2010 Rhif 2582 (Cy.216) (C.123)
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2)(c) a 75(3) o Fesur plant a Theuluoedd (Cymru) 20101, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 20112
Yn ddarostyngedig i erthyglau 3, 4 a 5, mae'r darpariaethau o'r Mesur a bennir yn Atodlen 1 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
Darpariaeth arbed ar gyfer y Rheoliadau Anghymhwyso3
Er gwaethaf diddymu adrannau 79C(2) a (3) a 79M o Ddeddf 1989, mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 yn parhau i gael effaith hyd nes gwneir rheoliadau o dan adran 38 o'r Mesur (anghymhwyso rhag cofrestru).
Arbedion a darpariaethau trosiannol4
Mae Atodlenni 2 a 3, sy'n gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â chychwyn gan y Gorchymyn hwn y darpariaethau a bennir yn Atodlen 1 yn cael effaith ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
ATODLEN 1DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2011
Adran 19 | Ystyr gwarchod plant a gofal dydd i blant |
Adran 20 | Cofrestr o warchodwyr plant |
Adran 21 | Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru |
Adran 22 | Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blant |
Adran 23 | Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestru |
Adran 24 | Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant |
Adran 25 | Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant |
Adran 26 | Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant |
Adran 27 | Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blant |
Adran 28 | Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau |
Adran 29 | Amodau wrth gofrestru |
Adran 30 | Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau |
Adran 31 | Diddymu cofrestriad |
Adran 32 | Atal cofrestriad |
Adran 33 | Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol |
Adran 34 | Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad |
Adran 35 | Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau |
Adran 36 | Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol |
Adran 37 | Apelau |
Adran 38 | Anghymhwyso rhag cofrestru |
Adran 39 | Canlyniadau anghymwyso |
Adran 40 | Arolygu |
Adran 41 | Pwerau mynediad |
Adran 42 | Pwerau arolygu |
Adran 43 | Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediad |
Adran 44 | Cyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru |
Adran 45 | Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol |
Adran 46 | Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniol |
Adran 47 | Hysbysiadau o gosb |
Adran 48 | Hysbysiadau o gosb: darpariaethau atodol |
Adran 49 | Terfyn amser ar gyfer achosion |
Adran 50 | Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol |
Adran 51 | Cymdeithasau anghorfforedig |
Adran 52 | Swyddogaethau awdurdodau lleol |
Adran 53 | Ffioedd |
Adran 54 | Cydweithredu rhwng awdurdodau |
Adran 55 | Hysbysiadau |
Adran 56 | Marwolaeth person cofrestredig |
Adran 72 ac Atodlen 1 i'r graddau y maent yn ymwneud ag |
|
Adran 73 ac Atodlen 2 i'r graddau y maent yn ymwneud ag |
|
ATODLEN 2ARBEDION CYFFREDINOL
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon ac yn Atodlen 3—
mae i “Tribiwnlys Haen Gyntaf” (“First-tier Tribunal”) yr ystyr a roddir i “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 20074.
Arbedion cyffredinol ar gyfer pethau a wnaed cyn y dyddiad perthnasol2
1
Onid oes bwriad i'r gwrthwyneb yn ymddangos yn Atodlen 3, ni fydd dyfodiad i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 yn effeithio ar —
a
unrhyw weithred a wneir, unrhyw hysbysiad a gyflwynir, unrhyw gais a wneir nac unrhyw benderfyniad a wneir; neu
b
unrhyw ofyniad neu gyfyngiad amser; neu
c
unrhyw achos cyfreithiol a gychwynnwyd; neu
ch
unrhyw orchymyn a wnaed gan lys, gan ynad heddwch neu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf
o dan, neu mewn perthynas ag unrhyw rai o'r darpariaethau a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd o ganlyniad i gychwyn Atodlenni 1 a 2 o'r Mesur.
2
Mewn perthynas â'r darpariaethau a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd o ganlyniad i gychwyn Atodlenni 1 a 2 o'r Mesur, ceir dwyn neu barhau achosion cyfreithiol, a cheir gosod a gorfodi rhwymedïau neu gosbau mewn perthynas â gweithredoedd a wnaed o dan, mewn perthynas â, neu'n groes i unrhyw rai o'r darpariaethau hynny cyn y dyddiad perthnasol, fel pe na bai'r diwygiadau neu'r ddiddymiadau wedi eu gwneud.
ATODLEN 3ARBEDION A DARPARIAETHAU TROSIANNOL MEWN PERTHYNAS Å RHAN XA O DDEDDF 1989 AC ATODLEN 9A I'R DDEDDF HONNO, A RHAN 2 O'R MESUR
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Rhan 2 o'r Mesur” (“Part 2 of the Measure”) yw adrannau 19 i 56 o'r Mesur;
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20025;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20106;
ystyr “Rheoliadau Atal 2004” (“the Suspension Regulations 2004”) yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 20047;
ystyr “Gorchymyn Eithriadau 2010” (“the Exceptions Order 2010”) yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010;
ystyr “Rheoliadau Anghymhwyso 2010” (“the Disqualification Regulations 2010”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 20108;
ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Ebrill 2011;
mae “trosglwyddo” (“transfer”) mewn perthynas â chofrestru yn cyfeirio at y broses y gwneir darpariaeth ar ei chyfer ym mharagraff 2(2) a dehonglir “trosglwyddwyd” (“transferred”) yn unol â hynny.
Cofrestru Gwarchodwyr Plant a Darparwyr Gofal Dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r ddeddf honno ar 1 Ebrill 20112
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â pherson sydd, yn union cyn y dyddiad perthnasol—
a
wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan adran 79(F)(1) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestriad); neu
b
wedi ei gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant gan Weinidogion Cymru o dan adran 79(F)(2) o Ddeddf 1989.
2
Yn effeithiol o'r dyddiad perthnasol ymlaen, at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur, trinnir person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fel pe bai wedi gwneud cais am gofrestriad, a chofrestriad wedi ei ganiatáu iddo.
3
Pan fo cofrestriad person wedi ei drosglwyddo yn unol ag is-baragraff (2), bydd unrhyw amod a osodwyd ar y person hwnnw o dan adran 79F(3) (caniatáu neu wrthod cofrestriad) neu 79M(2) (apelau) o Ddeddf 1989 ac a oedd yn gymwys i gofrestriad y person yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn parhau i gael effaith fel pe bai'n amod a osodwyd o dan adran 29 (amodau wrth cofrestru) neu adran 37 (apelau) o'r Mesur.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff 14, mae'r paragraff yn gymwys hyd yn oed pan fo cofrestriad y person, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau 2004.
5
Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi cyfleu i Weinidogion Cymru ei ddymuniad i beidio â bod yn gofrestredig fel gwarchodwr plant o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd i blant o dan adran 26 o'r Mesur.
6
Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant o dan adran 79F(1) neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd o dan adran 79F(2) o Ddeddf 1989 ac, ar y dyddiad perthnasol ac yn unol â dyfodiad i rym Gorchymyn Eithriadau 2010, nad yw bellach yn gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd i blant o dan adran 26 o'r Mesur.
Tystysgrifau cofrestru3
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y trosglwyddir ei gofrestriad yn unol â pharagraff 2(2).
2
Nid yw'r trosglwyddiad yn gyfystyr â rhoi cofrestriad adran 28(1)(b) neu (2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau).
3
Bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru i'r person hwnnw mewn perthynas â'r cofrestriad gwreiddiol o dan adran 79F o Ddeddf 1989, ac a oedd yn gyfredol yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn cael effaith at bob diben, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5), fel pe bai wedi ei dyroddi ar y dyddiad perthnasol yn unol ag adran 28(1)(b) neu (2)(b) o'r Mesur.
4
Nid yw adran 28(3) o'r Mesur yn cael effaith mewn perthynas â thystysgrif y cyfeirir ati yn is-baragraff (3).
5
At ddibenion adran 28(4) o'r Mesur (sy'n darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau diwygiedig oherwydd newid yn yr amgylchiadau) a heb leihau dim ar ei heffaith fel arall, bydd achlysur yr arolygiad cyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol gan arolygydd awdurdodedig—
a
gwarchod plant, neu
b
gofal dydd mewn unrhyw fangre,
a ddarperir gan berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, yn gyfystyr â newid yn yr amgylchiadau at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â'r cofrestriad dan sylw.
Personau nad ydynt yn gymwys i gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 20114
1
Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson (“gwarchodwr plant anghofrestredig”) sydd, cyn y dyddiad perthnasol—
a
yn anghymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno ond y mae'n ofynnol iddo gofrestru o dan Ran 2 o'r Mesur;
b
yn gofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed am dâl, mewn mangre ddomestig; ac
c
yn gwneud cais yn briodol cyn 1 Gorffennaf 2011 o dan adran 24 o'r Mesur am gofrestriad fel gwarchodwr plant.
2
Nid yw'r darpariaethau o dan adran 21(1), (2), (5) a (6) o'r Mesur yn gymwys i warchodwr plant anghofrestredig o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â'i fangre—
a
hyd nes caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau sydd wedi eu cytuno mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru; neu
b
os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt wedi eu cytuno felly, neu os gwrthodir y cais—
i
os na ddygir apêl, hyd nes daw'r cyfnod o 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno'r hysbysiad i'r gwarchodwr anghofrestredig o'r penderfyniad gan Weinidogion Cymru; neu
ii
os dygir apêl, hyd nes penderfynir neu y rhoddir y gorau i'r apêl.
3
Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson (“darparydd anghofrestredig gofal dydd i blant”) sydd, cyn y dyddiad perthnasol —
a
yn anghymwys i gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno;
b
yn gofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed am dâl, mewn mangre ac eithrio mangre ddomestig; ac
c
yn gwneud cais yn briodol cyn 1 Gorffennaf o dan adran 26 o'r Mesur am gofrestriad fel darparwr gofal dydd i blant.
4
Nid yw'r darpariaethau o dan adran 23(1) a (2) o'r Mesur yn gymwys i ddarparydd gofal dydd i blant anghofrestredig o dan is-baragraff (3) mewn perthynas â'i fangre —
a
hyd nes caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau sydd wedi eu cytuno mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru; neu
b
os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt wedi eu cytuno felly, neu os gwrthodir y cais—
i
os na ddygir apêl, hyd nes daw'r cyfnod o 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno'r hysbysiad i'r darparydd anghofrestredig o'r penderfyniad gan Weinidogion Cymru; neu
ii
os dygir apêl, hyd nes penderfynir neu y rhoddir y gorau i'r apêl.
Ceisiadau am gofrestriad o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno: ceisiadau nas penderfynwyd5
1
Pan fo person wedi gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant o dan adran 79E o Ddeddf 1989 (ceisiadau i gofrestru), a Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb ganiatáu neu wedi gwrthod cais y person hwnnw, rhaid penderfynu'r cais fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 24 o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant).
2
Pan fo person wedi gwneud cais am gofrestriad fel darparydd gofal dydd o dan adran 79E o Ddeddf 1989 (ceisiadau i gofrestru), a Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb ganiatáu neu wedi gwrthod cais y person hwnnw, rhaid penderfynu'r cais fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 26 o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant).
3
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff Gweinidogion Cymru gofrestru'r person hwnnw ac eithrio pan fyddai wedi bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais, pe bai'r cais wedi ei wneud o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26 o'r Mesur.
Hysbysiad o fwriad i wrthod cais i gofrestru o dan adran 79L(1)(a) o Ddeddf 19896
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at berson o'u bwriad i wrthod cais i gofrestru o dan adran 79(L)(1)(a) o Ddeddf 1989 (hysbysiad o fwriad i gymryd camau).
2
Bydd yr hysbysiad yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur (gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol) .
3
Bydd y person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.
4
Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.
5
Bydd hysbysiad, a anfonwyd at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.
6
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.
Hysbysiad o fwriad i gymryd camau o dan adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 19897
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan drosglwyddir cofrestriad person yn unol â pharagraff 2(2);
b
pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at y person o'u bwriad i gymryd un o'r camau a grybwyllir yn adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 1989; ac
c
y cam hwnnw heb gael effaith.
2
Bydd hysbysiad a anfonwyd at y person o dan adran 79L(1) yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur.
3
Bydd person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai'r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.
4
Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.
5
Bydd hysbysiad, a anfonwyd gan Weinidogion Cymru at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.
6
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.
Apelau yn erbyn camau a grybwyllir yn adran 79L(1) o Ddeddf 19898
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989 (apelau), yn erbyn cam a gymerwyd gan Weinidogion Cymru ac a grybwyllir yn adran 79L(1), ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.
2
Bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai'n apêl o dan adran 37 o'r Mesur (apelau).
3
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid penderfynu'r apêl fel pe bai'r cam y gwnaed yr apêl mewn perthynas ag ef wedi ei gymryd o dan y Mesur.
Apelau: amddiffyn plant mewn argyfwng9
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989, yn erbyn gorchymyn o dan adran 79K o Ddeddf 1989 (amddiffyn plant mewn argyfwng), ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.
2
Rhaid trin yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n apêl o dan adran 37 o'r Mesur.
Apelau: anghymhwyso10
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989, yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010, ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.
2
Yn ddarostyngedig i erthygl 3, bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai'n apêl a wnaed yn unol â Rheoliadau Anghymhwyso 2010 a bydd yn cael ei benderfynu yn unol ag adran 79M o Ddeddf 1989.
Hysbysiad o dan adran 79D o Ddeddf 198911
Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi o dan adran 79D(2) o Ddeddf 1989, bydd yr hysbysiad yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan adran 21(3) o'r Mesur (dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru).
Hysbysiadau cydymffurfio o dan Reoliadau 200212
Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi dyroddi hysbysiad cydymffurfio yn unol â rheoliad 3C o Reoliadau 2002 (hysbysiad cydymffurfio), bydd yr hysbysiad hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010.
Safonau Gofynnol Cenedlaethol13
Wrth arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i'r canlynol—
a
unrhyw beth a wneir, neu'r honnir iddo gael ei wneud, gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 23 o Reoliadau 2002 (safonau);
b
unrhyw fethiant, neu fethiant honedig, gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 24 o Reoliadau 2002.
Atal14
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cofrestriad person, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei atal gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o reoliadau Atal 2004 (pŵer i atal cofrestriad).
2
Bydd cofrestriad y person, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei atal gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 40 o Reoliadau 2010 (pŵer i atal cofrestriad).
3
Pan fo person wedi apelio i'r Tribiwnlys o dan reoliad 8 o Reoliadau Atal 2004 (hawliau i apelio) ac nad yw'r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cyrraedd penderfyniad, bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei gwneud o dan reoliad 45 o Reoliadau 2010 (hawliau i apelio).
Anghymhwyso: hepgoriadau15
1
Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi caniatâd i hepgor anghymhwysiad o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010 (a heb dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl), bydd y caniatâd hwnnw'n parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol.
2
Pan fo person, cyn y dyddiad perthnasol, wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru roi caniatâd i hepgor anghymhwysiad o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010, a bod Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud penderfyniad mewn perthynas â'r cais hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010.
3
Bydd caniatâd a roddir gan awdurdod lleol, ac y cyfeirir ato yn rheoliad 9(3)(b) o Reoliadau Anghymhwyso 2010, yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol.
Amddiffyn plant mewn argyfwng: cais o dan adran 79K o Ddeddf 198916
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn—
a
sy'n diddymu cofrestriad person o dan adran 79K(1)(a)(i) (amddiffyn plant mewn argyfwng) o Ddeddf 1989, ac ynad heddwch, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud y gorchymyn hwnnw, rhaid trin y cais, ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad);
b
sy'n gofyn am amrywio neu dynnu ymaith amod, neu osod amod newydd ar gofrestriad person o dan, yn eu trefn, adran 79K(1)(a)(ii) neu (iii) o Ddeddf 1989 ac ynad heddwch, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud y gorchymyn hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r cais yn ôl a gweithredu yn unol ag adran 35 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
Adran 57 | 1 Medi 2010 | |
Adran 58 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 59 | 1 Medi 2010 | |
Adran 60 | 1 Medi 2010 | |
Adran 61 | 1 Medi 2010 | |
Adran 62 | 1 Medi 2010 | |
Adran 63 | 1 Medi 2010 | |
Adran 64 | 1 Medi 2010 | |
Adran 65 | 1 Medi 2010 |
Gweler hefyd adran 75(1) a (2) o'r Mesur am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Chwefror 2010 (dyddiad y cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).