xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2217 (Cy.193)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010

Gwnaed

6 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Medi 2010

Yn dod i rym

1 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 96(10) a 97(3) o Deddf Cydraddoldeb 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Y rheoleiddiwr priodol

2.  Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhagnodi fel y rheoleiddiwr priodol mewn perthynas â chorff cymwysterau sy'n rhoi cymwysterau yng Nghymru.

Cymwysterau Perthnasol

3.  Mae'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi'n gymwysterau perthnasol mewn perthynas â rhoi cymwysterau yng Nghymru.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2010

Rheoliad 3

YR ATODLEN

1.  Dyfarniadau Uwch Estynedig

2.  Cymwysterau tystysgrif lefel mynediad

3.  Cymwysterau Mathemateg Annibynnol

4.  Sgiliau Gweithredol

5.  Tystysgrif Addysg Gyffredinol lefel A (U ac UG)

6.  Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd

7.  Y Fagloriaeth Ryngwladol

8.  Sgiliau Allweddol a Sgiliau Hanfodol Cymru

9.  Cymwysterau Prif Ddysgu a Phrosiect

10.  Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai'r rheoleiddiwr priodol at ddibenion adran 96 o Deddf Cydraddoldeb 2010 yw Gweinidogion Cymru. Caiff y rheoleiddiwr priodol bennu materion nad ydynt yn cael eu dal gan y ddyletswydd sydd ar gyrff cymwysterau o dan yr adran honno i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi hefyd mai'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen yw'r cymwysterau perthnasol at ddibenion adrannau 96 a 97 o Deddf Cydraddoldeb 2010.

(1)

2010 p.15. Cychwynnodd Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cychwyn Rhif 1) 2010 (O.S. 2010/1736) adrannau 96 a 97 ar 6 Gorffennaf 2010 i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud is-Deddfwriaeth neu ganllawiau neu'n ymwneud â'r pŵer i wneud hynny.