Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Y rheoleiddiwr priodol2

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhagnodi fel y rheoleiddiwr priodol mewn perthynas â chorff cymwysterau sy'n rhoi cymwysterau yng Nghymru.

Cymwysterau Perthnasol3

Mae'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi'n gymwysterau perthnasol mewn perthynas â rhoi cymwysterau yng Nghymru.

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru