Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2917 (Cy.242)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010

Gwnaed

7 Rhagfyr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2010

Yn dod i rym

1 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010;

(2deuant i rym ar 1 Ionawr 2011; a

(3maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau amddiffyn yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned(3); ac

  • ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4) yng Nghymru.

(2Mae i'r termau hynny a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyron â'r termau cyfatebol Saesneg yn y Gyfarwyddeb.

Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—

(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, ac a restrir yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb, a

(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb ai peidio,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio gwlad neu diriogaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd, neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(5).

Ffioedd

4.—(1Rhaid i fewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—

(a)y ffi a bennir—

(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae is-baragraff (a)(ii) yn gymwys iddo; neu

(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a

(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

(2Fodd bynnag, os cynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (1)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 of Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys iddo.

Dirymiadau

5.  Dirymir y Rheoliadau canlynol—

(a)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006(6);

(b)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007(7)

(c)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007(8);

(ch)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2009(9);

(d)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009(10).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2010

Rheoliad 4(1)(a)(i) a 4(2)(a)

ATODLEN 1Ffioedd Arolygu Mewnforio

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu wrthrych arallNiferFfi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau—hyd at 10,000 o ran nifer14.2821.42
—am bob 1,000 uned ychwanegol, neu ran o hynny

0.57

Hyd at uchafswm o 114.24

0.85

Hyd at uchafswm o 171.36

Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had)—hyd at 1,000 o ran nifer14.2821.42
—am bob 100 uned ychwanegol, neu ran o hynny

0.35

Hyd at uchafswm o 114.24

0.52

Hyd at uchafswm o 171.36

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu—hyd at 200 kg o ran pwysau14.2821.42
—am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.13

Hyd at uchafswm o 114.24

0.19

Hyd at uchafswm o 171.36

Hadau, meinweoedd meithrin—hyd at 100 kg o ran pwysau6.129.18
—am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.14

Hyd at uchafswm o 114.24

0.21

Hyd at uchafswm o 171.36

Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon—hyd at 5,000 o ran nifer14.2821.42
—am bob 100 uned ychwanegol, neu ran o hynny

0.14

Hyd at uchafswm o 114.24

0.21

Hyd at uchafswm o 171.36

Blodau wedi'u torri—hyd at 20,000 o ran nifer14.2821.42
—am bob 1,000 uned ychwanegol, neu ran o hynny

0.11

Hyd at uchafswm o 114.24

0.16

Hyd at uchafswm o 171.36

Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi'u torri)—hyd at 100 kg o ran pwysau14.2821.42
—am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.42

Hyd at uchafswm o 114.24

2.13

Hyd at uchafswm o 171.36

Coed Nadolig wedi'u torri—hyd at 1,000 o ran nifer14.2821.42
—am bob 100 uned ychwanegol, neu ran o hynny

1.42

Hyd at uchafswm o 114.24

2.13

Hyd at uchafswm o 171.36

Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog—hyd at 100 kg o ran pwysau14.2821.42
— am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.42

Hyd at uchafswm o 114.24

2.13

Hyd at uchafswm o 171.36

Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)—hyd at 25,000 kg o ran pwysau14.2821.42
— am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny0.570.85
Cloron tatws—hyd at 25,000 kg o ran pwysau42.84 (fesul lot)64.26 (fesul lot)
— am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny42.84 (fesul lot)64.26 (fesul lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl—hyd at 25,000 kg o ran pwysau14.2821.42
—am bob ychwanegol 1,000 kg, neu ran o hynny

0.57

Hyd at uchafswm o 114.24

0.85

Hyd at uchafswm o 171.36

Grawn—hyd at 25,000 kg o ran pwysau14.2821.42
—am bob ychwanegol 1,000 kg, neu ran o hynny

0.57

Hyd at uchafswm o 571.20

0.85

Hyd at uchafswm o 856.80

Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd—Am bob llwyth14.2821.42

Rheoliad 4(1)(a)(ii) a 4(2)(b)

ATODLEN 2Ffioedd Arolygu Mewnforio (Cyfraddau Gostyngol)

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4Colofn 5
GenwsNiferGwlad tarddiadFfi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Tan 1 Ionawr 2011O 1 Ionawr 2011 ymlaenTan 1 Ionawr 2011O 1 Ionawr 2011 ymlaen
Pan fo cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, ni chynhwysir y swm hwnnw.
Blodau wedi'u torri
Dianthus—hyd at 20,000 o ran niferColombia0.420.710.631.06
Ecuador2.142.143.213.21
Israel7.1214.2810.6821.42
Kenya3.570.715.351.06
Twrci3.573.575.355.35
—am bob 1,000 uned ychwanegol neu ran o hynnyColombia

0.003

Hyd at uchafswm o 3.42

0.005

Hyd at uchafswm o 5.71

0.004

Hyd at uchafswm o 5.13

0.007

Hyd at uchafswm o 8.56

Ecuador

0.01

Hyd at uchafswm o 17.14

0.01

Hyd at uchafswm o 17.14

0.02

Hyd at uchafswm o 25.71

0.02

Hyd at uchafswm o 25.71

Israel

0.06

Hyd at uchafswm o 58.17

0.57

Hyd at uchafswm o 114.28

0.08

Hyd at uchafswm o 87.25

0.85

Hyd at uchafswm o 171.42

Kenya

0.02

Hyd at uchafswm o 28.57

0.005

Hyd at uchafswm o 5.71

0.04

Hyd at uchafswm o 42.85

0.007

Hyd at uchafswm o 8.56

Twrci

0.03

Hyd at uchafswm o 28.57

0.03

Hyd at uchafswm o 28.57

0.04

Hyd at uchafswm o 42.85

0.04

Hyd at uchafswm o 42.85

Rosa—hyd at 20,000 o ran niferColombia0.710.421.060.63
Ecuador0.420.420.630.63
Ethiopia1.420.712.131.06
Kenya1.420.712.131.06
Tanzania2.141.423.212.13
Uganda14.283.5721.425.35
Zambia7.143.5710.415.35
— am bob 1,000 uned ychwanegol neu ran o hynnyColombia

0.005

Hyd at uchafswm o 5.71

0.003

Hyd at uchafswm o 3.42

0.007

Hyd at uchafswm o 8.56

0.004

Hyd at uchafswm o 5.13

Ecuador

0.003

Hyd at uchafswm o 3.42

0.003

Hyd at uchafswm o 3.42

0.004

Hyd at uchafswm o 5.13

0.004

Hyd at uchafswm o 5.13

Ethiopia

0.01

Hyd at uchafswm o 11.42

0.005

Hyd at uchafswm o 5.71

0.015

Hyd at uchafswm o 17.13

0.007

Hyd at uchafswm o 8.56

Kenya

0.01

Hyd at uchafswm o 11.42

0.005

Hyd at uchafswm o 5.71

0.015

Hyd at uchafswm o 17.13

0.007

Hyd at uchafswm o 8.56

Tanzania

0.01

Hyd at uchafswm o 17.14

0.01

Hyd at uchafswm o 11.42

0.02

Hyd at uchafswm o 25.71

0.02

Hyd at uchafswm o 17.13

Uganda

0.11

Hyd at uchafswm o 114.28

0.02

Hyd at uchafswm o 28.57

0.16

Hyd at uchafswm o 171.42

0.03

Hyd at uchafswm o 42.85

Zambia

0.05

Hyd at uchafswm o 57.14

0.02

Hyd at uchafswm o 28.57

0.07

Hyd at uchafswm o 85.71

0.03

Hyd at uchafswm o 42.85

Ffrwythau
Citrus—hyd at 25,000 kg o ran pwysauYr Aifft3.572.145.353.21
Honduras7.1410.7110.7116.06
Israel2.142.143.213.21
Mecsico3.573.575.355.35
Moroco0.710.711.061.06
Periw4.994.997.487.48
Twrci0.420.420.630.63
Uruguay2.142.143.213.21
UDA2.142.143.213.21
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Aifft0.140.080.210.12
Honduras0.280.420.420.63
Israel0.080.080.120.12
Mecsico0.140.140.210.21
Moroco0.020.020.030.03
Periw0.190.190.280.28
Twrci0.010.010.020.02
Uruguay0.080.080.120.12
UDA0.080.080.120.12
Malus—hyd at 25,000 kg o ran pwysauAriannin1.421.422.132.13
Brasil2.142.143.213.21
Chile0.990.991.481.48
Tsieina3.573.575.355.35
Seland Newydd1.421.422.132.13
De Affrica1.421.422.132.13
UDA3.573.575.355.35
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.050.050.070.07
Brasil0.080.080.120.12
Chile0.030.030.040.04
Tsieina0.140.140.210.21
Seland Newydd0.060.060.080.08
De Affrica0.060.060.080.08
UDA0.140.140.210.21
Mangifera—hyd at 25,000 kg o ran pwysauBrasil1.427.142.1310.71
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyBrasil0.050.280.070.42
Passiflora—hyd at 25,000 kg o ran pwysauColombia1.421.422.132.13
Kenya1.421.422.132.13
De Affrica7.147.1410.7110.71
Zimbabwe4.994.997.487.48
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.050.050.070.07
Kenya0.050.050.070.07
De Affrica0.280.280.420.42
Zimbabwe0.190.190.280.28
Prunus—hyd at 25,000 kg o ran pwysauAriannin4.994.997.487.48
Chile1.421.422.132.13
De Affrica1.421.422.132.13
Twrci1.421.422.132.13
UDA7.143.5710.715.35
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.190.190.280.28
Chile0.055.080.070.07
De Affrica0.050.050.070.07
Twrci0.050.050.070.07
UDA0.280.140.420.21
Psidium—hyd at 25,000 kg o ran pwysauBrasil10.7114.2816.0621.42
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyBrasil0.420.570.630.85
Pyrus—hyd at 25,000 kg o ran pwysauAriannin2.142.143.213.21
Chile4.994.997.487.48
Tsieina4.994.997.487.48
De Affrica2.141.423.212.13
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.080.080.120.12
Chile0.190.190.280.28
Tsieina0.190.190.280.28
De Affrica0.080.050.120.07
Llysiau
Solanum melongena—hyd at 25,000 kg o ran pwysauTwrci1.421.422.132.13
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyTwrci0.050.050.070.07

Rheoliad 4(1)(b)

ATODLEN 3Ffioedd Arolygu Mewnforio ar gyfer Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
GwiriadNiferFfi (£)
Gwiriad dogfennolFesul llwyth5.71
Gwiriad adnabodFesul llwyth
—hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb5.71
—mwy na'r maintioli uchod11.42

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ail-wneud Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy.253)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1) (“y Gyfarwyddeb”) sy'n gwneud yn ofynnol bod Aelod-wladwriaethau'n codi ffioedd i dalu costau'r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb. Mae Rheoliad 3 yn disgrifio'r llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Gwneir yn ofynnol bod mewnforiwr, ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, yn talu i Weinidogion Cymru naill ai'r ffi am y gwiriad iechyd planhigion a bennir yn Atodlen 1 neu'r ffi yn ôl cyfradd ostyngol am y gwiriad iechyd planhigion a bennir yn Atodlen 2 (rheoliad 4(1)(a)). Mae Atodlen 2 yn cynnwys ffioedd cyfradd ostyngol sydd i ddod i rym ar 1 Ionawr 2011. Mae ffioedd uwch yn daladwy pan wneir gwiriadau y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol bod mewnforiwr yn talu'r ffi a bennir yn Atodlen 3 am wiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod (rheoliad 4(1)(b)).

Rhagwelir y bydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith ar y sectorau preifat neu wirfoddol, ond ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol, gan mai effaith y Rheoliadau hyn yw newid lefel y ffioedd, i'w cysoni â'r ffioedd safonol a bennir yn y Gyfarwyddeb, neu a gytunwyd yn unol â'r Gyfarwyddeb.

(3)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/1/EU, OJ Rhif L 7, 12.1.2010, t. 17. Mewnosodwyd Erthygl 13(d) y Gyfarwyddeb gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/89/EC (OJ Rhif L 355, 30.12.2002, t.45).

(4)

1971 p.80. Ynglŷn â gwyliau banc, gweler adran o'r Ddeddf honno 1 ac Atodlen 1 i'r un Ddeddf.

(5)

O.S. 2006/1643 (Cy.158), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources