xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gwnaed
7 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym
1 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 188(1) a (2)(d) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) (Rhif 2) 2010 a daw i rym ar 1 Ionawr 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn is-ddeddf 24(2) Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru(3) –
(a)ym mharagraff (b), yn lle “For the purposes of Section 37 (2) of the Salmon Act 1986, the” rhodder “The”; a
(b)ym mharagraff (c), yn lle “For the purposes of Section 37(1) of the Salmon Act 1986, any” rhodder “Any”.
(2) Yn is-ddeddf 25(4) Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru—
(a)ym mharagraff (c), yn lle “For the purposes of section 37(1) of the Salmon Act 1986, no” rhodder “No”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio is-ddeddfau 24 a 25 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru o ganlyniad i ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p.38) (“Deddf 1966”).
Diddymwyd Deddf 1966 o ran Cymru ar 1 Ebrill 2010, gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23) (“Deddf 2009”), gyda'r effaith o ddiddymu Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru i'r graddau yr oedd yn ymwneud â Chymru.
Ers 1 Ebrill 2010, mae is-ddeddfau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn cael effaith yng Nghymru megis petaent wedi'u gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol, i'r graddau y gallai Gweinidogion Cymru fod wedi gwneud y darpariaethau hynny drwy offeryn statudol, yn rhinwedd Erthygl 13(3) ac Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630) (p.42) (“Gorchymyn 2010”).
Diddymwyd Adran 37 o Ddeddf Eogiaid 1986 (p.62) (Is-ddeddfau o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966) hefyd, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 gan adran 321 a Rhan 4 o Atodlen 22 i Ddeddf 2009.
O ganlyniad i ddiddymiad Deddf 1966 gan Ddeddf 2009, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio testun is-ddeddfau 24 a 25 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru er mwyn symud ymaith gyfeiriadau at adran 37 o Ddeddf Eogiaid 1986.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw'n effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Mae is-ddeddf 24 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru bellach yn cael effaith megis petai wedi'i gwneud gan Weinidogion Cymru mewn Offeryn Statudol o ran yr un ardal o Gymru ag yr oedd yr is-ddeddf honno yn gymwys iddi yn rhinwedd Erthygl 13(3) ac Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630) (p.42).
Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddaeth Erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (p.42)) ag adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i rym, gyda'r effaith o ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p.38).
Mae is-ddeddf 25 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru bellach yn cael effaith megis petai wedi'i gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol o ran yr un ardal o Gymru ag yr oedd yr is-ddeddf honno yn gymwys iddi yn rhinwedd Erthygl 13(3) ac Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630) (p.42).