xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 20 Hydref 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag sydd i “food authority” yn adran 5(1A) o'r Ddeddf ond nid yw'n cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/72/EC” (“Directive 2002/72/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(3);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu roi nwydd ar ddangos i'w werthu, neu fod mewn meddiant arno er mwyn ei werthu, a dylid dehongli “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio yn ystod busnes, o fan heblaw Gwladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ;

mae “paratoad” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, a dylid dehongli “paratoi” (“prepare”) yn unol â hynny;

ystyr “plastigion” (“plastics”) yw'r deunyddiau a'r eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb 2002/72/EC yn gymwys iddynt;

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(4);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(5);

ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(6);

ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(7); ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio, sydd â chyfrifoldeb dros weithredu a gorfodi o dan reoliad 14, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/72/EC neu i Gyfarwyddeb 2007/42/EC yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Cwmpas

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau a'r eitemau hynny sydd wedi eu nodi yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3) o Reoliad 1935/2004.

(2)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Cafodd y Gyfarwyddeb hon ei chywiro gan gorigendwm (OJ Rhif L39, 13.2.2003, t.1), a chafodd ei diwygio gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35), 2007/19/EC (a gyhoeddwyd mewn ffurf ddiwygiedig a chywiriedig yn OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50), 2008/39/EC (OJ Rhif L63, 7.3.2008, t.6) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 975/2009 (OJ Rhif L274, 20.10.2009, t.3).

(3)

OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi a hynny heb ddiwygio pellach Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.

(4)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(5)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2008 (OJ Rhif L86, 28.3.2008, t.9).

(6)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.