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno yn dangos bod cosb o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.

(2Cyn gwneud hynny rhaid i'r rheoleiddiwr fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.

(3Swm y gosb sydd i'w dalu i'r rhoeleiddiwr fel “cosb ariannol benodedig” yw £100 yn achos unigolyn neu £300 yn achos corff corfforaethol.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;

(b)swm y gosb;

(c)datganiad y gall y rhwymedigaeth ynglŷn â'r gosb gael ei chyflawni drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law;

(ch)gwybodaeth am y canlynol—

(i)effaith y taliad cyflawni hwnnw;

(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;

(iii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gofyniad odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).

Cyflawni rhwymedigaeth

3.  Mae'r gosb wedi'i chyflawni os bydd person sy'n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law.

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law, i'r rheoleiddiwr mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

5.—(1Os na fydd y person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn cyflawni'r rhwymedigaeth o fewn 28 diwrnod caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol yn gosod cosb ariannol benodedig.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson os yw'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(3Ni chaiff rheoleiddiwr sy'n cyflwyno hysbysiad terfynol ynglŷn â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r tramgwydd.

Cynnwys yr hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaethtam y canlynol—

(a)swm y gosb;

(b)y seiliau dros osod y gosb;

(c)sut y gellir talu;

(ch)y cyfnod o 56 diwrnod y mae'n rhaid talu ynddo;

(d)manylion y disgowntiau talu cynnar a'r cosbau talu hwyr;

(dd)hawliau i apelio; ac

(e)canlyniadau peidio â thalu.

Disgownt am dalu'n gynnar

7.  Os cyflwynodd person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch yr hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw gyflawni'r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law.

Seiliau dros apelio

8.—(1Caiff y person sy'n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(ch)unrhyw reswm tebyg arall.

Methu â thalu ar ôl 56 diwrnod

9.—(1Rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn 56 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad terfynol ddod i law.

(2Os na thelir y gosb o fewn 56 diwrnod mae'r swm sy'n daladwy yn cynyddu 50%.

(3Yn achos apêl mae'n daladwy o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu (os yw'r apêl yn aflwyddiannus) ac os nad yw'n cael ei thalu o fewn 28 diwrnod mae swm y gosb yn cynyddu 50%.

Achosion troseddol

10.—(1Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol benodedig i unrhyw berson—

(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol ynglŷn â'r tramgwydd yn erbyn y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ef cyn 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law, a

(b)os bydd y person hwnnw yn cyflawni'r rhwymedigaeth fel hyn, ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.

(2Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gosb.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources