- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
33.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), mae llywodraethwr yn dal ei swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o'r dyddiad y'i hetholir neu y'i penodir.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy'n bennaeth y ffederasiwn neu'n bennaeth ysgol ffederal, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y bo'n parhau yn y swydd y mae ei swydd llywodraethwr yn deillio ohoni.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithredol interim a benodir o dan adrannau 16(1), 16A(2), 18(3) neu 18A(4) o Ddeddf 1998, y pennir cyfnod ei swydd gan y person sy'n ei benodi, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr sydd i ddal swydd am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y'i penodir.
(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir a fydd yn dal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.
(7) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt a fydd yn dal swydd am gyfnod o un flwyddyn o ddyddiad ei benodi. Nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi ar ddiwedd ei gyfnod mewn swydd.
(8) Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o'r canlynol—
(a)diwedd pedair blynedd o'r dyddiad y daw ei benodiad i rym;
(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (onid yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 35(2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall weithredu fel llywodraethwr sefydledig a'i fod yn fodlon gwneud hynny; neu
(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i'r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o'i herwydd.
(9) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—
(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;
(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34(1);
(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 35 i 37; neu
(ch)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.
Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 ac Atodlen 21 i'r Ddeddf honno, a chan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd ymhellach gan adrannau 71 ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a Rhan 2 o Atodlen 7 a Rhan 4 o Atodlen 18 i'r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd gan adran 57 o Ddeddf 2002. Diwygiwyd gan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd ymhellach gan adrannau 71 ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a Rhan 2 o Atodlen 7 a Rhan 4 o Atodlen 18 i'r Ddeddf honno.
Diwygiwyd gan adran 56 ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 i'r Ddeddf honno, a chan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd ymhellach gan adrannau 71 ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a Rhan 2 o Atodlen 7 a Rhan 4 o Atodlen 18 i'r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd gan adran 58 o Ddeddf 2002. Diwygiwyd gan adran 6 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd ymhellach gan adran 71 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), ac Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: