Search Legislation

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau o fewn Rhan 2 o'r Mesur sy'n ymwneud â gwarchod plant a ddarpariaeth gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed. Bwriedir i'r darpariaethau hyn gael eu defnyddio yn lle'r darpariaethau o fewn Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf Honno (gwarchod plant a gofal dydd i blant ifanc yng Nghymru) (“Deddf 1989”), sydd ar hyn o bryd yn llywodraethu ac yn rheoleiddio gofal o'r fath a ddarperir yng Nghymru, ac a ddirymir gan y Gorchymyn hwn.

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 a 4, mae erthygl 2 ac Atodlen 1 yn dwyn i rym ar1 Ebrill 2011 Ran 2 o'r Mesur sef, yn fwy penodol:

  • adran 19 o'r Mesur, sy'n pennu'r diffiniad o “gwarchod plant” “gofal dydd i blant”;

  • adran 20 o'r Mesur, sy'n gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal cofrestr o'r personau a gofrestrwyd fel gwarchodwyr plant;

  • adran 21 o'r Mesur, sy'n darparu na chaiff person weithredu fel gwarchodwr plant onid yw'r person hwnnw wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adran 22 o'r Mesur, sy'n gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal cofrestr o'r personau a gofrestrwyd i ddarparu gofal dydd i blant;

  • adran 23 o'r Mesur, sy'n darparu na chaiff person ddarparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru onid yw'r person hwnnw wedi ei gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant, o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adrannau 24 i 30 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y gofyniad i gofrestru, ac ar gyfer y broses o gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adrannau 31 to 33 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer diddymu cofrestriad (adran 31), atal cofrestriad (adran 32) a thynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol (adran 33) warchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant;

  • adrannau 34 a 35 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer amddiffyn plant mewn argyfwng. Mae adran 34 yn darparu ar gyfer diddymu cofrestriad person fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant, ac adran 35 ar gyfer newidiadau mewn amodau sydd i'r gosod ar gofrestriad gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i blant;

  • adran 36 o'r Mesur, sy'n pennu rhagofalon gweithdrefnol ar gyfer cymryd camau penodol o dan Ran 2 o'r Mesur;

  • adran 37, sy'n darparu ar gyfer gwneud apelau i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn cymryd camau penodedig ac mewn perthynas â phenderfyniadau penodedig;

  • adrannau 38 a 39, sy'n darparu ar gyfer anghymhwyso person rhag cofrestru (adran 38) a chanlyniadau anghymhwysiad o'r fath (adran 39);

  • adrannau 40 i 43, sy'n darparu ar gyfer pŵer arolygu a mynediad mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir yn unol â Rhan 2 o'r Mesur;

  • adrannau 44 a 45, sy'n ymwneud â chyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru (adran 44) ac i awdurdodau lleol (adran 45);

  • adrannau 46 i 51, sy'n darparu ar gyfer tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau sefydlog;

  • adrannau 52 i 56 o'r Mesur, sy'n darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol (adran 52), ffioedd (adran 53), cydweithredu rhwng awdurdodau (adran 54), hysbysiadau (adran 55) a marwolaeth y person cofrestredig (adran 56).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn arbed Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 er gwaethaf diddymu'r darpariaethau o Ddeddf 1989 y gwnaed y Rheoliadau hynny odanynt.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn ac Atodlenni 2 a 3 iddo yn gwneud arbediad a darpariaeth drosiannol o ganlyniad i gychwyn Rhan 2 o'r Mesur a diddymu Rhan XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno. Yn benodol, yn Atodlen 2, gwneir darpariaeth i sicrhau nad effeithir ar achosion cyfreithiol o dan, neu mewn perthynas â Rhan XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys arbedion a darpariaeth drosiannol. Yn benodol—

  • Mae paragraff 2 yn darparu, yn ddarostyngedig i eithriadau, y bydd personau a gofrestrwyd fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno yn union cyn 1 Ebrill 2011, yn cael eu trin ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw (“y dyddiad perthnasol”) fel pe baent wedi eu cofrestru yn unol â darpariaethau'r drefn newydd o dan Ran 2 o'r Mesur. Mae'n gwneud darpariaeth hefyd ynglŷn ag amodau a gysylltir â'r cofrestriad trosglwyddedig.

  • Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch tystysgrifau cofrestru pan ystyrir bod cofrestriad person wedi ei drosglwyddo o dan y drefn newydd a bennir yn Rhan 2 o'r Mesur. Darperir hefyd ar gyfer dyroddi tystysgrif gofrestru o dan Ran 2 o'r Mesur mewn amgylchiadau rhagnodedig.

  • Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer personau nad oeddent yn gymwys i'w cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd cyn y dyddiad. Yn benodol, mae'n datgymhwyso, mewn amgylchiadau penodol, darpariaethau yn Rhan 2 o'r Mesur sy'n gwneud gweithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd heb gofrestru yn dramgwydd.

  • Mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer trin ceisiadau, a wnaed o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno ac nad ydynt wedi eu penderfynu ar 1 Ebrill 2011, fel pe baent wedi eu gwneud o dan Ran 2 o'r Mesur, ac ar gyfer eu penderfynu gan Weinidogion Cymru o dan y darpariaethau hynny.

  • Mae paragraffau 6 a 7 yn darparu ar gyfer trin hysbysiadau o fwriad a ddyroddir yn yr amgylchiadau a ragnodir o dan Ran XA (gwrthod cais am gofrestriad, neu ddiddymu cofrestriad presennol, gosod amod ar gofrestriad person neu wrthod tynnu ymaith neu amrywio amod a osodwyd eisoes ar gofrestriad person) fel pe bai'r hysbysiadau wedi'u dyroddi yn unol ag adran 36 o'r Mesur.

  • Mae paragraffau 8, 9 a 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trin apelau a wnaed i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn unol ag adran 79M o Ddeddf 1989, a wnaed cyn y dyddiad perthnasol ac nad ydynt wedi eu penderfynu, fel pe baent yn apelau o dan adran 37 o'r Mesur ac ar gyfer eu penderfynu yn unol â'r ddarpariaeth honno.

  • Mae paragraff 11 yn darparu y bydd hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 79D o Ddeddf 1989, ac sy'n parhau i gael effaith yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn parhau i gael effaith ar ac o'r dyddiad hwnnw ymlaen, fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan adran 21(3) o'r Mesur.

  • Mae paragraff 12 yn darparu y bydd hysbysiad cydymffurfio a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru i berson yn unol â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 cyn y dyddiad perthnasol yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei ddyroddi yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

  • Mae paragraff 13 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi sylw, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur, i gydymffurfiaeth person, neu'i fethiant i gydymffurfio, â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 23 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (safonau gofynnol cenedlaethol).

  • Mae paragraff 14 yn darparu, pan fo cofrestriad person wedi ei atal gan Weinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 yn union cyn y dyddiad perthnasol, y trinnir yr ataliad ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Bydd apelau yn erbyn ataliad, a wnaed cyn y dyddiad perthnasol a heb eu penderfynu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, yn cael eu trin ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud o dan reoliad 45 o Reoliadau 2010.

  • Mae paragraff 15 yn gwneud darpariaeth i unrhyw ganiatâd ar gyfer hepgor anghymhwysiad (a roddwyd o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010), nad yw wedi ei dynnu'n ôl, barhau i gael effaith o dan y Rheoliadau hynny, a arbedir gan erthygl 3 hyd nes gwneir rheoliadau o dan adran 38 o'r Mesur (anghymhwyso rhag cofrestru).

  • Mae paragraff 16 yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn i ddiddymu cofrestriad person o dan adran 79K(1)(a)(i) o Ddeddf 1989 ac yn union cyn y dyddiad perthnasol, nad yw'r gorchymyn hwnnw wedi ei wneud, y trinnir y cais hwnnw, ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).

  • Mae'n darparu hefyd, pan fo'r gorchymyn y gwneir cais amdano yn un ar gyfer amrywio neu dynnu ymaith amod, neu osod amod newydd, ar gofrestriad person (yn unol ag adran 79K(1)(a)(ii) neu (iii) yn eu trefn) ac, yn union cyn y dyddiad perthnasol, nad yw'r gorchymyn hwnnw wedi ei wneud, y bydd Gweinidogion Cymru yn tynnu'r cais hwnnw yn ôl ac yn gweithredu yn unol ag adran 35 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources