xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 4

ATODLEN 3ARBEDION A DARPARIAETHAU TROSIANNOL MEWN PERTHYNAS Å RHAN XA O DDEDDF 1989 AC ATODLEN 9A I'R DDEDDF HONNO, A RHAN 2 O'R MESUR

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

Cofrestru Gwarchodwyr Plant a Darparwyr Gofal Dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r ddeddf honno ar 1 Ebrill 2011

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â pherson sydd, yn union cyn y dyddiad perthnasol—

(a)wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan adran 79(F)(1) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestriad); neu

(b)wedi ei gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant gan Weinidogion Cymru o dan adran 79(F)(2) o Ddeddf 1989.

(2Yn effeithiol o'r dyddiad perthnasol ymlaen, at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur, trinnir person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fel pe bai wedi gwneud cais am gofrestriad, a chofrestriad wedi ei ganiatáu iddo.

(3Pan fo cofrestriad person wedi ei drosglwyddo yn unol ag is-baragraff (2), bydd unrhyw amod a osodwyd ar y person hwnnw o dan adran 79F(3) (caniatáu neu wrthod cofrestriad) neu 79M(2) (apelau) o Ddeddf 1989 ac a oedd yn gymwys i gofrestriad y person yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn parhau i gael effaith fel pe bai'n amod a osodwyd o dan adran 29 (amodau wrth cofrestru) neu adran 37 (apelau) o'r Mesur.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff 14, mae'r paragraff yn gymwys hyd yn oed pan fo cofrestriad y person, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau 2004.

(5Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi cyfleu i Weinidogion Cymru ei ddymuniad i beidio â bod yn gofrestredig fel gwarchodwr plant o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd i blant o dan adran 26 o'r Mesur.

(6Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant o dan adran 79F(1) neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd o dan adran 79F(2) o Ddeddf 1989 ac, ar y dyddiad perthnasol ac yn unol â dyfodiad i rym Gorchymyn Eithriadau 2010, nad yw bellach yn gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, fel darparydd gofal dydd i blant o dan adran 26 o'r Mesur.

Tystysgrifau cofrestru

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y trosglwyddir ei gofrestriad yn unol â pharagraff 2(2).

(2Nid yw'r trosglwyddiad yn gyfystyr â rhoi cofrestriad adran 28(1)(b) neu (2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau).

(3Bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru i'r person hwnnw mewn perthynas â'r cofrestriad gwreiddiol o dan adran 79F o Ddeddf 1989, ac a oedd yn gyfredol yn union cyn y dyddiad perthnasol, yn cael effaith at bob diben, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5), fel pe bai wedi ei dyroddi ar y dyddiad perthnasol yn unol ag adran 28(1)(b) neu (2)(b) o'r Mesur.

(4Nid yw adran 28(3) o'r Mesur yn cael effaith mewn perthynas â thystysgrif y cyfeirir ati yn is-baragraff (3).

(5At ddibenion adran 28(4) o'r Mesur (sy'n darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau diwygiedig oherwydd newid yn yr amgylchiadau) a heb leihau dim ar ei heffaith fel arall, bydd achlysur yr arolygiad cyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol gan arolygydd awdurdodedig—

(a)gwarchod plant, neu

(b)gofal dydd mewn unrhyw fangre,

a ddarperir gan berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, yn gyfystyr â newid yn yr amgylchiadau at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â'r cofrestriad dan sylw.

Personau nad ydynt yn gymwys i gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2011

4.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson (“gwarchodwr plant anghofrestredig”) sydd, cyn y dyddiad perthnasol—

(a)yn anghymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno ond y mae'n ofynnol iddo gofrestru o dan Ran 2 o'r Mesur;

(b)yn gofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed am dâl, mewn mangre ddomestig; ac

(c)yn gwneud cais yn briodol cyn 1 Gorffennaf 2011 o dan adran 24 o'r Mesur am gofrestriad fel gwarchodwr plant.

(2Nid yw'r darpariaethau o dan adran 21(1), (2), (5) a (6) o'r Mesur yn gymwys i warchodwr plant anghofrestredig o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â'i fangre—

(a)hyd nes caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau sydd wedi eu cytuno mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt wedi eu cytuno felly, neu os gwrthodir y cais—

(i)os na ddygir apêl, hyd nes daw'r cyfnod o 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno'r hysbysiad i'r gwarchodwr anghofrestredig o'r penderfyniad gan Weinidogion Cymru; neu

(ii)os dygir apêl, hyd nes penderfynir neu y rhoddir y gorau i'r apêl.

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson (“darparydd anghofrestredig gofal dydd i blant”) sydd, cyn y dyddiad perthnasol —

(a)yn anghymwys i gofrestru fel darparydd gofal dydd i blant o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno;

(b)yn gofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed am dâl, mewn mangre ac eithrio mangre ddomestig; ac

(c)yn gwneud cais yn briodol cyn 1 Gorffennaf o dan adran 26 o'r Mesur am gofrestriad fel darparwr gofal dydd i blant.

(4Nid yw'r darpariaethau o dan adran 23(1) a (2) o'r Mesur yn gymwys i ddarparydd gofal dydd i blant anghofrestredig o dan is-baragraff (3) mewn perthynas â'i fangre —

(a)hyd nes caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau sydd wedi eu cytuno mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt wedi eu cytuno felly, neu os gwrthodir y cais—

(i)os na ddygir apêl, hyd nes daw'r cyfnod o 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno'r hysbysiad i'r darparydd anghofrestredig o'r penderfyniad gan Weinidogion Cymru; neu

(ii)os dygir apêl, hyd nes penderfynir neu y rhoddir y gorau i'r apêl.

Ceisiadau am gofrestriad o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno: ceisiadau nas penderfynwyd

5.—(1Pan fo person wedi gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant o dan adran 79E o Ddeddf 1989 (ceisiadau i gofrestru), a Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb ganiatáu neu wedi gwrthod cais y person hwnnw, rhaid penderfynu'r cais fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 24 o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant).

(2Pan fo person wedi gwneud cais am gofrestriad fel darparydd gofal dydd o dan adran 79E o Ddeddf 1989 (ceisiadau i gofrestru), a Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb ganiatáu neu wedi gwrthod cais y person hwnnw, rhaid penderfynu'r cais fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 26 o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant).

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff Gweinidogion Cymru gofrestru'r person hwnnw ac eithrio pan fyddai wedi bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais, pe bai'r cais wedi ei wneud o dan adran 24 neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26 o'r Mesur.

Hysbysiad o fwriad i wrthod cais i gofrestru o dan adran 79L(1)(a) o Ddeddf 1989

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at berson o'u bwriad i wrthod cais i gofrestru o dan adran 79(L)(1)(a) o Ddeddf 1989 (hysbysiad o fwriad i gymryd camau).

(2Bydd yr hysbysiad yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur (gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol) .

(3Bydd y person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.

(4Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.

(5Bydd hysbysiad, a anfonwyd at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.

(6Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.

Hysbysiad o fwriad i gymryd camau o dan adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 1989

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir cofrestriad person yn unol â pharagraff 2(2);

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at y person o'u bwriad i gymryd un o'r camau a grybwyllir yn adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 1989; ac

(c)y cam hwnnw heb gael effaith.

(2Bydd hysbysiad a anfonwyd at y person o dan adran 79L(1) yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur.

(3Bydd person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai'r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.

(4Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.

(5Bydd hysbysiad, a anfonwyd gan Weinidogion Cymru at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.

(6Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.

Apelau yn erbyn camau a grybwyllir yn adran 79L(1) o Ddeddf 1989

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989 (apelau), yn erbyn cam a gymerwyd gan Weinidogion Cymru ac a grybwyllir yn adran 79L(1), ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.

(2Bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai'n apêl o dan adran 37 o'r Mesur (apelau).

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid penderfynu'r apêl fel pe bai'r cam y gwnaed yr apêl mewn perthynas ag ef wedi ei gymryd o dan y Mesur.

Apelau: amddiffyn plant mewn argyfwng

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989, yn erbyn gorchymyn o dan adran 79K o Ddeddf 1989 (amddiffyn plant mewn argyfwng), ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.

(2Rhaid trin yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n apêl o dan adran 37 o'r Mesur.

Apelau: anghymhwyso

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl wedi ei gwneud, cyn y dyddiad perthnasol, i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 79M(1) o Ddeddf 1989, yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010, ac nad yw'r Tribiwnlys wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 79M(2) mewn perthynas â'r apêl.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 3, bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai'n apêl a wnaed yn unol â Rheoliadau Anghymhwyso 2010 a bydd yn cael ei benderfynu yn unol ag adran 79M o Ddeddf 1989.

Hysbysiad o dan adran 79D o Ddeddf 1989

11.  Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi o dan adran 79D(2) o Ddeddf 1989, bydd yr hysbysiad yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan adran 21(3) o'r Mesur (dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru).

Hysbysiadau cydymffurfio o dan Reoliadau 2002

12.  Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi dyroddi hysbysiad cydymffurfio yn unol â rheoliad 3C o Reoliadau 2002 (hysbysiad cydymffurfio), bydd yr hysbysiad hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol

13.  Wrth arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i'r canlynol—

(a)unrhyw beth a wneir, neu'r honnir iddo gael ei wneud, gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 23 o Reoliadau 2002 (safonau);

(b)unrhyw fethiant, neu fethiant honedig, gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan reoliad 24 o Reoliadau 2002.

Atal

14.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cofrestriad person, yn union cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei atal gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o reoliadau Atal 2004 (pŵer i atal cofrestriad).

(2Bydd cofrestriad y person, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei atal gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 40 o Reoliadau 2010 (pŵer i atal cofrestriad).

(3Pan fo person wedi apelio i'r Tribiwnlys o dan reoliad 8 o Reoliadau Atal 2004 (hawliau i apelio) ac nad yw'r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cyrraedd penderfyniad, bydd yr apêl, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei gwneud o dan reoliad 45 o Reoliadau 2010 (hawliau i apelio).

Anghymhwyso: hepgoriadau

15.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi caniatâd i hepgor anghymhwysiad o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010 (a heb dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl), bydd y caniatâd hwnnw'n parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol.

(2Pan fo person, cyn y dyddiad perthnasol, wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru roi caniatâd i hepgor anghymhwysiad o dan reoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010, a bod Gweinidogion Cymru, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud penderfyniad mewn perthynas â'r cais hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Anghymhwyso 2010.

(3Bydd caniatâd a roddir gan awdurdod lleol, ac y cyfeirir ato yn rheoliad 9(3)(b) o Reoliadau Anghymhwyso 2010, yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol.

Amddiffyn plant mewn argyfwng: cais o dan adran 79K o Ddeddf 1989

16.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn—

(a)sy'n diddymu cofrestriad person o dan adran 79K(1)(a)(i) (amddiffyn plant mewn argyfwng) o Ddeddf 1989, ac ynad heddwch, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud y gorchymyn hwnnw, rhaid trin y cais, ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad);

(b)sy'n gofyn am amrywio neu dynnu ymaith amod, neu osod amod newydd ar gofrestriad person o dan, yn eu trefn, adran 79K(1)(a)(ii) neu (iii) o Ddeddf 1989 ac ynad heddwch, yn union cyn y dyddiad perthnasol, heb wneud y gorchymyn hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r cais yn ôl a gweithredu yn unol ag adran 35 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau).