Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 5Cyffredinol

Tramgwyddau a chosbau

13.—(1Mae unrhyw berson—

(a)sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 8, 10(3), (4), (6), (7) neu (8) neu 11(1) neu (3);

(b)sydd yn rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sy'n gweithredu i gyflawni Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu'r Rheoliadau hyn, neu'n methu heb esgus rhesymol â darparu unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw'n eu ceisio'n rhesymol; neu

(c)sydd yn darparu'n ymwybodol neu'n fyrbwyll wybodaeth sydd yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mewn cydymffurfiad honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is–baragraff (b),

yn euog o dramgwydd.

(2Mae unrhyw berson sydd yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)yn achos tramgwydd a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (c) neu yn rheoliad 4, 5 neu 6—

(i)o'i gollfarnu drwy dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am dymor o ddim mwy na dwy flynedd, neu'r ddau, neu

(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol, neu i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 6 mis, neu'r ddau; a

(b)yn achos tramgwydd a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 3 mis, neu i ddirwy o ddim mwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

(3Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad ar unrhyw berson i ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os gallai ei hunan-argyhuddo drwy wneud hynny.

Gorfodi

14.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth weithredu a gorfodi—

(a)y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir yn rheoliad 4;

(b)y darpariaethau yn Rheoliad 450/2009 a bennir yn rheoliad 6; ac

(c)ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004; a

(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi'r darpariaethau yn Rheoliad 2023/2006 a bennir yn rheoliad 5.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

15.—(1Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bernir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Tramgwyddau o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan drydydd parti

16.  Pan fo unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred unrhyw berson arall, y person arall hwnnw sydd yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

17.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r tramgwydd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y tramgwydd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

Amddiffyniadau cyffredinol

18.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (“y cyhuddedig”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi ymarfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo neu gan berson a oedd dan ei reolaeth.

(2Heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff (1), cymerir bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 4, 6(a) i (dd) neu 13(1)(a) ac—

(a)na wnaeth baratoi'r deunydd neu eitem yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef; ac na wnaeth ychwaith

(b)ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig,

wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi'u bodloni.

(3Mae gofynion y paragraff hwn wedi'u bodloni os profir—

(a)bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred unrhyw berson arall nad oedd dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)naill ai—

(i)bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad, ar y deunydd neu eitem dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno i'r cyhuddedig; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, ar adeg cyflawni'r tramgwydd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae gofynion y paragraff hwn wedi'u bodloni os mai gwerthu yw'r tramgwydd ac os profir—

(a)bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred unrhyw berson arall nad oedd dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)nad oedd y gwerthiant oedd yn ffurfio'r tramgwydd yn werthiant o dan enw neu nôd y cyhuddedig; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod ar adeg cyflawni'r tramgwydd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai iddo—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo wedi ymddangos gerbron y llys eisoes mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i'w ymddangosiad cyntaf,

fod wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd oedd yn enwi'r person arall hwnnw neu'n cynorthwyo i'w adnabod.

Y weithdrefn i'w dilyn pan fydd sampl i'w dadansoddi

19.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi cael gafael ar sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylid ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os yw'r sampl yn cynnwys cynwysyddion wedi'u selio, a phe bai eu hagor yn rhwystro dadansoddiad cywir ym marn y swyddog awdurdodedig, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair cyfran, a rhaid i bob cyfran gael ei thrin fel pe bai'n rhan.

(3Mae'r swyddog awdurdodedig—

(a)os bydd angen gwneud hynny, i osod pob rhan mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b)i farcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i roi un rhan i'r perchennog, a'i hysbysu yn ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(ch)i gyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a

(d)i gadw un rhan i'w gyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 20.

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

20.—(1Pan fydd sampl wedi ei chadw o dan reoliad 19 ac—

(a)y bwriedir codi achos neu fod achos wedi cychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)bod yr erlyniad yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod fel tystiolaeth,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff, o'i wirfodd ei hun; neu

(b)rhaid iddo—

(i)os bydd yr erlynydd yn gofyn iddo wneud hynny (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig yw'r erlynydd),

(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo wneud hynny,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.

(5Rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi copi o dystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd ar unwaith pan dderbynio hi.

(6Os gwneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i dalu rhan neu'r cyfan o ffi Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y diffynnydd yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys darpar ddiffynnydd.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf

21.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad fod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ehangu ystyr “sale” etc.);

(b)adran 30(8) (sy'n ymdrin â thystiolaeth ddogfennol).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r cyfeiriad yn y Ddeddf at is-adran (1) i'w ddehongli fel un sydd yn cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol.

(3Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006, neu Reoliad 450/2009, fel y bo'n briodol, at ac at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i'w fwyta gan bobl) gyda'r addasiadau y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn rhai sy'n cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn ôl eu trefn;

(b)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

22.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(1), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau 2009

23.—(1Diwygir Rheoliadau 2009 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o “the 2007 Regulations”.

(3Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 13 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi), yn lle'r ymadrodd “regulation 9(2) of the 2007 Regulations” rhodder “regulation 9(2) of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2010”.

Diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

24.—(1Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(2) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle'r diffiniad o “ingredient” rhodder y diffiniad a ganlyn–

“ingredient” means—

(a)

any substance, including any additive or food enzyme and any constituent of a compound ingredient, which is used in the preparation of a food and which is still present in the finished product, even if in altered form; or

(b)

any released active substance within the meaning of Article 3(f) of Commission Regulation (EC) No. 450/2009 on active and intelligent materials and articles intended to come into contact with food,

and a “compound ingredient” is composed of two or more such substances;.

Dirymu

25.  Dirymir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(3).

(1)

O.S. 1990/2463, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/3252 (Cy. 287); y mae yna offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan O.S. 1990/2463, i'r graddau maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

O.S. 1996/1499. Diwygiwyd y diffiniad o “ingredient” yn flaenorol gan O.S. 2009/3377 (Cy. 299).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources