- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
6 Medi 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Medi 2010
Yn dod i rym
1 Hydref 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 96(10) a 97(3) o Deddf Cydraddoldeb 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhagnodi fel y rheoleiddiwr priodol mewn perthynas â chorff cymwysterau sy'n rhoi cymwysterau yng Nghymru.
3. Mae'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi'n gymwysterau perthnasol mewn perthynas â rhoi cymwysterau yng Nghymru.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2010
Rheoliad 3
1. Dyfarniadau Uwch Estynedig
2. Cymwysterau tystysgrif lefel mynediad
3. Cymwysterau Mathemateg Annibynnol
4. Sgiliau Gweithredol
5. Tystysgrif Addysg Gyffredinol lefel A (U ac UG)
6. Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
7. Y Fagloriaeth Ryngwladol
8. Sgiliau Allweddol a Sgiliau Hanfodol Cymru
9. Cymwysterau Prif Ddysgu a Phrosiect
10. Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai'r rheoleiddiwr priodol at ddibenion adran 96 o Deddf Cydraddoldeb 2010 yw Gweinidogion Cymru. Caiff y rheoleiddiwr priodol bennu materion nad ydynt yn cael eu dal gan y ddyletswydd sydd ar gyrff cymwysterau o dan yr adran honno i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi hefyd mai'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen yw'r cymwysterau perthnasol at ddibenion adrannau 96 a 97 o Deddf Cydraddoldeb 2010.
2010 p.15. Cychwynnodd Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cychwyn Rhif 1) 2010 (O.S. 2010/1736) adrannau 96 a 97 ar 6 Gorffennaf 2010 i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud is-Deddfwriaeth neu ganllawiau neu'n ymwneud â'r pŵer i wneud hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: