Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2217 (Cy.193)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010

Gwnaed

6 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Medi 2010

Yn dod i rym

1 Hydref 2010

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Y rheoleiddiwr priodol

2.  Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhagnodi fel y rheoleiddiwr priodol mewn perthynas â chorff cymwysterau sy'n rhoi cymwysterau yng Nghymru.

Cymwysterau Perthnasol

3.  Mae'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi'n gymwysterau perthnasol mewn perthynas â rhoi cymwysterau yng Nghymru.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2010