Search Legislation

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2582 (Cy.216) (C.123)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010

Gwnaed

20 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2)(c) a 75(3) o Fesur plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(2);

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “y Rheoliadau Anghymhwyso” (“the Disqualification Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(3).

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2011

2.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 3, 4 a 5, mae'r darpariaethau o'r Mesur a bennir yn Atodlen 1 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.

Darpariaeth arbed ar gyfer y Rheoliadau Anghymhwyso

3.  Er gwaethaf diddymu adrannau 79C(2) a (3) a 79M o Ddeddf 1989, mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 yn parhau i gael effaith hyd nes gwneir rheoliadau o dan adran 38 o'r Mesur (anghymhwyso rhag cofrestru).

Arbedion a darpariaethau trosiannol

4.  Mae Atodlenni 2 a 3, sy'n gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â chychwyn gan y Gorchymyn hwn y darpariaethau a bennir yn Atodlen 1 yn cael effaith ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.

Huw Lewis

Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2010

Erthygl 2

ATODLEN 1DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2011

Adran 19Ystyr gwarchod plant a gofal dydd i blant
Adran 20Cofrestr o warchodwyr plant
Adran 21Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru
Adran 22Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blant
Adran 23Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestru
Adran 24Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant
Adran 25Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant
Adran 26Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant
Adran 27Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blant
Adran 28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau
Adran 29Amodau wrth gofrestru
Adran 30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau
Adran 31Diddymu cofrestriad
Adran 32Atal cofrestriad
Adran 33Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol
Adran 34Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad
Adran 35Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau
Adran 36Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol
Adran 37Apelau
Adran 38Anghymhwyso rhag cofrestru
Adran 39Canlyniadau anghymwyso
Adran 40Arolygu
Adran 41Pwerau mynediad
Adran 42Pwerau arolygu
Adran 43Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediad
Adran 44Cyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru
Adran 45Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol
Adran 46Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniol
Adran 47Hysbysiadau o gosb
Adran 48Hysbysiadau o gosb: darpariaethau atodol
Adran 49Terfyn amser ar gyfer achosion
Adran 50Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
Adran 51Cymdeithasau anghorfforedig
Adran 52Swyddogaethau awdurdodau lleol
Adran 53Ffioedd
Adran 54Cydweithredu rhwng awdurdodau
Adran 55Hysbysiadau
Adran 56Marwolaeth person cofrestredig
Adran 72 ac Atodlen 1 i'r graddau y maent yn ymwneud ag

(i)paragraffau 1 i 18;

(ii)paragraffau 21 i 28.

Adran 73 ac Atodlen 2 i'r graddau y maent yn ymwneud ag

(i)Deddf Plant 1989;

(ii)Deddf Addysg 2002; a

(iii)Deddf Gofal Plant 2006.

Erthygl 4

ATODLEN 2ARBEDION CYFFREDINOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon ac yn Atodlen 3—

  • mae i “Tribiwnlys Haen Gyntaf” (“First-tier Tribunal”) yr ystyr a roddir i “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(4).

Arbedion cyffredinol ar gyfer pethau a wnaed cyn y dyddiad perthnasol

2.—(1Onid oes bwriad i'r gwrthwyneb yn ymddangos yn Atodlen 3, ni fydd dyfodiad i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 yn effeithio ar —

(a)unrhyw weithred a wneir, unrhyw hysbysiad a gyflwynir, unrhyw gais a wneir nac unrhyw benderfyniad a wneir; neu

(b)unrhyw ofyniad neu gyfyngiad amser; neu

(c)unrhyw achos cyfreithiol a gychwynnwyd; neu

(ch)unrhyw orchymyn a wnaed gan lys, gan ynad heddwch neu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf

o dan, neu mewn perthynas ag unrhyw rai o'r darpariaethau a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd o ganlyniad i gychwyn Atodlenni 1 a 2 o'r Mesur.

(2Mewn perthynas â'r darpariaethau a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd o ganlyniad i gychwyn Atodlenni 1 a 2 o'r Mesur, ceir dwyn neu barhau achosion cyfreithiol, a cheir gosod a gorfodi rhwymedïau neu gosbau mewn perthynas â gweithredoedd a wnaed o dan, mewn perthynas â, neu'n groes i unrhyw rai o'r darpariaethau hynny cyn y dyddiad perthnasol, fel pe na bai'r diwygiadau neu'r ddiddymiadau wedi eu gwneud.

Erthygl 4

ATODLEN 3ARBEDION A DARPARIAETHAU TROSIANNOL MEWN PERTHYNAS Å RHAN XA O DDEDDF 1989 AC ATODLEN 9A I'R DDEDDF HONNO, A RHAN 2 O'R MESUR

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “Rhan 2 o'r Mesur” (“Part 2 of the Measure”) yw adrannau 19 i 56 o'r Mesur;

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(5);

  • ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(6);

  • ystyr “Rheoliadau Atal 2004” (“the Suspension Regulations 2004”) yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004(7);

  • ystyr “Gorchymyn Eithriadau 2010” (“the Exceptions Order 2010”) yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010;

  • ystyr “Rheoliadau Anghymhwyso 2010” (“the Disqualification Regulations 2010”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(8);

  • ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Ebrill 2011;

  • mae “trosglwyddo” (“transfer”) mewn perthynas â chofrestru yn cyfeirio at y broses y gwneir darpariaeth ar ei chyfer ym mharagraff 2(2) a dehonglir “trosglwyddwyd” (“transferred”) yn unol â hynny.

Cofrestru Gwarchodwyr Plant a Darparwyr Gofal Dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r ddeddf honno ar 1 Ebrill 2011

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â pherson sydd, yn union cyn y dyddiad perthnasol—

(a)wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan adran 79(F)(1) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestriad); neu

(b)wedi ei gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant gan Weinidogion Cymru o dan adran 79(F)(2) o Ddeddf 1989.

(2Yn effeithiol o'r dyddiad perthnasol ymlaen, at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur, trinnir person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fel pe bai wedi gwneud cais am gofrestriad, a chofrestriad wedi ei ganiatáu iddo.

(3Pan fo cofrestriad person wedi ei drosglwyddo yn unol ag is-baragraff (2), bydd unrhyw amod a osodwyd ar y person hwnnw o dan adran 79F(3) (caniatáu neu wrthod cofrestriad) neu 79M(2) (apelau) o Ddeddf 1989 ac a oedd yn gymwys i gofrestriad y person yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn parhau i gael effaith fel pe bai'n amod a osodwyd o dan adran 29 (amodau wrth cofrestru) neu adran 37 (apelau) o'r Mesur.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff 14, mae'r paragraff yn gymwys hyd yn oed pan fo cofrestriad y person, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau 2004.

(5Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi cyfleu i Weinidogion Cymru ei ddymuniad i beidio â bod yn gofrestredig fel gwarchodwr plant o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd i blant o dan adran 26 o'r Mesur.

(6Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant o dan adran 79F(1) neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd o dan adran 79F(2) o Ddeddf 1989 ac, ar y dyddiad perthnasol ac yn unol â dyfodiad i rym Gorchymyn Eithriadau 2010, nad yw bellach yn gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd i blant o dan adran 26 o'r Mesur.

Tystysgrifau cofrestru

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y trosglwyddir ei gofrestriad yn unol â pharagraff 2(2).

(2Nid yw'r trosglwyddiad yn gyfystyr â rhoi cofrestriad adran 28(1)(b) neu (2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau).

(3Bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru i'r person hwnnw mewn perthynas â'r cofrestriad gwreiddiol o dan adran 79F o Ddeddf 1989, ac a oedd yn gyfredol yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn cael effaith at bob diben, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5), fel pe bai wedi ei dyroddi ar y dyddiad perthnasol yn unol ag adran 28(1)(b) neu (2)(b) o'r Mesur.

(4Nid yw adran 28(3) o'r Mesur yn cael effaith mewn perthynas â thystysgrif y cyfeirir ati yn is-baragraff (3).

(5At ddibenion adran 28(4) o'r Mesur (sy'n darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau diwygiedig oherwydd newid yn yr amgylchiadau) a heb leihau dim ar ei heffaith fel arall, bydd achlysur yr arolygiad cyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol gan arolygydd awdurdodedig—

(a)gwarchod plant, neu

(b)gofal dydd mewn unrhyw fangre,

a ddarperir gan berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, yn gyfystyr â newid yn yr amgylchiadau at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â'r cofrestriad dan sylw.

Personau nad ydynt yn gymwys i gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2011

4.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson (“gwarchodwr plant anghofrestredig”) sydd, cyn y dyddiad perthnasol—

(a)yn anghymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno ond y mae'n ofynnol iddo gofrestru o dan Ran 2 o'r Mesur;

(b)yn gofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed am dâl, mewn mangre ddomestig; ac

(c)yn gwneud cais yn briodol cyn 1 Gorffennaf 2011 o dan adran 24 o'r Mesur am gofrestriad fel gwarchodwr plant.

(2Nid yw'r darpariaethau o dan adran 21(1), (2), (5) a (6) o'r Mesur yn gymwys i warchodwr plant anghofrestredig o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â'i fangre—

(a)hyd nes caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau sydd wedi eu cytuno mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt wedi eu cytuno felly, neu os gwrthodir y cais—

(i)os na ddygir apêl, hyd nes daw'r cyfnod o 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno'r hysbysiad i'r gwarchodwr anghofrestredig o'r penderfyniad gan Weinidogion Cymru; neu

(ii)os dygir apêl, hyd nes penderfynir neu y rhoddir y gorau i'r apêl.

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson (“darparydd anghofrestredig gofal dydd i blant”) sydd, cyn y dyddiad perthnasol —

(a)yn anghymwys i gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno;

(b)yn gofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed am dâl, mewn mangre ac eithrio mangre ddomestig; ac

(c)yn gwneud cais yn briodol cyn 1 Gorffennaf o dan adran 26 o'r Mesur am gofrestriad fel darparwr gofal dydd i blant.

(4Nid yw'r darpariaethau o dan adran 23(1) a (2) o'r Mesur yn gymwys i ddarparydd gofal dydd i blant anghofrestredig o dan is-baragraff (3) mewn perthynas â'i fangre —

(a)hyd nes caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau sydd wedi eu cytuno mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt wedi eu cytuno felly, neu os gwrthodir y cais—

(i)os na ddygir apêl, hyd nes daw'r cyfnod o 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno'r hysbysiad i'r darparydd anghofrestredig o'r penderfyniad gan Weinidogion Cymru; neu

(ii)os dygir apêl, hyd nes penderfynir neu y rhoddir y gorau i'r apêl.

Ceisiadau am gofrestriad o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno: ceisiadau nas penderfynwyd

5.—(1Pan fo person wedi gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant o dan adran 79E o Ddeddf 1989 (ceisiadau i gofrestru), a Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb ganiatáu neu wedi gwrthod cais y person hwnnw, rhaid penderfynu'r cais fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 24 o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant).

(2Pan fo person wedi gwneud cais am gofrestriad fel darparydd gofal dydd o dan adran 79E o Ddeddf 1989 (ceisiadau i gofrestru), a Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb ganiatáu neu wedi gwrthod cais y person hwnnw, rhaid penderfynu'r cais fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 26 o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant).

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff Gweinidogion Cymru gofrestru'r person hwnnw ac eithrio pan fyddai wedi bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais, pe bai'r cais wedi ei wneud o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26 o'r Mesur.

Hysbysiad o fwriad i wrthod cais i gofrestru o dan adran 79L(1)(a) o Ddeddf 1989

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at berson o'u bwriad i wrthod cais i gofrestru o dan adran 79(L)(1)(a) o Ddeddf 1989 (hysbysiad o fwriad i gymryd camau).

(2Bydd yr hysbysiad yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur (gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol) .

(3Bydd y person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.

(4Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.

(5Bydd hysbysiad, a anfonwyd at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.

(6Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.

Hysbysiad o fwriad i gymryd camau o dan adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 1989

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir cofrestriad person yn unol â pharagraff 2(2);

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at y person o'u bwriad i gymryd un o'r camau a grybwyllir yn adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 1989; ac

(c)y cam hwnnw heb gael effaith.

(2Bydd hysbysiad a anfonwyd at y person o dan adran 79L(1) yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur.

(3Bydd person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai'r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.

(4Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.

(5Bydd hysbysiad, a anfonwyd gan Weinidogion Cymru at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.

(6Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.

Apelau yn erbyn camau a grybwyllir yn adran 79L(1) o Ddeddf 1989

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989 (apelau), yn erbyn cam a gymerwyd gan Weinidogion Cymru ac a grybwyllir yn adran 79L(1), ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.

(2Bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai'n apêl o dan adran 37 o'r Mesur (apelau).

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid penderfynu'r apêl fel pe bai'r cam y gwnaed yr apêl mewn perthynas ag ef wedi ei gymryd o dan y Mesur.

Apelau: amddiffyn plant mewn argyfwng

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989, yn erbyn gorchymyn o dan adran 79K o Ddeddf 1989 (amddiffyn plant mewn argyfwng), ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.

(2Rhaid trin yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n apêl o dan adran 37 o'r Mesur.

Apelau: anghymhwyso

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989, yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010, ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 3, bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai'n apêl a wnaed yn unol â Rheoliadau Anghymhwyso 2010 a bydd yn cael ei benderfynu yn unol ag adran 79M o Ddeddf 1989.

Hysbysiad o dan adran 79D o Ddeddf 1989

11.  Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi o dan adran 79D(2) o Ddeddf 1989, bydd yr hysbysiad yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan adran 21(3) o'r Mesur (dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru).

Hysbysiadau cydymffurfio o dan Reoliadau 2002

12.  Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi dyroddi hysbysiad cydymffurfio yn unol â rheoliad 3C o Reoliadau 2002 (hysbysiad cydymffurfio), bydd yr hysbysiad hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol

13.  Wrth arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i'r canlynol—

(a)unrhyw beth a wneir, neu'r honnir iddo gael ei wneud, gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 23 o Reoliadau 2002 (safonau);

(b)unrhyw fethiant, neu fethiant honedig, gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 24 o Reoliadau 2002.

Atal

14.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cofrestriad person, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei atal gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o reoliadau Atal 2004 (pŵer i atal cofrestriad).

(2Bydd cofrestriad y person, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei atal gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 40 o Reoliadau 2010 (pŵer i atal cofrestriad).

(3Pan fo person wedi apelio i'r Tribiwnlys o dan reoliad 8 o Reoliadau Atal 2004 (hawliau i apelio) ac nad yw'r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cyrraedd penderfyniad, bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei gwneud o dan reoliad 45 o Reoliadau 2010 (hawliau i apelio).

Anghymhwyso: hepgoriadau

15.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi caniatâd i hepgor anghymhwysiad o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010 (a heb dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl), bydd y caniatâd hwnnw'n parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol.

(2Pan fo person, cyn y dyddiad perthnasol, wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru roi caniatâd i hepgor anghymhwysiad o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010, a bod Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud penderfyniad mewn perthynas â'r cais hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010.

(3Bydd caniatâd a roddir gan awdurdod lleol, ac y cyfeirir ato yn rheoliad 9(3)(b) o Reoliadau Anghymhwyso 2010, yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol.

Amddiffyn plant mewn argyfwng: cais o dan adran 79K o Ddeddf 1989

16.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn—

(a)sy'n diddymu cofrestriad person o dan adran 79K(1)(a)(i) (amddiffyn plant mewn argyfwng) o Ddeddf 1989, ac ynad heddwch, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud y gorchymyn hwnnw, rhaid trin y cais, ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad);

(b)sy'n gofyn am amrywio neu dynnu ymaith amod, neu osod amod newydd ar gofrestriad person o dan, yn eu trefn, adran 79K(1)(a)(ii) neu (iii) o Ddeddf 1989 ac ynad heddwch, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud y gorchymyn hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r cais yn ôl a gweithredu yn unol ag adran 35 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau o fewn Rhan 2 o'r Mesur sy'n ymwneud â gwarchod plant a ddarpariaeth gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed. Bwriedir i'r darpariaethau hyn gael eu defnyddio yn lle'r darpariaethau o fewn Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf Honno (gwarchod plant a gofal dydd i blant ifanc yng Nghymru) (“Deddf 1989”), sydd ar hyn o bryd yn llywodraethu ac yn rheoleiddio gofal o'r fath a ddarperir yng Nghymru, ac a ddirymir gan y Gorchymyn hwn.

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 a 4, mae erthygl 2 ac Atodlen 1 yn dwyn i rym ar1 Ebrill 2011 Ran 2 o'r Mesur sef, yn fwy penodol:

  • adran 19 o'r Mesur, sy'n pennu'r diffiniad o “gwarchod plant” “gofal dydd i blant”;

  • adran 20 o'r Mesur, sy'n gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal cofrestr o'r personau a gofrestrwyd fel gwarchodwyr plant;

  • adran 21 o'r Mesur, sy'n darparu na chaiff person weithredu fel gwarchodwr plant onid yw'r person hwnnw wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adran 22 o'r Mesur, sy'n gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal cofrestr o'r personau a gofrestrwyd i ddarparu gofal dydd i blant;

  • adran 23 o'r Mesur, sy'n darparu na chaiff person ddarparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru onid yw'r person hwnnw wedi ei gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant, o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adrannau 24 i 30 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y gofyniad i gofrestru, ac ar gyfer y broses o gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adrannau 31 to 33 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer diddymu cofrestriad (adran 31), atal cofrestriad (adran 32) a thynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol (adran 33) warchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant;

  • adrannau 34 a 35 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer amddiffyn plant mewn argyfwng. Mae adran 34 yn darparu ar gyfer diddymu cofrestriad person fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant, ac adran 35 ar gyfer newidiadau mewn amodau sydd i'r gosod ar gofrestriad gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant;

  • adran 36 o'r Mesur, sy'n pennu rhagofalon gweithdrefnol ar gyfer cymryd camau penodol o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adran 37, sy'n darparu ar gyfer gwneud apelau i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn cymryd camau penodedig ac mewn perthynas â phenderfyniadau penodedig;

  • adrannau 38 a 39, sy'n darparu ar gyfer anghymhwyso person rhag cofrestru (adran 38) a chanlyniadau anghymhwysiad o'r fath (adran 39);

  • adrannau 40 i 43, sy'n darparu ar gyfer pŵer arolygu a mynediad mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir yn unol â Rhan 2 o'r Mesur;

  • adrannau 44 a 45, sy'n ymwneud â chyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru (adran 44) ac i awdurdodau lleol (adran 45);

  • adrannau 46 i 51, sy'n darparu ar gyfer tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau sefydlog;

  • adrannau 52 i 56 o'r Mesur, sy'n darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol (adran 52), ffioedd (adran 53), cydweithredu rhwng awdurdodau (adran 54), hysbysiadau (adran 55) a marwolaeth y person cofrestredig (adran 56).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn arbed Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 er gwaethaf diddymu'r darpariaethau o Ddeddf 1989 y gwnaed y Rheoliadau hynny odanynt.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn ac Atodlenni 2 a 3 iddo yn gwneud arbediad a darpariaeth drosiannol o ganlyniad i gychwyn Rhan 2 o'r Mesur a diddymu Rhan XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno. Yn benodol, yn Atodlen 2, gwneir darpariaeth i sicrhau nad effeithir ar achosion cyfreithiol o dan, neu mewn perthynas â Rhan XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys arbedion a darpariaeth drosiannol. Yn benodol—

  • Mae paragraff 2 yn darparu, yn ddarostyngedig i eithriadau, y bydd personau a gofrestrwyd fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno yn union cyn 1 Ebrill 2011, yn cael eu trin ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw (“y dyddiad perthnasol”) fel pe baent wedi eu cofrestru yn unol â darpariaethau'r drefn newydd o dan Ran 2 o'r Mesur. Mae'n gwneud darpariaeth hefyd ynglŷn ag amodau a gysylltir â'r cofrestriad trosglwyddedig.

  • Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch tystysgrifau cofrestru pan ystyrir bod cofrestriad person wedi ei drosglwyddo o dan y drefn newydd a bennir yn Rhan 2 o'r Mesur. Darperir hefyd ar gyfer dyroddi tystysgrif gofrestru o dan Ran 2 o'r Mesur mewn amgylchiadau rhagnodedig.

  • Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer personau nad oeddent yn gymwys i'w cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd cyn y dyddiad. Yn benodol, mae'n datgymhwyso, mewn amgylchiadau penodol, darpariaethau yn Rhan 2 o'r Mesur sy'n gwneud gweithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd heb gofrestru yn dramgwydd.

  • Mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer trin ceisiadau, a wnaed o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno ac nad ydynt wedi eu penderfynu ar 1 Ebrill 2011, fel pe baent wedi eu gwneud o dan Ran 2 o'r Mesur, ac ar gyfer eu penderfynu gan Weinidogion Cymru o dan y darpariaethau hynny.

  • Mae paragraffau 6 a 7 yn darparu ar gyfer trin hysbysiadau o fwriad a ddyroddir yn yr amgylchiadau a ragnodir o dan Ran XA (gwrthod cais am gofrestriad, neu ddiddymu cofrestriad presennol, gosod amod ar gofrestriad person neu wrthod tynnu ymaith neu amrywio amod a osodwyd eisoes ar gofrestriad person) fel pe bai'r hysbysiadau wedi'u dyroddi yn unol ag adran 36 o'r Mesur.

  • Mae paragraffau 8, 9 a 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trin apelau a wnaed i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn unol ag adran 79M o Ddeddf 1989, a wnaed cyn y dyddiad perthnasol ac nad ydynt wedi eu penderfynu, fel pe baent yn apelau o dan adran 37 o'r Mesur ac ar gyfer eu penderfynu yn unol â'r ddarpariaeth honno.

  • Mae paragraff 11 yn darparu y bydd hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 79D o Ddeddf 1989, ac sy'n parhau i gael effaith yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn parhau i gael effaith ar ac o'r dyddiad hwnnw ymlaen, fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan adran 21(3) o'r Mesur.

  • Mae paragraff 12 yn darparu y bydd hysbysiad cydymffurfio a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru i berson yn unol â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 cyn y dyddiad perthnasol yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei ddyroddi yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

  • Mae paragraff 13 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi sylw, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur, i gydymffurfiaeth person, neu'i fethiant i gydymffurfio, â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 23 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (safonau gofynnol cenedlaethol).

  • Mae paragraff 14 yn darparu, pan fo cofrestriad person wedi ei atal gan Weinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 yn union cyn y dyddiad perthnasol, y trinnir yr ataliad ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Bydd apelau yn erbyn ataliad, a wnaed cyn y dyddiad perthnasol a heb eu penderfynu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, yn cael eu trin ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud o dan reoliad 45 o Reoliadau 2010.

  • Mae paragraff 15 yn gwneud darpariaeth i unrhyw ganiatâd ar gyfer hepgor anghymhwysiad (a roddwyd o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010), nad yw wedi ei dynnu'n ôl, barhau i gael effaith o dan y Rheoliadau hynny, a arbedir gan erthygl 3 hyd nes gwneir rheoliadau o dan adran 38 o'r Mesur (anghymhwyso rhag cofrestru).

  • Mae paragraff 16 yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn i ddiddymu cofrestriad person o dan adran 79K(1)(a)(i) o Ddeddf 1989 ac yn union cyn y dyddiad perthnasol, nad yw'r gorchymyn hwnnw wedi ei wneud, y trinnir y cais hwnnw, ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).

  • Mae'n darparu hefyd, pan fo'r gorchymyn y gwneir cais amdano yn un ar gyfer amrywio neu dynnu ymaith amod, neu osod amod newydd, ar gofrestriad person (yn unol ag adran 79K(1)(a)(ii) neu (iii) yn eu trefn) ac, yn union cyn y dyddiad perthnasol, nad yw'r gorchymyn hwnnw wedi ei wneud, y bydd Gweinidogion Cymru yn tynnu'r cais hwnnw yn ôl ac yn gweithredu yn unol ag adran 35 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

DarpariaethDyddiad cychwynRhif yr O.S.
Adran 571 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 58 (yn rhannol)1 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 591 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 601 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 611 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 621 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 631 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 641 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adran 651 Medi 2010O.S.2010/1699 (Cy.160) (C.87)

Gweler hefyd adran 75(1) a (2) o'r Mesur am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Chwefror 2010 (dyddiad y cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources