Search Legislation

Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2922 (Cy.243)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010

Gwnaed

7 Rhagfyr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2010

Yn dod i rym

20 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (b) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ionawr 2011.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n ymwneud â chyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt nodweddion cyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd, ac sy'n diwygio Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91, Rheoliadau (EC) Rhif 2232/96 ac (EC) Rhif 110/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC(5);

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd, yn ôl y digwydd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn y Rheoliad UE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad UE.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliad 3 at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliad UE.

Tramgwyddau a chosbau

3.—(1Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau UE a bennir ym mharagraff (2) fel y'i darllenir gyda'r trefniadau trosiannol a geir yn Erthygl 30, neu sy'n methu â chydymffurfio â hi neu â hwy, yn euog o dramgwydd.

(2Mae'r darpariaethau UE fel a ganlyn—

(a)Erthygl 4 (amodau cyffredinol ar gyfer defnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt nodweddion cyflasynnau);

(b)Erthygl 5 (gwahardd cyflasynnau nad ydynt yn cydymffurfio neu fwyd nad yw'n cydymffurfio);

(c)Erthygl 6(1) a (2) (cyfyngiadau ar bresenoldeb sylweddau penodol);

(ch)Erthygl 7 (cyfyngiadau ar ddefnyddio tardd-ddeunyddiau penodol);

(d)Erthygl 10 (cyfyngiad sy'n ymwneud â'r rhestr Gymunedol o gyflasynnau a thardd-ddeunyddiau);

(dd)Erthygl 14(1) (labelu cyflasynnau na fwriedir iddynt gael eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf);

(e)Erthygl 17 (labelu cyflasynnau y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf); ac

(f)Erthygl 19(2) a (3) (rhwymedigaethau hysbysu ar weithredwyr busnesau bwyd).

(3Mae unrhyw berson a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Awdurdodau gorfodi

4.  Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad UE.

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

5.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(6) gyda'r addasiad—

(i)bod is-adrannau (2) i (4) i fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o fynd yn groes i reoliad 3(2)(a) i (e) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a

(ii)y bernir bod y cyfeiriadau at “sale” yn is-adran (4) yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(c)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(ch)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(7), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b);

(d)adran 35(2) a (3)(8), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(c);

(dd)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(e)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(9).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) o'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at y Rheoliad UE.

(3Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y Rheoliad UE a'r Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn eu trefn;

(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); ac

(ch)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

(4Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 3 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Condemnio bwyd

6.  Os bydd dadansoddydd bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y mae'n dramgwydd, o dan y Rheoliadau hyn, ei roi ar y farchnad, rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a'i ddifa ar orchymyn ynad heddwch oddi tani) fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

Diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

7.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(10) yn cael eu diwygio'n unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn lle'r diffiniad o “the additives regulations” rhodder y canlynol—

“the additives regulations” means the Food Additives (Wales) Regulations 2009, Regulation (EC) No. 1333/2008 of the European Parliament and of the Council on food additives and Regulation 1334/2008 on food flavourings;;

(b)yn lle'r diffiniad o “flavouring” pan y'i defnyddir fel enw rhodder y canlynol—

  • the noun “flavouring” bears the same meaning as “flavourings” as defined in Article 3(2)(a) of Regulation 1334/2008 on food flavourings;;

(c)mae'r diffiniadau o “flavouring preparation”, “flavouring substance”, “process flavouring” a “smoke flavouring” yn cael eu hepgor; ac

(ch)ar ôl y diffiniad o “recommended daily allowance” mewnosoder y diffiniad canlynol—

“Regulation 1334/2008 on food flavourings” means Regulation (EC) No. 1334/2008 of the European Parliament and of the Council on flavourings and certain food ingredients with flavouring properties for use in and on foods and amending Council Regulation (EEC) No. 1601/91, Regulations (EC) No. 2232/96 and (EC) No. 110/2008 and Directive 2000/13/EC;”.

(3Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion)—

(a)yn lle paragraff (5) rhodder y canlynol—

(5) Subject to paragraph (5A) and to regulation 34B, where an ingredient being a flavouring is added to or used in a food it shall be identified by either–

(a)the word “flavouring” or, where more than one such ingredient is used, “flavourings”, or

(b)a more specific name or description of the flavouring; or

(c)the expression “smoke flavouring(s)” or “smoke flavouring(s) produced from (insert name of food or food category or source)” if the flavouring component contains smoke flavouring as defined by Article 3(2)(f) of Regulation 1334/2008 on food flavourings and imparts a smoky flavour to the food.;

(b)yn lle paragraff (6) rhodder y canlynol—

(6) The word “natural” to describe an ingredient being a flavouring may only be used in accordance with Article 16 of Regulation 1334/2008 on food flavourings as read with Article 30 of that Regulation; ac

(c)mae paragraffau (7) ac (8) yn cael eu hepgor.

Dirymiadau

8.  Dirymir Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992(11) a Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Diwygio) 1994(12) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt nodweddion cyflasynnau ar gyfer eu defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd ac sy'n diwygio Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91, Rheoliadau (EC) Rhif 2232/96 ac (EC) Rhif 110/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34) (“y Rheoliad UE”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ei bod yn dramgwydd mynd yn groes i ofynion y Rheoliad UE—

(a)drwy ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt nodweddion cyflasynnau mewn bwydydd neu ar fwydydd os ydynt yn cyflwyno risg i iechyd defnyddwyr neu os yw'r defnydd ohonynt yn camarwain cwsmeriaid (rheoliad 3(2)(a));

(b)drwy roi ar y farchnad unrhyw gyflasyn neu gynhwysyn bwyd ac iddo nodweddion cyflasynnau neu fwyd y maent yn bresennol ynddo os nad yw'r defnydd ohonynt yn cydymffurfio â'r Rheoliad UE (rheoliad 3(2)(b));

(c)drwy ychwanegu sylweddau gwaharddedig penodol at fwyd (rheoliad 3(2)(c));

(ch)drwy ddefnyddio tardd-ddeunyddiau gwaharddedig penodol ar gyfer cynhyrchu cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt nodweddion cyflasynnau, neu drwy ddefnyddio rhai tardd-ddeunyddiau penodedig heb fod yn unol ag amodau rhagnodedig (rheoliad 3(2)(ch));

(d)drwy roi ar y farchnad neu ddefnyddio rhai cyflasynnau neu dardd-ddeunyddiau penodedig oni chynhwysir hwy yn rhestr awdurdodedig yr UE (rheoliad 3(2)(d));

(dd)drwy labelu cyflasynnau nas bwriadwyd ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf heb i'r labelu fod yn unol â'r amodau a osodir yn y Rheoliad UE (rheoliad 3(2)(dd));

(e)drwy labelu cyflasynnau a fwriadwyd ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf heb i'r labelu fod yn unol â'r amodau a osodir yn y Rheoliad UE (rheoliad 3(2)(e)); ac

(f)drwy fethu â darparu gwybodaeth benodol a phenodedig pan fo hynny'n ofynnol (rheoliad 3(2)(f)).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

(a)yn dynodi'r awdurdodau sydd â'r ddyletswydd i orfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad UE (rheoliad 4);

(b)yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);

(c)yn darparu pan na fo bwyd yn cydymffurfio â'r Rheoliad UE i'r graddau y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w roi ar y farchnad, mae hynny i'w drin fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd at ddibenion ei atafaelu a'i ddifa o dan adran 9 o Ddeddf 1990 (rheoliad 6); ac

(ch)yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 7).

4.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a'r buddiannau tebygol a fydd yn deillio o hynny wedi cael ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(5)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34.

(6)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(7)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), adran 280(2), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(8)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(9)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), adran 40(1), Atodlen 5, paragraff 16.

(10)

O.S. 1996/1499. Diwygiwyd rheoliad 14(5) yn flaenorol gan O.S. 2004/249 (Cy.26) ac O.S. 2004/3022 (Cy.261). Diwygiwyd rheoliad 34B gan O.S. 2005/2835 (Cy.200) ac O.S. 2008/1268 (Cy.128).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources