Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2287 (Cy.199)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010

Gwnaed

15 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2010

Yn dod i rym

11 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 67(5), 74A, 79(9) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1), ac o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd(3), polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(4) a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer, neu a fwydir i, anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd(5).

Bu ymgynghori yn ystod y broses o baratoi'r Rheoliadau hyn, yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(6).

RHAN 1Cyffredinol a rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 11 Hydref 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “dadansoddwr” (“analyst”) yw dadansoddwr amaethyddol neu ddirprwy ddadansoddwr amaethyddol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;

ystyr “Rheoliad 152/2009” (“Regulation 152/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy'n pennu'r dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid(7);

ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE” (“the GM Feed Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(8); ac

ystyr “y Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid” (“the Feed Hygiene Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(9).

(2Mae i unrhyw ymadrodd, a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 152/2009, yr ystyr a ddygir gan yr ymadrodd cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 152/2009.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran sydd â'r Rhif hwnnw yn y Ddeddf fel y'i haddesir gan y Rheoliadau hyn.

Amnewid metrig rhagnodedig

3.  At y dibenion o'i chymhwyso i fwydydd anifeiliaid, mae'r Ddeddf i'w darllen—

(a)yn adran 68(2)(b), fel pe rhoddid y geiriau “to sales in quantities of not more than 25 kilograms” yn lle'r geiriau “to sales of small quantities (that is to say, sales in quantities of not more than fifty six pounds or the prescribed metric substitution)”; a

(b)yn adran 76(5), fel pe rhoddid y geiriau “six kilograms” yn lle'r geiriau “fourteen pounds or the prescribed metric substitution”.

RHAN 2Gofynion amrywiol mewn perthynas â samplu a dadansoddi

Dulliau o anfon sampl derfynol

4.  Pan fo'n ofynnol anfon unrhyw sampl derfynol at unrhyw berson yn unol ag—

(a)paragraff 8 o Atodiad I i Reoliad 152/2009;

(b)adran 77(1) neu (2);

(c)adran 78(1)(a), (2) neu (4);

(ch)rheoliad 30(1), (2) neu (5) neu 31(2) o'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid; neu

(d)rheoliad 6(2)(b) neu (c) o'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE,

ceir ei hanfon drwy unrhyw ddull priodol neu ei danfon â llaw.

Cymwysterau dadansoddwyr

5.  Y cymwysterau rhagnodedig ar gyfer dadansoddwr at ddibenion adran 67(5), i'r graddau y mae'r adran honno'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid, a'r cymwysterau gofynnol ar gyfer person sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE, yw'r canlynol—

(a)rhaid i'r dadansoddwr fod—

(i)yn Gemegydd Siartredig neu feddu ar Feistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a

(ii)yn Gymrawd neu Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol; a

(b)rhaid i brofiad ymarferol y dadansoddwr o archwilio bwyd anifeiliaid gael ei ardystio gan ddadansoddwr arall a benodwyd o dan adran 67(3).

Dadansoddi ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol

6.—(1Pan fo sampl o fwyd anifeiliaid i gael ei dadansoddi yn unol ag—

(a)adran 75(1) (sampl a ddadansoddir ar gais y prynwr); neu

(b)adran 78(1) (dadansoddi pellach gan Gemegydd y Llywodraeth) i'r graddau nad yw'r is-adran honno'n ymwneud â rheolaethau swyddogol,

rhaid defnyddio'r dull dadansoddi priodol a bennir, os oes un, yn Rheoliad 152/2009.

(2Mewn achosion pan na phennir dull dadansoddi priodol yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni'r dadansoddi yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 11(1)(a) neu, fel y bo'n briodol, (b), o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir er mwyn sicrhau y gwirir cydymffurfiaeth â'r gyfraith ar fwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid(10), fel y'u darllenir ar y cyd â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y cynnydd yn lefel rheolaethau swyddogol ar fewnforion o fwyd anifeiliaid penodol a bwydydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid penodol ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(11).

Ffurf tystysgrif dadansoddi

7.  Rhaid i dystysgrif dadansoddi unrhyw fwyd anifeiliaid, a anfonir yn unol ag—

(a)adran 77(4);

(b)rheoliad 30(4) neu 31(3) o'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid; neu

(c)rheoliad 6(2)(b) o'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE,

fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 a rhaid ei llenwi yn unol â'r nodiadau i'r Atodlen honno.

RHAN 3Diwygio ac addasu deddfwriaeth arall mewn cysylltiad â samplu a dadansoddi

Diwygio neu addasu'r Ddeddf

8.  Diwygir neu, yn ôl fel y digwydd, addesir y Ddeddf yn unol â rheoliadau 9 i 20.

9.  Yn adran 66(1) (dehongli Rhan IV) mewnosoder yn y lle priodol y diffiniadau canlynol

  • “final sample” has the meaning that it bears in Annex I to Regulation 152/2009;;

“Regulation 152/2009” means Commission Regulation (EC) No. 152/2009 laying down the methods of sampling and analysis for the official control of feed;.

10.  Bydd adran 68 (dyletswydd gwerthwr i roi datganiad statudol), i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys fel pe rhoddid—

(a)yn is-adran (4)(b), y geiriau “final sample” yn lle “sampled portion”; a

(b)yn is-adran (5)—

(i)y geiriau “final sample” yn lle “sample taken from the portion in question”, a

(ii)y geiriau “in accordance with Regulation 152/2009” yn lle “in the prescribed manner”.

11.  Bydd adran 69 (marcio deunydd a baratoir ar gyfer ei werthu) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys fel pe rhoddid—

(a)yn is-adran (4)(c), y geiriau “final sample” yn lle “sampled portion”; a

(b)yn is-adran (5), y geiriau “final sample in question” yn lle “sample taken from the portion in question”.

12.  Bydd adran 70 (defnyddio enwau neu ymadroddion ag ystyron rhagnodedig) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys fel pe rhoddid—

(a)yn is-adran (2), y geiriau “final sample” yn lle “sampled portion”; a

(b)yn is-adran (4)—

(i)y geiriau “final sample” yn lle “sampled portion”, a

(ii)y geiriau “that sample” yn lle “the sample taken from that portion”.

13.  Bydd adran 71 (manylion sydd i'w rhoi am rai nodweddion os hawlir eu bod yn bresennol) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys fel pe rhoddid—

(a)yn is-adran (2)(b), y geiriau “final sample” yn lle “sampled portion”; a

(b)yn is-adran (3)—

(i)y geiriau “final sample” yn lle “sampled portion”, a

(ii)y geiriau “that sample” yn lle “the sample taken from that portion”.

14.  Yn adran 73 (cynhwysion niweidiol mewn bwydydd anifeiliaid)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle'r geiriau “sampled portion” rhodder “final sample”, a

(ii)hepgorer y geiriau “the sample taken from”; a

(b)yn is-adrannau (2)(a) a (b), (2A) a (3)(b) ym mhob achos, yn lle “sampled portion” rhodder “final sample”.

15.  Yn adran 73A—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle'r geiriau “sampled portion” rhodder “final sample”, a

(ii)hepgorer y geiriau “the sample taken from”; a

(b)yn is-adrannau (2)(a) a (b) a (3) ym mhob achos, yn lle “sampled portion” rhodder “final sample”.

16.  Bydd adran 75 (hawl prynwr i gael cymryd a dadansoddi sampl) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys fel pe rhoddid, yn is-adran (1), y geiriau “in accordance with Regulation 152/2009” yn lle “in the prescribed manner”.

17.  Bydd adran 76 (p?er arolygydd i fynd i mewn i fangre a chymryd samplau) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys—

(a)fel pe rhoddid, yn is-adran (1), y geiriau “in accordance with Regulation 152/2009” yn lle “in the prescribed manner”; a

(b)fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-adran (4)–

(4) Without prejudice to any other power or duty as to the taking of samples, an inspector may for the purposes of this Part of this Act take a sample of any material which has been sold for use as a feeding stuff or which he has reasonable cause to believe to be intended for sale as such..

18.  Bydd adran 77 (rhannu samplau a dadansoddi gan ddadansoddwr amaethyddol) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys—

(a)fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-adran (1)–

(1) Where an inspector has taken a sample and prepared and packaged final samples in accordance with Regulation 152/2009 the inspector, in addition to sending a final sample to the agricultural analyst for the inspector’s area in accordance with the requirements of paragraph 8 of Annex I to that Regulation—

(a)shall send one final sample—

(i)where the sample was taken pursuant to the request of a purchaser under section 75 of this Act, to the seller or his agent;

(ii)in any other case, to the person on whose premises the sample was taken, or, if the person on whose premises the sample was taken purchased the material in question for use and not for resale, to the seller or his agent; and

(b)subject to section 78 of this Act, shall retain at least one final sample for nine months.;

(b)fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-adran (2)—

(2) If the person who manufactured any material of which an inspector has taken a sample as mentioned in subsection (1) is not a person to whom a final sample is required to be sent under that subsection, the inspector shall send a final sample to the manufacturer unless he does not know and is unable after making reasonable inquiries to ascertain before the expiration of fourteen days from the date when the sample was taken—

(a)the manufacturer’s name; or

(b)any address of the manufacturer in the United Kingdom.;

(c)yn is-adran (3), fel pe rhoddid—

(i)y geiriau “final sample” yn lle “part of a sample”, a

(ii)y geiriu “in accordance with Regulation 152/2009” yn lle “in the prescribed manner”; ac

(ch)yn is-adran (4)—

(i)fel pe rhoddid y geiriau “final sample” yn lle “part of a sample” neu “part of the sample”, yn ôl fel y digwydd, ym mhob lle y digwyddant,

(ii)fel pe hepgorid y geiriau “in such manner, if any, as may be prescribed”,

(iii)fel pe rhoddid “subsection (1)” yn lle “subsection (1)(a)”, a

(iv)ym mharagraff (b), fel pe rhoddid “subsection (1)(a)(ii)” yn lle “subsection (1)(b)(ii)”.

19.  Bydd adran 78 (dadansoddi pellach gan Gemegydd y Llywodraeth) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn gymwys—

(a)yn is-adran (1), fel pe rhoddid—

(i)y canlynol yn lle paragraff (a)–

(a)to send the final sample retained by the inspector under section 77(1)(b) of this Act (as that section is modified by regulation 18(a) of the Feed (Sampling and Analysis and Specified Undesirable Substances) (Wales) Regulations 2010) (“the retained sample”) to the Government Chemist for analysis;, a

(ii)ym mharagraff (b), y geiriau “retained sample” yn lle “remaining part” a'r geiriau “that sample” yn lle “that part”;

(b)yn is-adran (2), fel pe rhoddid—

(i)y geiriau “in accordance with Regulation 152/2009” yn lle “in the prescribed manner”,

(ii)ym mharagraff (a)(i) y geiriau “retained sample” yn lle “remaining part of the sample”,

(iii)ym mharagraff (a)(ii) y geiriau “retained sample, whether that sample” yn lle “remaining part, whether that part”, a

(iv)ym mharagraff (b) y geiriau “the retained sample” yn lle “that remaining part”;

(c)yn is-adran (4), fel pe rhoddid—

(i)y geiriau “in accordance with Regulation 152/2009” yn lle “in the prescribed manner”, a

(ii)y geiriau “retained sample” yn lle “remaining part of the sample”;

(ch)yn is-adran (5)—

(i)fel pe hepgorid “part of a”,

(ii)ym mharagraff (a) fel pe hepgorid “part of the”, a

(iii)ym mharagraff (b) fel pe rhoddid y geiriau “the retained sample” yn lle “the part”; a

(d)yn is-adran (6)—

(i)fel pe hepgorid “in such manner, if any, as may be prescribed any part of”, a

(ii)fel pe rhoddid y geiriau “the sample” yn lle “the part”.

20.  Bydd adran 79 (darpariaethau atodol mewn perthynas â samplau a dadansoddi) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid, yn is-adran (3), yn gymwys—

(a)fel pe mewnosodid y geiriau “is specified by Regulation 152/2009 or” ar ôl “quality of any material”; a

(b)fel pe rhoddid y geiriau “the method so specified or prescribed” yn lle “the method prescribed”.

Diwygio'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid

21.—(1Diwygir y Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid yn unol â pharagraffau (2) i (6).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4” (“point 4 compliant laboratory”);

(b)yn lle'r diffiniad o “modd rhagnodedig” (“prescribed manner”) rhodder y diffiniad canlynol—

  • ystyr “modd rhagnodedig” (“prescribed manner”) yw'r modd a ragnodir gan Reoliad (EC) Rhif 152/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu'r dulliau o samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid neu fel arall, yn unol ag Erthygl 11(1) o Reoliad 882/2004;; ac

(c)hepgorer y diffiniad o “cyfran a samplwyd” (“sampled portion”).

(3Yn lle rheoliad 29 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi)) rhodder y canlynol—

Penodi dadansoddwyr amaethyddol

29.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod gorfodi benodi un neu ragor o ddadansoddwyr amaethyddol mewn cysylltiad â chyflawni ei ddyletswydd o dan reoliad 16.

(2) Rhaid i ddadansoddwr amaethyddol a benodir o dan baragraff (1) feddu ar y cymwysterau hynny a ragnodir mewn perthynas â'r Ddeddf gan reoliad 5 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010.

(3) Rhaid ystyried bod dadansoddwr amaethyddol sydd eisoes wedi ei benodi gan awdurdod gorfodi yn unol ag adran 67(3)(b) o'r Ddeddf wedi ei benodi at ddibenion paragraff (1)..

(4Yn rheoliad 30 (y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi)—

(a)yn lle paragraff (1)(b) rhodder y canlynol—

(b)anfon un rhan i'w dadansoddi at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer yr ardal o'r awdurdod gorfodi y mae awdurdod y swyddog awdurdodedig yn deillio ohono;;

(b)yn lle paragraff (3), rhodder y canlynol—

(3) Rhaid anfon y rhan o'r sampl a anfonir at y dadansoddwr amaethyddol ar y cyd â datganiad a lofnodwyd gan y swyddog awdurdodedig sy'n cadarnhau i'r sampl gael ei chymryd yn y modd a ragnodir drwy gyfraith.; ac

(c)ym mharagraff (4), hepgorer yr ymadrodd “neu, fel y digwydd, y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4,”.

(5Yn rheoliad 31 (ail samplu gan Gemegydd y Llywodraeth), yn lle paragraff (3)(a) rhodder y canlynol—

(a)wedi ei chwblhau yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010 ac yn unol â'r nodiadau i'r Atodlen honno; a.

(6Yn rheoliad 32 (darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â samplu a dadansoddi)—

(a)ym mharagraff (2), hepgorer yr ymadrodd “, y dadansoddwr yn y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4”; a

(b)ym mharagraff (3) hepgorer yr ymadrodd “, dadansoddwr mewn labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

22.—(1Diwygir y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn rheoliad 6(1) (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf), hepgorer is-baragraffau (c) ac (ch).

(3Hepgorer rheoliad 7 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999).

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

23.—(1Diwygir Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(12) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), ym mharagraff (b) yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010”.

Dirymiad

24.  Dirymir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(13).

RHAN 4Sylweddau annymunol

Diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

25.—(1Diwygir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(14) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (9) o reoliad 14 (rheoli cynhyrchion a fwriedir fel bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau annymunol), yn lle'r ymadrodd “oddi mewn i'r cyfyngiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3” rhodder “yn llai na 2 ran o bob miliwn”.

(3Yn Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol)—

(a)ym Mhennod A, yn lle'r cofnodion mewn perthynas ag “Arsenic”, rhodder y cofnodion a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

(b)ym Mhennod B, yn lle'r cofnodion mewn perthynas â “Castor oil plant Ricinus communis L.” rhodder y cofnodion a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn; ac

(c)ym Mhennod C—

(i)yn lle'r cofnodion mewn perthynas â “Theobromine” rhodder y cofnodion a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn,

(ii)hepgorer yr ymadrodd “Croton – Croton tiglium L.”, a

(iii)yn lle'r ymadrodd “Datura stramonium L.” rhodder “Datura sp.”.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2010

Rheoliad 7

ATODLEN 1Ffurf Tystysgrif Dadansoddi

Nodiadau ar gyfer cwblhau tystysgrif

1.  Mewnosoder enw'r awdurdod lleol.

2.  Mewnosoder y dyddiad.

3.  Mewnosoder enw'r person sy'n cyflwyno'r sampl i'w dadansoddi a dull ei chludo.

4.  Mewnosoder yr enw neu'r disgrifiad a roddir i'r deunydd.

5.  Mewnosoder y marc adnabod sydd ar y sampl a'r dyddiad samplu a ddangosir.

6.  Noder y manylion a farciwyd, a labelwyd neu a ddogfennwyd mewn ffordd arall.

7.  Mewnosoder y canlyniadau perthnasol, y casgliadau a dynnwyd o'r canlyniadau hynny ac unrhyw sylwadau perthnasol eraill. Ychwaneger at yr adran hon yn ôl yr angen.

8.  Mewn achosion o ddadansoddi sylweddau nad oes dull wedi ei ragnodi ar eu cyfer yn y ddeddfwriaeth UE berthnasol, noder y dull a ddefnyddiwyd ar ôl y canlyniadau.

Rheoliad 25(3)(a)

ATODLEN 2Cofnodion i'w hamnewid ym Mhennod A o Atodlen 5 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Column 1Column 2Column 3
Undesirable substancesProducts intended for animal feedMaximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12%
ArsenicFeed materials2
except:
— meal made from grass, from dried lucerne or from dried clover, and dried sugar beet pulp and dried molasses sugar beet pulp4
— palm kernel expeller4
— phosphates and calcareous marine algae10
— calcium carbonate15
— magnesium oxide20
— feeding stuffs obtained from the processing of fish or other marine animals25
— seaweed meal and feed materials derived from seaweed40
Iron particles used as tracer50
Additives belonging to the functional group of compounds of trace elements30
except
— copper sulphate pentahydrate and copper carbonate50
— zinc oxide, manganese oxide and copper oxide100
Complete feeding stuffs2
except
— complete feeding stuffs for fish and for fur-producing animals10
Complementary feeding stuffs4
except
— mineral feeding stuffs12
Notes in respect of all entries in column 3:
The maximum contents refer to total arsenic.
The maximum contents refer to an analytical determination of arsenic, whereby extraction is performed in nitric acid (5% w/w) for 30 minutes at boiling point. Equivalent extraction procedures can be applied where it can be demonstrated that the procedure used has an equal extraction efficiency.

Rheoliad 25(3)(b)

ATODLEN 3Cofnodion i'w hamnewid ym Mhennod B o Atodlen 5 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Column 1Column 2Column 3
Undesirable substancesProducts intended for animal feedMaximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12%
Seeds and husks from Ricinus communis L., Croton tiglium L. and Abrus precatorius L. as well as their process derivatives (in so far as determinable by analytical microscopy), separately or in combination.All feeding stuffs10

Rheoliad 25(3)(c)(i)

ATODLEN 4Cofnodion i'w hamnewid ym Mhennod C o Atodlen 5 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Column 1Column 2Column 3
Undesirable substancesProducts intended for animal feedMaximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12%
TheobromineComplete feeding stuffs except:300
— complete feeding stuffs for pigs200
— complete feeding stuffs for dogs, rabbits, horses and fur-producing animals50

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhoi ar waith yng Nghymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid (OJ Rhif L54, 26.2.2009, t.1), (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae Rheoliad y Comisiwn yn diddymu ac yn ailddeddfu gyda diwygiadau penodol lawer o gyfarwyddebau Ewropeaidd ynghylch dulliau samplu a dadansoddi bwydydd anifeiliaid. Mae'r Rheoliadau yn dirymu (o ran Cymru) Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2004/2734 (Cy.241), O.S. 2006/116 (Cy.14) ac O.S. 2006/617 (Cy.69)), a weithredodd y cyfarwyddebau hynny, ac yn ailddeddfu'r darpariaethau gweinyddol hynny yn Rheoliadau 1999 y mae angen eu cadw mewn grym.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd, yn Rhan 4, yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/116 (Cy.14), offerynnau diwygio blaenorol yw O.S. 2006/617 (Cy.69), O.S. 2006/2928 (Cy.263), O.S. 2006/3256 (Cy.296), O.S. 2007/3171 (Cy.277), O.S. 2008/1806 (Cy.174), O.S. 2009/106 (Cy.20) ac O.S. 2009/2881 (Cy.254)), er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/141/EC sy'n diwygio Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefelau uchaf ar gyfer arsenig, theobromin, Datura sp., Ricinus communis L., Croton tiglium L. ac Abrus precatorius L., (OJ Rhif L308, 24.11.2009, t.20) (“Cyfarwyddeb y Comisiwn”).

3.  Mae'r Rheoliadau yn sefydlu mesurau gweinyddol a mesurau eraill i roi ar waith Reoliad y Comisiwn, ac sydd, yn benodol, yn gwneud y canlynol—

(a)darparu ar gyfer cyfwerthoedd metrig i feintiau imperial a grybwyllir yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 (rheoliad 3);

(b)rhagnodi'r dulliau o anfon samplau i gael eu dadansoddi (rheoliad 4);

(c)rhagnodi'r cymwysterau gofynnol ar gyfer dadansoddwyr amaethyddol (rheoliad 5);

(ch)darparu ar gyfer y dulliau sydd i'w defnyddio pan fo dadansoddiad yn cael ei wneud ac eithrio yng nghyd-destun rheolaethau swyddogol (rheoliad 6); a

(d)rhagnodi'r ffurf sydd i'w defnyddio ar gyfer tystysgrif dadansoddi (rheoliad 7 ac Atodlen 1).

4.  Mae'r Rheoliadau yn Rhan 3 yn gwneud diwygiadau testunol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth er mwyn osgoi unrhyw enghreifftiau o orgyffwrdd neu anghysondeb rhwng Rheoliad y Comisiwn a deddfwriaeth ddomestig (rheoliadau 8 i 23) ac yn dirymu Rheoliadau 1999 (rheoliad 24).

5.  Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn drwy ddiwygio darpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 ynghylch sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid, yn arbennig o ran y lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer y sylweddau a grybwyllir yn nheitl Cyfarwyddeb y Comisiwn fel a nodwyd ym mharagraff 2 uchod (rheoliad 25 ac Atodlenni 2, 3 a 4).

6.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r costau a'r buddiannau tebygol wrth gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, T? Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a throsglwyddwyd hwy drachefn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(4)

O.S. 2005/2766. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r dynodiad o dan O.S. 2005/1971 i Weinidogion Cymru gan baragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(6)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad yn ôl y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

OJ Rhif L54, 26.2.2009, t.1.

(10)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Nodir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 yn awr mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) y gellid ei ddarllen ar y cyd â Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29).

(11)

OJ Rhif L194, 25.7.2009. t.11.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources