- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
9 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 182(2), (3) a 203(9) a (10)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac Atodlen 10 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2);
ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys” (“Powys Teaching Local Health Board area”) yw'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd(3);
ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “cyn Gyngor” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymir o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y Cynghorau sy'n parhau” (“the continued Councils”) yw Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn;
ystyr “y Cynghorau newydd” (“new Councils”) yw'r Cynghorau a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y dyddiad diddymu” (“abolition date”) yw 1 Ebrill 2010;
ystyr “y dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Ebrill 2010;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2010;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(4).
3. Sefydlir, yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, y chwe Chyngor Iechyd Cymuned a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n dwyn yr enwau a roddir iddynt yn yr Atodlen honno.
4.—(1) Mae pob ardal Cyngor Iechyd Cymuned yn cyfateb i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar ei chyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os yw ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned o dan baragraff (1) yn cael ei hamrywio, mae ardal y Cyngor Iechyd Cymuned i'w hamrywio'n unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu ardal Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bodoli neu i gyfuno dwy ardal Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy.
5. Dyma swyddogaethau'r Cynghorau newydd—
(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf:
(ii)yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf; a
(iii)byddant yn cynnwys swyddogaethau'r cyn Gynghorau a drosglwyddir i'r Cynghorau newydd gan erthygl 6.
6.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gynghorau neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny.
(2) Mae gan y Cynghorau newydd y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.
(3) Rhaid i Gyngor newydd gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.
7.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gynghorau am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010.
(2) Rhaid i Gyngor newydd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar 31 Mawrth 2010 neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i'r Cyngor newydd, yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o'r Rheoliadau.
8. Bydd unrhyw beth a wnaed gan y cyn Gynghorau neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor newydd yn cael effaith, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan y Cyngor newydd neu mewn perthynas ag ef.
9. Mae'r ddau ar bymtheg o Gynghorau Iechyd Cymuned a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a barhaodd mewn bodolaeth neu a sefydlwyd o dan adran 182 o'r Ddeddf yn cael eu diddymu gydag effaith o'r dyddiad diddymu.
10.—(1) Mae Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn yn parhau mewn bodolaeth.
(2) Ardal gyfunol y Cynghorau hyn sy'n parhau yw ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.
(3) Os bydd ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn cael ei hamrywio mae ardal gyfunol y ddau gyngor hyn i gael ei hamrywio'n unol â hynny.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio'r ardal y sefydlir y naill Gyngor neu'r llall, neu'r ddau Gyngor, sy'n parhau drosti.
(5) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys neu i gyfuno ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys ag ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu â fwy nag un ohonynt.
(6) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir o fewn yr erthygl hon, mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn cadarnhau'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau sy'n parhau drostynt ac y maent yn parhau i arfer eu swyddogaethau drostynt.
11. Dyma swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau—
(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf: a
(ii)yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2010
Erthyglau 3 a 4
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Enwau Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3 | Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer | |
1 | Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
2 | Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
3 | Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
4 | Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
5 | Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
6 | Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Erthygl 9
Cynghorau Iechyd Cymuned a oedd yn parhau mewn bodolaeth, neu a gafodd eu sefydlu, o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 | |
---|---|
1 | Cyngor Iechyd Cymuned Dwyrain Conwy |
2 | Cyngor Iechyd Cymuned Gorllewin Conwy |
3 | Cyngor Iechyd Cymuned Clwyd |
4 | Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Gwynedd |
5 | Cyngor Iechyd Cymuned Meirionnydd |
6 | Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn |
7 | Cyngor Iechyd Cymuned Gwent |
8 | Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd |
9 | Cyngor Iechyd Cymuned Bro Morgannwg |
10 | Cyngor Iechyd Cymuned Merthyr a Chwm Cynon |
11 | Cyngor Iechyd Cymuned Pontypridd a Rhondda |
12 | Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe |
13 | Cyngor Iechyd Cymuned Castell-nedd a Phort Talbot |
14 | Cyngor Iechyd Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr |
15 | Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin |
16 | Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro |
17 | Cyngor Iechyd Cymuned Ceredigion |
Erthygl 10
Enw'r Cyngor Iechyd Cymuned | Ardaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer(5) | |
---|---|---|
1 | Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed | Dosbarth Maesyfed a Brycheiniog |
2 | Cyngor Iechyd Cymuned Maldwyn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn | Dosbarth Sir Drefaldwyn gan gynnwys cymunedau |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu, o 1 Ebrill 2010, chwe Chyngor Iechyd Cymuned newydd yng Nghymru, fel y darperir ar eu cyfer yn adran 182(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn nodi'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau Iechyd Cymuned ar eu cyfer.
Mae erthygl 5 yn gosod y swyddogaethau sydd i'w cyflawni gan y Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3.
Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau a hawliau oedd yn arferadwy gan y Cynghorau sy'n cael eu diddymu gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn ac ar gyfer trosglwyddo'r rhwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyfryw Gynghorau i'r Cynghorau a sefydlir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 7 yn sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon y Cynghorau a ddiddymir gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o Reoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.
Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer parhâd wrth arfer swyddogaethau.
Mae erthygl 9 yn diddymu dau ar bymtheg o'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2010.
Er mwyn eglurder, gan fod pob Cyngor Iechyd Cymuned arall yng Nghymru yn cael ei ddiddymu a Chynghorau Iechyd Cymuned newydd yn cael eu creu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, mae erthygl 10 yn darparu'n benodol ar gyfer parhâd bodolaeth Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn.
Mae'n cadarnhau fod Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn gyda'i gilydd yn cwmpasu'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys drosti. Mae hyn yn dangos fod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â'u dyletswydd i sicrhau fod yr ardaloedd y sefydlir Byrddau Iechyd Cymuned ar eu cyfer ar unrhyw adeg gyda'i gilydd yn cynnwys Cymru gyfan (adran 182(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006). Nid yw'r union ardaloedd y sefydlwyd Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar eu cyfer, a'r union ardaloedd y maent yn eu tro yn arfer eu swyddogaethau drostynt, wedi newid, ac fe'u gosodir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 11 yn disgrifio swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau.
Mewn perthynas ag aelodaeth, cyfansoddiad, a gweithdrefnau'r Cynghorau Iechyd Cymuned, gweler Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/288, (Cy.37)).
O.S. 2003/148 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/778 (Cy.66).
Gweler Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) adran 1(2), Atodlen1, paragraff 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: