Search Legislation

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2880 (Cy.238)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

Gwnaed

30 Tachwedd 2010

Yn dod i rym

1 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77(2) a 90(3)(a) a (b) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraffau 1, 2, 3(1)(a) a (2)(a), 4 i 8, 9(1) a (2), 10, 12, 16 i 19 a 21 o Atodlen 6 iddi(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno y bydd pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw pan fyddant yn arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn wrth osod sancsiwn sifil.

Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 77(4)(a) a (b) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraff 27(3)(2) o Atodlen 6 iddi.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2011.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “blwyddyn adrodd” (“reporting year”) yw—

    (a)

    y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n dod i ben ar 6 Ebrill 2012;

    (b)

    ar ôl hynny, y cyfnod sy'n cychwyn ar 7 Ebrill mewn un flwyddyn ac sy'n dod i ben ar 6 Ebrill y flwyddyn ganlynol; ac mae'r cyfnod hwnnw am y tro cyntaf i gychwyn ar 7 Ebrill 2012;

  • ystyr “cofnod” (“record”) yw'r wybodaeth a bennir yn rheoliad 8(3);

  • ystyr “cosb am dalu'n hwyr” (“late payment penalty”) yw unrhyw gynnydd mewn swm sy'n daladwy—

    (a)

    fel cosb ariannol benodedig, yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 2;

    (b)

    fel cosb ariannol amrywiadwy, yn rhinwedd paragraff 9 o Atodlen 3;

    (c)

    fel cosb am beidio â chydymffurfio, yn rhinwedd paragraff 8 o Atodlen 4;

  • mae i “hysbysiad adennill costau gorfodi” (“enforcement costs recovery notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16(1);

  • mae i “hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty notice”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5(4) o Atodlen 4;

  • mae i “swm penodedig” (“specified sum”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4(2) o Atodlen 2;

  • mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau; ac

  • ystyr “y tâl” (“the charge”) yw'r isafswm tâl a bennir yn rheoliad 6.

(2Mae cyfeiriadau at—

(a)hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yn gyfeiriadau at hysbysiad o fwriad a gyflwynir o dan baragraff 3(1) o Atodlen 2;

(b)hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yn gyfeiriadau at hysbysiad terfynol a gyflwynir o dan baragraff 6(5) o Atodlen 2;

(c)hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn, yn gyfeiriadau at hysbysiad o fwriad a gyflwynir o dan baragraff 3(1) o Atodlen 3;

(ch)hysbysiad terfynol mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn, yn gyfeiriadau at hysbysiad terfynol a gyflwynir o dan baragraff 5(6) o Atodlen 3;

(d)hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb am beidio â chydymffurfio, yn gyfeiriadau at hysbysiad o fwriad a gyflwynir o dan baragraff 3(1) o Atodlen 4.

(3Mae cyfeiriadau at fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl yn gyfeiriadau at y bagiau siopa untro hynny y mae rheoliad 6 yn gymwys iddynt.

Ystyr “bag siopa untro”

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “bag siopa untro” (“single use carrier bag”) yw bag sy'n cyfateb i'r disgrifiad ym mharagraff (2) neu (3)—

(2Mae bag yn cyfateb i'r disgrifiad yn y paragraff hwn—

(a)os yw wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf o bapur, deunydd sy'n seiliedig ar blanhigion neu startsh naturiol; a

(b)os nad yw wedi ei weithgynhyrchu'n benodol i'w ailddefnyddio'n aml.

(3Mae bag yn cyfateb i'r disgrifiad yn y paragraff hwn os yw'n fag plastig—

(a)nad yw'n bodloni pob un o'r gofynion ym mharagraff (4); neu

(b)sy'n bodloni pob un o'r gofynion ym mharagraff (4) ond nad yw wedi ei fwriadu i'w ailddefnyddio'n aml (gweler paragraff (5)).

(4Y gofynion yw—

(a)bod y naill a'r llall o ddimensiynau'r bag yn fwy na 404 o filimetrau (“mm”);

(b)bod o leiaf un o ddimensiynau'r bag yn fwy na 439 mm;

(c)bod y bag wedi ei weithgynhyrchu o ddeunydd sy'n fwy na 49 o ficronau yn ei drwch.

(5Mae bag plastig wedi ei fwriadu i'w ailddefnyddio'n aml—

(a)os yw wedi ei brynu gan y cwsmer; a

(b)pan fydd wedi ei dreulio'n llwyr, os gellir ei ddychwelyd i'r gwerthwr y prynwyd ef ohono a chael un newydd yn ei le yn ddi-dâl.

(6Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “bag plastig” (“plastic bag”) yw bag sydd wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf o blastig;

  • ystyr “dimensiynau” (“dimensions”) yw lled neu uchder.

Ystyr “gwerthwr”

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “gwerthwr” (“seller”) yw person sydd wrth fasnachu neu redeg busnes—

(a)yn gwerthu nwyddau o le yng Nghymru;

(b)yn gwerthu nwyddau a gyflenwir i bersonau yng Nghymru.

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo person (A) yn gwerthu nwyddau yn swyddogaeth A fel swyddog neu gyflogai i berson arall (B), yna at ddibenion y Rheoliadau hyn B yw'r gwerthwr o dan yr amgylchiadau hynny, ac nid A.

Gweinyddwr

5.—(1Awdurdod lleol sydd i weinyddu'r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny, ef yw'r gweinyddwr ar gyfer ei ardal(3).

(2Ym mharagraff (1) mae'r cyfeiriad at awdurdod lleol yn gyfeiriad at gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

RHAN 2Y Tâl a Godir

Gofyniad i godi tâl

6.  Rhaid i werthwr godi isafswm o 5 ceiniog am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—

(a)yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;

(b)at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.

Esemptiad i'r gofyniad i godi tâl

7.  Nid yw rheoliad 6 yn gymwys mewn perthynas â chyflenwi bagiau siopa untro o'r mathau a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac mae'r Atodlen honno yn cael effaith yn unol â hynny.

RHAN 3Cofnodion a Chyhoeddi

Cadw cofnodion

8.—(1Rhaid i werthwr gadw cofnod cywir o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.

(2Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.

(3Yr wybodaeth yw—

(a)nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir gan y gwerthwr sy'n denu'r tâl;

(b)y swm gros a gafwyd gan y gwerthwr drwy godi taliadau am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;

(c)enillion gros y tâl(4);

(ch)enillion net y tâl(5);

(d)dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng enillion gros ac enillion net y tâl, gan gynnwys (yn benodol)—

(i)y dosraniad rhwng unrhyw TAW briodoladwy a chostau rhesymol;

(ii)y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;

(dd)at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net a gafwyd o'r tâl.

(4Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008(6)

(a)swm unrhyw TAW briodoladwy;

(b)swm unrhyw gostau rhesymol.

(5Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—

    (a)

    costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

    (b)

    costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid;

  • mae i “TAW” yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 1994(7);

  • ystyr “TAW briodoladwy” (“attributable VAT”) yw'r TAW ar gyflenwad gan y gwerthwr o fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl.

Argaeledd cofnodion

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person a grybwyllir ym mharagraff (4) yn gwneud cais i werthwr yn ysgrifenedig i gyflenwi cofnod am flwyddyn adrodd.

(2Os daw cais i law yn ystod y cyfnod y delir gafael ar y cofnod sydd o dan sylw, rhaid i'r gwerthwr ddarparu copi o'r cofnod hwnnw i'r person a wnaeth gais amdano o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl iddo gael y cais ysgrifenedig.

(3Y cyfnod dal gafael yw'r cyfnod o dair blynedd y mae'n rhaid dal gafael ar unrhyw gofnod penodol o dan reoliad 8(2).

(4Y personau yw—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)aelod o'r cyhoedd.

Cyhoeddi cofnodion

10.—(1Rhaid i werthwr gyhoeddi'r cofnod ar gyfer blwyddyn adrodd os bodlonir yr amodau ym mharagraff (2) gan y gwerthwr mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd o dan sylw.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y gwerthwr yn berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994;

(b)bod y gwerthwr yn cyflenwi 1000 neu fwy o fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl.

(3Rhaid i werthwr gyhoeddi'r cofnod ar neu cyn 31 Mai yn y flwyddyn adrodd sy'n dilyn honno y mae'r cofnod yn ymwneud â hi.

(4Rhaid i'r cofnod barhau i fod wedi ei gyhoeddi hyd at 31 Mai yn y flwyddyn adrodd ddilynol.

(5Rhaid i'r cyhoeddi fod yn y dull a ganlyn—

(a)ar wefan y gwerthwr; neu

(b)drwy arddangos hysbysiad sy'n cynnwys y cofnod yn holl fangreoedd y gwerthwr yng Nghymru y mae gan gwsmeriaid fynediad iddynt.

(6Os bydd gwerthwr yn cyhoeddi'r cofnod ar ei wefan—

(a)rhaid i'r cofnod gael ei arddangos yn amlwg ar dudalen gartref y gwerthwr; neu

(b)os yw'r cofnod i gael ei arddangos yn rhywle arall ar wefan y gwerthwr, rhaid i ddolen i'r cofnod gael ei harddangos yn amlwg ar dudalen gartref y gwerthwr.

(7Os bydd gwerthwr yn cyhoeddi'r cofnod yn y dull a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b), rhaid i'r hysbysiad gael ei arddangos mewn lle amlwg, fel bod cwsmeriaid yn gallu ei weld yn eglur ac yn gallu ei ddarllen.

RHAN 4Torri'r Rheoliadau

Torri'r Rheoliadau

11.—(1Mae gwerthwr yn torri'r Rheoliadau hyn os yw, oherwydd methiant i gymryd pob cam rhesymol sy'n angenrheidiol i'w alluogi i wneud hynny, yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y gofynion yw—

(a)y gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6;

(b)y gofyniad i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8;

(c)y gofyniad i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8;

(ch)y gofyniad i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9;

(d)y gofyniad i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10.

(3Mae gwerthwr yn torri'r Rheoliadau hyn os yw, heb achos rhesymol—

(a)yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i weinyddwr;

(b)yn rhwystro gweinyddwr neu'n methu â rhoi cymorth iddo fel arall wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 5Sancsiynau sifil

Sancsiynau sifil

12.  Mae'r Atodlenni canlynol yn cael effaith—

(a)Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig(8);

(b)Atodlen 3, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn(9).

Cyfuniad o gosbau

13.—(1Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig i werthwr os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.

(2Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn i werthwr yn unrhyw o'r amgylchiadau canlynol—

(a)pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;

(b)pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;

(c)pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn eisoes wedi ei osod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.

RHAN 6Gorfodi a Pheidio â chydymffurfio

Pwerau gorfodi

14.—(1Mae gan weinyddwr y pwerau gorfodi sydd yn y rheoliad hwn.

(2Y pwerau yw—

(a)prynu nwyddau prawf er mwyn canfod a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn;

(b)arolygu unrhyw nwyddau a mynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol (heblaw mangre ddomestig) er mwyn canfod a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn;

(c)os yw gweinyddwr yn credu'n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn—

(i)cwestiynu gwerthwr neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr;

(ii)ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau'n cael eu dangos neu fod gwybodaeth yn cael ei darparu.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.

(4Rhaid i weinyddwr sy'n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (2)(b) neu (c) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o'i awdurdod os y person sy'n gofyn iddo, neu felly yr ymddengys, yw—

(a)y gwerthwr, neu swyddog neu gyflogai i'r gwerthwr;

(b)perchennog neu feddiannydd unrhyw fangre lle y mae'r gweinyddwr yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw.

(5Nid oes dim ym mharagraff (2) sy'n gorfodi dangos unrhyw ddogfen—

(a)yng Nghymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon, y byddai gan y person hwnnw ar seiliau braint broffesiynol gyfreithiol yr hawl i beidio â'i dangos o dan orchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu'r Uchel Lys; neu

(b)yn yr Alban, y byddai gan y person hwnnw ar seiliau cyfrinachedd gohebiaeth yr hawl i beidio â'i dangos o dan orchymyn dangos dogfennau mewn achos yn y Llys Sesiwn.

Gofynion yn ôl disgresiwn nad ydynt yn rhai ariannol: gorfodi

15.  Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol mewn achosion pan fo gwerthwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol(10) ac mae'r Atodlen honno'n cael effaith yn unol â hynny.

Adennill costau gorfodi

16.—(1Caiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau gorfodi”) i werthwr y gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn ei gwneud yn ofynnol bod y gwerthwr hwnnw'n talu'r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod (“costau gorfodi”).

(2Mae costau gorfodi yn cynnwys, yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigwr (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3Rhaid i hysbysiad adennill costau gorfodi bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)sut y gellir talu;

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;

(c)yr hawl i apelio; a

(ch)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.

(4Rhaid i'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad adennill costau gorfodi i'r gwerthwr.

(5Rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad adennill costau gorfodi.

(6Ond mae paragraff (5) yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn y rheoliad hwn a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).

(7Os yw penderfyniad gweinyddwr o dan y rheoliad hwn yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyfernir yr apêl.

(8Rhaid i weinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r costau a bennir mewn hysbysiad adennill costau gorfodi os bydd y gwerthwr y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn gofyn amdano.

(9Nid yw gwerthwr yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r gwerthwr hwnnw'n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.

(10Caiff gwerthwr apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad i dalu costau;

(b)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr o ran swm y costau hynny.

Adennill taliadau

17.  Caiff gweinyddwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, cosb am fethu â chydymffurfio, costau gorfodi neu gosb am fod yn hwyr yn talu—

(a)fel dyled sifil;

(b)ar orchymyn gan lys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifil

18.—(1Caiff gweinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i werthwr y gosodwyd sancsiwn sifil arno(11).

(2Y canlynol yw'r wybodaeth a bennir at ddibenion paragraff 19(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008—

(a)y math o sancsiwn sifil o dan sylw;

(b)y seiliau dros osod y sancsiwn;

(c)os oedd y sancsiwn yn gosb ariannol benodedig neu'n gosb ariannol amrywiadwy, swm y gosb honno;

(ch)os oedd y sancsiwn yn ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n ariannol, natur y gofyniad o dan sylw.

(3Rhaid i hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)pennu'r dull cyhoeddi sy'n ofynnol;

(b)pennu'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio â'r hysbysiad o fewn amser a bennir yn yr hysbysiad.

(4Os bydd gwerthwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd o fewn yr amser a bennir o dan baragraff (3)(b), caiff y gweinyddwr—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth y mae'n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad; a

(b)adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y gwerthwr o dan sylw.

(5Pan fo gweinyddwr yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth o dan baragraff (4)(a) rhaid iddo wneud hynny mewn dull y mae'n ystyried yw'r dull mwyaf tebygol i ddwyn yr wybodaeth i sylw aelodau o'r cyhoedd yn ei ardal.

RHAN 7Gweinyddu

Cwmpas pwerau gweinyddwyr

19.  Mae'r swyddogaethau a roddir i weinyddwr gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy gan weinyddwr yn ei ardal ac mewn perthynas â hi.

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio

20.—(1Caiff gweinyddwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad neu hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol benodedig;

(b)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad neu hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol amrywiadwy neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(c)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad neu hysbysiad terfynol mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n ariannol neu ddiwygio'r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau swm y gwaith angenrheidiol i gydymffurfio â'r hysbysiad;

(ch)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb am beidio â chydymffurfio neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(d)tynnu'n ôl hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(dd)tynnu'n ôl hysbysiad adennill costau gorfodi neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i weinyddwr ymgynghori â'r gwerthwr o dan sylw cyn tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio o dan baragraff (1).

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys yn unrhyw achos os nad yw'n ymarferol i ymgynghori â'r gwerthwr o dan sylw.

Apelau

21.—(1Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf(12) (“y Tribiwnlys”).

(2Yn unrhyw apêl pan fo cyflawni toriad yn y Rheoliadau yn fater sy'n gofyn am ddyfarniad, rhaid i'r gweinyddwr brofi'r toriad hwnnw yn y Rheoliadau yn ôl pwysau tebygolrwydd.

(3Yn unrhyw achos arall rhaid i'r Tribiwnlys ddyfarnu safon y prawf.

(4Mae gofyniad neu hysbysiad sy'n destun apêl yn cael eu hatal tra disgwylir dyfarniad i'r apêl.

(5Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

(a)tynnu'n ôl y gofyniad neu'r hysbysiad;

(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(c)cymryd y camau hynny y gallai gweinyddwr eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a roes fod i'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(ch)dychwelyd y penderfyniad ai cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy'n ymwneud â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y gweinyddwr.

Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil

22.—(1Rhaid i weinyddwr gyhoeddi canllawiau am ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol (gweler paragraffau (5) a (6)).

(3Rhaid i weinyddwr ddiwygio'r canllawiau lle y mae hynny'n briodol.

(4Rhaid i'r gweinyddwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

(5Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw'r wybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r gosb yn debygol o gael ei gosod;

(b)o dan ba amgylchiadau ni chaniateir gosod y gosb;

(c)swm y gosb;

(ch)sut y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad;

(d)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau; a

(dd)hawliau i apelio.

(6Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw'r wybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r gofyniad yn debygol o gael ei osod;

(b)o dan ba amgylchiadau ni chaniateir gosod y gofyniad;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion sy'n debygol o gael eu cymryd i ystyriaeth gan y gweinyddwr wrth iddo ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, os yw'n berthnasol, unrhyw ddisgownt am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio);

(ch)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau; a

(d)hawliau i apelio.

Canllawiau ychwanegol

23.—(1Rhaid i weinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd yn arfer y pwerau a roddir gan reoliad 15 ac Atodlen 4 (cosbau am beidio â chydymffurfio) a rheoliad 16 (adennill costau gorfodi).

(2Rhaid i'r canllawiau gynnwys, yn benodol, gwybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r pwerau'n debygol o gael eu harfer;

(b)y materion sydd i'w hystyried wrth ddyfarnu'r symiau mewn golwg;

(c)hawliau i apelio.

(3Rhaid i weinyddwr ddiwygio'r canllawiau lle y mae hynny'n briodol.

(4Rhaid i weinyddwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

Ymgynghori ar ganllawiau

24.  Cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn rhaid i weinyddwr ymgynghori â'r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol;

(c)Cydffederasiwn Diwydiant Prydain;

(ch)Ffederasiwn Busnesau Bach;

(d)Consortiwm Manwerthu Prydain.

Cyhoeddi camau gorfodi

25.—(1Rhaid i weinyddwr o bryd i'w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy'n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt am dorri'r Rheoliadau hyn;

(b)os cosb ariannol benodedig yw'r sancsiwn sifil, yr achosion y rhyddhawyd atebolrwydd rhag cosb ynddynt yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 (rhyddhau rhag atebolrwydd yn dilyn hysbysiad o fwriad).

(2Ym mharagraff (1)(a) nid yw'r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan osodwyd y sancsiwn ond pan gafodd ei wrthdroi ar apêl.

(3Rhaid i weinyddwr beidio â chyhoeddi adroddiad mewn unrhyw achos pan fo Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r gweinyddwr yn ysgrifenedig y byddai'n amhriodol i wneud hynny.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2010

Rheoliad 7

ATODLEN 1

Esemptiadau

1.—(1Y mathau o fagiau siopa untro nad yw rheoliad 6 yn gymwys iddynt yw—

(a)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;

(b)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;

(c)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;

(ch)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys nwyddau heb eu pecynnu ac a halogwyd gan bridd;

(d)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys y canlynol a gafodd eu pecynnu—

(i)pysgod neu gynhyrchion pysgod heb eu coginio;

(ii)cig neu gynhyrchion cig heb eu coginio;

(iii)dofednod neu gynhyrchion dofednod heb eu coginio,

y mae, mewn perthynas â hwy, uchafswm eu dimensiynau yn 205 o filimetrau (“mm”) (lled) x 125 mm (lled cwysed) x 458 mm (uchder gan gynnwys handlenni);

(dd)bagiau wedi eu selio a gyflenwir gan werthwr cyn cyrraedd y man gwerthu;

(e)bagiau a ddefnyddir i gynnwys nwyddau a brynwyd ar fwrdd llongau, trenau, awyrennau, coetsis neu fysiau;

(f)bagiau a ddefnyddir i gynnwys nwyddau a brynwyd mewn man a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn fan o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982(13);

(ff)bagiau ar gyfer pecynnu a chyflenwi post neu nwyddau wth archebu drwy'r post;

(g)bagiau—

(i)a wnaed yn gyfan gwbl o bapur;

(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 175 mm (lled) x 260 mm (uchder);

(iii)nad oes ganddynt gwysed; a

(iv)nad oes ganddynt handlen;

(ng)bagiau—

(i)a wnaed yn gyfan gwbl neu'n bennaf o blastig;

(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 125 mm (lled) x 125 mm (uchder);

(iii)nad oes ganddynt gwysed; a

(iv)nad oes ganddynt handlen;

(h)bagiau—

(i)a wnaed yn gyfan gwbl o bapur;

(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 80 mm (lled) x 50 mm (lled cwysed) x 155 mm (uchder); a

(iii)nad oes ganddynt handlen;

(i)leininau â chwysed a ddefnyddir i leinio neu i lapio blychau, cratiau neu gynwysyddion eraill o natur debyg;

(j)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys creaduriaid byw dyfrol mewn dŵr;

(k)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un eitem neu fwy o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2).

(2Y categorïau a bennir yw—

(a)cynnyrch meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a werthir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan ymarferydd meddygol cofrestredig, deintydd, rhagnodydd atodol, nyrs-ragnodydd annibynnol, nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol neu broffesiynolyn iechyd yr AEE;

(b)pan werthir neu pan gyflenwir hwy heb fod yn unol â pharagraff (a),,meddyginiaeth fferyllol.

(3Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “cyfarpar rhestredig” yw cyfarpar rhestredig o fewn ystyr “listed appliances” yn unrhyw un o'r canlynol—

    (a)

    adran 80 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(14);

    (b)

    erthygl 63 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(15);

    (c)

    adran 27 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(16);

    (ch)

    adran 126 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(17);

  • mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn adran 130 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(18);

  • ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr ddeintyddion a gedwir o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(19);

  • ystyr “heb ei becynnu” (“unpackaged”) yw heb gael ei lapio'n gyfan gwbl neu'n rhannol;

  • ystyr “meddyginiaeth fferyllol” (“pharmacy medicine”) yw cynnyrch meddyginiaethol nad yw'n feddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig ac sydd—

    (a)

    yn unol ag adran 52(20) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968, y gellir ei werthu neu ei gyflenwi yn unig o dan yr amodau a bennir yn is-adran (1)(a) i (c) o'r adran honno; neu

    (b)

    heblaw am y ffaith y gellir ei werthu neu ei gyflenwi yn unol ag adran 55(21) o'r Ddeddf honno, dim ond o dan yr amodau hynny y gellid ei werthu neu ei gyflenwi'n gyfreithiol;

  • ystyr “meddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig” (“prescription only medicine”) yw cynnyrch meddyginiaethol—

    (a)

    o ddisgrifiad neu sy'n dod o fewn dosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 58(22) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968;

    (b)

    y mae adran 58 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 104(23) o'r Ddeddf honno;

  • mae i “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent nurse prescriber” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(24);

  • mae i “proffesiynolyn iechyd yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA health professional” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Meddyginiaethau at Ddefnydd Dynol (Rhagnodi gan Ymarferwyr AEE) 2008(25); ac

  • mae i “rhagnodydd atodol”, “nyrs-ragnodydd annibynnol”, “optometrydd-ragnodydd annibynnol” a “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” yr ystyr a briodolir i “supplementary prescriber”, “nurse independent prescriber”, “optometrist independent prescriber” a “pharmacist independent prescriber” yn ôl eu trefn yn erthygl 1(2) o Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(26).

Rheoliad 12

ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig

RHAN 1Gosod cosbau ariannol penodedig a gweithdrefn

Y pŵer i osod cosb ariannol benodedig

1.—(1Caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar werthwr sy'n torri'r Rheoliadau hyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 11(2).

(2Caiff gweinyddwr arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (1) mewn perthynas ag achos os yw wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad yn y Rheoliadau wedi digwydd.

Cosbau ariannol penodedig

2.  Swm y gosb y gellir ei gosod gan weinyddwr fel cosb ariannol benodedig mewn unrhyw achos yw'r swm a bennir yn ail golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw.

Hysbysiad o Fwriad

3.—(1Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad i'r gwerthwr hwnnw(27).

(2Rhaid i hysbysiad o fwriad—

(a)datgan swm y gosb;

(b)cynnig y cyfle i'r gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu'r swm penodedig o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;

(c)cynnwys gwybodaeth o ran—

(i)y seiliau am y bwriad i osod cosb ariannol benodedig;

(ii)effaith talu'r swm penodedig;

(iii)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 5;

(iv)o dan ba amgylchiadau ni chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig;

(v)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig yn rhinwedd paragraff 4;

(vi)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y ceir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;

(vii)sut y gellir talu.

Rhyddhau rhag atebolrwydd yn dilyn hysbysiad o fwriad

4.—(1Caiff atebolrwydd gwerthwr i gosb ariannol benodedig ei ryddhau os bydd y gwerthwr yn talu'r swm penodedig o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud ag ef.

(2Y swm penodedig yw'r swm a bennir yn nhrydedd golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os na fydd gwerthwr yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig drwy dalu'r swm penodedig.

(2O fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cafodd y gwerthwr yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod.

Penderfynu ai gosod cosb ariannol benodedig ai peidio

6.—(1Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 5, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai gosod y gosb ariannol benodedig ai peidio.

(2Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i weinyddwr gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â'r paragraff hwnnw.

(3Ni chaiff gweinyddwr benderfynu gosod cosb ariannol benodedig yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—

(a)os cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu'r swm penodedig;

(b)os gosodwyd eisoes gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;

(c)os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.

(4Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb benodedig os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.

(5Pan fo'r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno'r hysbysiad terfynol i'r gwerthwr(28).

(6Rhaid i'r hysbysiad terfynol gydymffurfio â pharagraff 7.

Cynnwys hysbysiad terfynol

7.  Rhaid i'r hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol benodedig;

(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr;

(c)swm y gosb;

(ch)sut y gellir talu;

(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae'n rhaid talu ynddo;

(dd)effaith paragraff 9 (disgownt am dalu'n gynnar);

(e)effaith paragraff 10 (cosb am dalu'n hwyr);

(f)hawliau i apelio; ac

(ff)canlyniadau peidio â thalu.

Talu

8.—(1Rhaid talu cosb ariannol benodedig o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n gosod y gosb.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).

(2Os bydd penderfyniad i osod cosb ariannol benodedig yn destun apêl, yna os caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y dyfernir yr apêl.

Disgownt am dalu'n gynnar

9.  Caiff gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.

Cosb am dalu'n hwyr

10.  Os na thelir cosb ariannol benodedig o fewn y cyfnod a ganiateir yn unol â pharagraff 8 cynyddir swm y gosb gan 50%.

Seiliau apêl

11.—(1Caiff gwerthwr apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod cosb ariannol benodedig.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall, neu

(ch)unrhyw reswm arall.

RHAN 2Symiau cosbau ariannol penodedig a symiau penodedig

Toriad yn y RheoliadauSwm y gosb y gellir ei gosod yn gosb ariannol benodedigSymiau penodedig
Methiant i gydymffurfio â'r gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6 (rheoliad 11(1) a (2))£200£100
Methiant i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2))£100£50
Methiant i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2))£100£50
Methiant i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9 (rheoliad 11(1) a (2))£100£50
Methiant i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10 (rheoliad 11(1) a (2))£100£50

Rheoliad 12

ATODLEN 3Gofynion yn ôl disgresiwn

RHAN 1Gosod gofynion yn ôl disgresiwn a gweithdrefn

Pŵer i osod gofynion yn ôl disgresiwn

1.—(1Caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn ar werthwr sy'n torri'r Rheoliadau hyn(29).

(2Caiff gweinyddwr arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (1) mewn perthynas ag achos os yw wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad yn y Rheoliadau wedi digwydd.

Cosbau ariannol amrywiadwy: uchafsymiau

2.  Uchafswm y gosb y caiff gweinyddwr ei gosod fel cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag unrhyw fath o doriad penodol yn y Rheoliadau yw'r swm a bennir yn ail golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw(30).

Hysbysiad o Fwriad

3.—(1Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad i'r gwerthwr hwnnw(31).

(2Rhaid i'r hysbysiad o fwriad—

(a)os yw'r gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol(32)

(i)pennu'r camau y mae'r gweinyddwr yn bwriadu fydd yn ofynnol i'r gwerthwr eu cymryd;

(ii)pennu'r cyfnod o amser y mae'r gweinyddwr yn ei fwriadu i'r camau hynny gael eu cwblhau ynddo;

(b)os yw'r gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol amrywiadwy, pennu swm y gosb a gynigir;

(c)cynnwys gwybodaeth o ran—

(i)y seiliau am y bwriad i osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn;

(ii)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 4;

(iii)o dan ba amgylchiadau ni chaiff gweinyddwr osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn;

(iv)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;

(v)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, sut y gellir talu.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  O fewn y 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r gwerthwr yn cael yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r bwriad i osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn.

Penderfynu ai gosod gofynion yn ôl disgresiwn ai peidio

5.—(1Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 4, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai—

(a)gosod un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn gydag addasiadau neu hebddynt; neu

(b)gosod unrhyw ofyniad arall yn ôl disgresiwn y mae gan y gweinyddwr y pŵer i'w osod o dan yr Atodlen hon.

(2Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i weinyddwr ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â pharagraff 4.

(3Ni chaiff gweinyddwr benderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol—

(a)os gosodwyd eisoes ofyniad yn ôl disgresiwn mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith;

(b)os cafwyd eisoes ryddhad rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;

(c)os gosodwyd cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.

(4Ni chaiff gweinyddwr benderfynu o dan y paragraff hwn i osod cosb ariannol benodedig yn lle gofyniad yn ôl disgresiwn.

(5Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu beidio â gosod gofyniad yn ôl disgresiwn os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.

(6Pan fo'r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno'r hysbysiad terfynol i'r gwerthwr(33).

(7Rhaid i'r hysbysiad terfynol gydymffurfio â pharagraff 6.

Cynnwys hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i'r hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau am osod un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn;

(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr, gan gynnwys yr effaith (os oes un) ar swm y gosb ariannol amrywiadwy a osodwyd;

(c)os yw'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol—

(i)y camau y mae'n ofynnol i'r gwerthwr eu cymryd;

(ii)y cyfnod o amser y mae'n rhaid cwblhau'r camau hynny ynddo;

(ch)pan fo'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—

(i)swm y gosb;

(ii)sut y gellir talu;

(iii)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid talu;

(iv)effaith paragraff 8 (disgownt am dalu'n gynnar);

(v)effaith paragraff 9 (cosb am dalu'n hwyr);

(d)hawliau i apelio; ac

(dd)y canlyniadau am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad.

Talu

7.—(1Rhaid i'r gwerthwr dalu cosb ariannol amrywiadwy o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).

(2Os bydd penderfyniad i osod cosb ariannol amrywiadwy yn destun apêl yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y dyfernir yr apêl.

Disgownt am dalu'n gynnar

8.  Caiff gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol amrywiadwy drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.

Cosb am dalu'n hwyr

9.  Os na thelir cosb ariannol amrywiadwy o fewn y cyfnod a ganiateir yn unol â pharagraff 7 cynyddir y swm sy'n daladwy gan 50%.

Seiliau apêl

10.—(1Caiff gwerthwr apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad yn ôl disgresiwn.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)mewn achos o gosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(ch)mewn achos o ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(dd)unrhyw reswm arall.

RHAN 2Cosbau ariannol amrywiadwy: uchafsymiau

Toriad yn y RheoliadauYr uchafswm y caniateir ei osod fel cosb ariannol amrywiadwy
Methiant i gydymffurfio â'r gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Heb achos rhesymol, yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i weinyddwr (rheoliad 11(3))£20,000
Heb achos rhesymol, yn rhwystro gweinyddwr rhag cynnal ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu'n methu â rhoi cymorth iddo fel arall wrth iddo gynnal y swyddogaethau hynny (rheoliad 11(3))£20,000

Rheoliad 15

ATODLEN 4Gofynion yn ôl disgresiwn nad ydynt yn rhai ariannol: gorfodi

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “camau penodedig” (“specified steps”) yw'r camau a bennir mewn hysbysiad terfynol o dan baragraff 6(c)(i) o Atodlen 3;

  • ystyr “cyfnod penodedig” (“specified period”) yw'r cyfnod a bennir mewn hysbysiad terfynol o dan baragraff 6(c)(ii) o Atodlen 3.

(2Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fethiant llwyr yn gyfeiriad at werthwr na chymerodd ddim un o'r camau penodedig o fewn y cyfnod penodedig.

(3Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fethiant rhannol yn gyfeiriad at werthwr a gymerodd o leiaf un o'r camau penodedig, ond nid y cyfan ohonynt, o fewn y cyfnod penodedig.

Y pŵer i osod cosbau am beidio â chydymffurfio

2.—(1Os yw gwerthwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol, caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod cosb am beidio â chydymffurfio ar y gwerthwr.

(2Caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas â methiant llwyr neu rannol i gydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol.

(3Caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio p'un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy ai peidio yn ychwanegol at y gofyniad heb fod yn ôl disgresiwn y mae cosb am beidio â chydymffurfio yn berthnasol iddo.

(4Mae swm y gosb am beidio â chydymffurfio i'w ddyfarnu gan y gweinyddwr.

(5Ond uchafswm y gosb y caniateir ei gosod gan weinyddwr fel cosb am beidio â chydymffurfio yw'r swm a bennir yn is-baragraff (6) drwy gyfeirio at y math o fethiant o dan sylw.

(6Uchafswm y cosbau yw—

(a)£5,000 mewn perthynas â methiant rhannol;

(b)£5,000 mewn perthynas â methiant llwyr.

Hysbysiad o Fwriad

3.—(1Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb am beidio â chydymffurfio ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno i'r gwerthwr hwnnw hysbysiad o'r hyn y bwriedir ei wneud (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y math o fethiant y mae'r gweinyddwr yn bwriadu gosod y gosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas â hi;

(b)y camau penodedig sydd eto i'w cymryd gan y gwerthwr o dan sylw;

(c)swm y gosb a fwriedir;

(ch)sut y gellir talu;

(d)erbyn pa ddyddiad y byddai'r taliad yn ddyledus;

(dd)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus;

(e)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 4;

(f)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y ceir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;

(ff)o dan ba amgylchiadau (os oes rhai) y byddai'r gweinyddwr yn dueddol o leihau swm y gosb a fwriedir.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  O fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y gwerthwr yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r bwriad i osod cosb am beidio â chydymffurfio.

Penderfynu ai gosod cosb am beidio â chydymffurfio ai peidio

5.—(1Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 4, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai gosod y gosb am beidio â chydymffurfio gydag addasiadau neu hebddynt ai peidio.

(2Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb am beidio â chydymffurfio os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.

(3Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i'r gweinyddwr ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â pharagraff 4.

(4Pan fo gweinyddwr yn penderfynu gosod cosb am beidio â chydymffurfio rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio”) i'r gwerthwr.

(5Rhaid i hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio gydymffurfio â pharagraff 6.

Cynnwys hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio

6.—(1Rhaid i hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau am osod y gosb o beidio â chydymffurfio;

(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr, gan gynnwys yr effaith (os oes un) ar swm y gosb sy'n cael ei osod;

(c)swm y gosb;

(ch)sut y gellir talu;

(d)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;

(dd)yr hawl i apelio; a

(e)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.

(2Rhaid i gosb am beidio â chydymffurfio gael ei thalu gan werthwr o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad sy'n ei gosod.

(3Ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir dyfarniad i apêl).

(4Os cydymffurfir â gofynion y gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol cyn bod y 56 o ddiwrnodau wedi dod i ben, nid yw'r gosb am beidio â chydymffurfio yn daladwy.

(5Caiff gwerthwr y cyflwynwyd iddo hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.

(6Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod swm y gosb yn afresymol;

(ch)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm arall;

(d)unrhyw reswm arall.

Talu cosbau am beidio â chydymffurfio yn dilyn apêl

7.  Os bydd hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff yr hysbysiad ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 gan ddechrau ar y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu.

Cosbau am beidio â chydymffurfio: cosb am dalu'n hwyr

8.  Os na thelir cosb am beidio â chydymffurfio o fewn y cyfnod a ganiateir gan baragraff 6(2) neu (yn ôl y digwydd) gan baragraff 7, cynyddir y swm sy'n daladwy gan 50%.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafswm tâl mae'n rhaid i werthwyr nwyddau ei godi am fagiau siopa untro. Caiff y Rheoliadau eu gwneud o dan adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 ac Atodlen 6 iddi.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn ymdrin â diffiniadau a gweinyddwyr. Mae'n cynnwys diffiniad o “bag siopa untro” a diffiniad o “gwerthwr”; ac mae'n penodi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn weinyddwyr o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau'n ymdrin â'r isafswm tâl y mae'n rhaid i werthwr ei godi am fag siopa untro a'r mathau o fagiau siopa untro nad yw'r gofyniad i godi tâl yn gymwys ar eu cyfer (nodir y bagiau o dan sylw yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau'n ymdrin â chadw, cyflenwi a chyhoeddi cofnodion gan werthwyr.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau'n pennu'r amgylchiadau pan fo gwerthwr yn torri'r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau'n ymwneud â sancsiynau sifil. Mae'n cyflwyno Atodlenni 2 a 3 ac yn ymdrin ag amgylchiadau pan na ellir gwneud cynnig ffurfiol i osod cosb benodedig neu wneud gofyniad yn ôl disgresiwn.

Mae Atodlen 2 yn rhoi pŵer i weinyddwyr i osod cosbau ariannol penodedig ac mae'n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau gweithdrefnol cysylltiedig. Mae Atodlen 3 yn rhoi pŵer i weinyddwyr osod gofynion yn ôl disgresiwn ac mae'n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau gweithdrefnol cysylltiedig.

Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau'n ymdrin â gorfodaeth a pheidio â chydymffurfio. Mae'n rhoi pwerau gorfodi i weinyddwyr; yn caniatáu i weinyddwyr adennill costau gorfodi penodol y maent yn rhesymol wedi mynd iddynt; ac yn caniatáu i weinyddwyr adennill arian am gosbau a chostau gorfodi drwy'r llysoedd sifil neu, os yw'r llys yn gorchymyn hynny, fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn llys. Mae'r Rhan hon yn cyflwyno Atodlen 4 sy'n caniatáu i weinyddwyr osod cosbau ar werthwyr sy'n methu â chydymffurfio â gofynion penodol a osodwyd arnynt cyn hynny. Mae'r Rhan hon hefyd yn caniatáu i weinyddwyr ei gwneud yn ofynnol i werthwyr gyhoeddi manylion unrhyw sancsiynau sifil y maent wedi mynd iddynt.

Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau'n ymdrin â materion gweinyddol megis cwmpas pwerau gweinyddwyr o dan y Rheoliadau, darpariaeth gyffredinol mewn perthynas ag apelau a dyletswyddau gweinyddwyr i gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y byddant yn arfer y pwerau sancsiynu sifil a gorfodi sydd ganddynt o dan y Rheoliadau.

Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol (“SGRhLl”) i gynnal arolwg o'r cynnydd a wnaed gan bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru o ran gweithio yn ôl egwyddorion rheoleiddio da, fel a nodir ym mharagraff 23 o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Gellir cael copi o adroddiad SGRhLl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae asesiad effaith wedi cael ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau yn unol â'r canlynol:

(i)Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37) a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/96/EC (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.81); a

(ii)Erthygl 16 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 94/62/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 1994 ar becynnu a gwastraff pecynnu (OJ Rhif L365, 31.12.1994, t.10) a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.109).

(1)

2008 p.27; gweler adran 77(3) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i gael y diffiniad o “the relevant national authority”; a pharagraff 3(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno i gael y diffiniad o “specified”.

(2)

Gweler adran 97 o'r Ddeddf honno i gael y diffiniad o “devolved legislature”.

(3)

I gael diffiniad o “administrator”, gweler paragraff 6(1) a (4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008; ac ar gyfer cwmpas pwerau gweinyddwyr o dan y Rheoliadau hyn, gweler rheoliad 19.

(4)

I gael ystyr “gross proceeds of the chargegweler paragraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(5)

I gael ystyr “net proceeds of the chargegweler paragraff 7(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(7)

1994 p.23; mae diwygiadau i adran 96 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(8)

I gael ystyr “fixed monetary penaltygweler paragraff 10(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(9)

I gael ystyr “discretionary requirementgweler paragraff 12(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(10)

I gael ystyr “non-monetary discretionary requirementgweler paragraff 12(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(11)

I gael ystyr “publicity noticegweler paragraff 19(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(12)

Trosglwyddir apelau i Siambr Reoleiddio Gyffredinol Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn rhinwedd erthygl 5B(a) o Orchymyn Tribiwnlys yr Haen Gyntaf a'r Tribiwnlys Uchaf (Siambrau) 2008 (O.S. 2008/2684, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/196, 2009/1021 a 2009/1590). Mae Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976) yn gosod rheolau gweithdrefnol sy'n ymwneud â'r cyfryw apelau.

(13)

1982 p.36; cafodd adran 11A ei mewnosod gan Ddeddf Diogelwch Awyrennol a Morol 1990 (p.31), Atodlen 1, paragraff 3; a'i diwygio gan O.S. 2010/902, rheoliadau 3 a 9(b).

(14)

2006 p.42.

(15)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14), diwygiwyd gan 1978/1907 (G.I. 26); mae diwygiadau eraill ond nid oes unrhyw un yn berthnasol.

(16)

1978 p.29; mae diwygiadau i adran 27 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(17)

2006 p.41.

(18)

1968 p.67; diwygiwyd adran 130 gan O.S. 1994/3119, rheoliad 2(b); ac O.S. 2005/50, rheoliad 25(1)(c) a (d); mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(19)

1984 p.24; amnewidiwyd adran 14 gan O.S. 2005/2011, erthyglau 2(1) a 6; ac a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3101 rheoliadau 109 a 111.

(20)

Diwygiwyd adran 52 gan Ddeddf Iechyd 2006 (p.28); mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(21)

Diwygiwyd adran 55 gan O.S. 2004/1771, erthygl 3 a pharagraff 10(b) o'r Atodlen; gan O.S. 2006/2407, paragraffau 1 a 26 o Atodlen 8.

(22)

Mae diwygiadau i adran 58 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(23)

Diwygiwyd adran 104 gan O.S. 2004/1031, rheoliad 54 a pharagraff 17 o Atodlen 10; a chan O.S. 2006/2407, paragraffau 1 a 54 o Atodlen 8.

(25)

O.S. 2008/1692, mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(27)

I gael ystyr “notice of intentgweler paragraff 11(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(28)

I gael ystyr “the final noticegweler paragraff 11(1)(d) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(29)

I gael ystyr “discretionary requirementgweler paragraff 12(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(30)

I gael ystyr “variable monetary penaltygweler paragraff 12(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(31)

I gael ystyr “notice of intentgweler paragraff 13(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(32)

I gael ystyr “non-monetary discretionary requirementgweler paragraff 12(4) o'r Ddeddf honno.

(33)

I gael ystyr “the final noticegweler paragraff 13(1)(d) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources