Search Legislation

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 66 (Cy.16)

DŴR, CYMRU

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

Gwnaed

13 Ionawr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Ionawr 2010

Yn dod i rym

4 Chwefror 2010

Dynodir Gweinidogion Cymru(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(4).

RHAN 1Safonau dŵr

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 4 Chwefror 2010.

Cwmpas

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwadau preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl” (“water intended for human consumption”) yw—

(a)pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo'i darddiad a pha un a'i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;

(b)pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw ymgymeriad cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Esemptiadau

3.  Nid yw'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag —

(a)dŵr y mae'r Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007(5) yn gymwys iddo;

(b)dŵr sy'n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968(6); neu

(c)dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw'n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy'n tarddu o'r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.

Iachusrwydd

4.  Mae dŵr yn iachus os bodlonir pob un o'r amodau canlynol —

(a)nad yw'n cynnwys unrhyw ficro-organeb, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hunan neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn creu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)ei fod yn cydymffurfio â'r crynodiadau a'r gwerthoedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; ac

(c)yn y dŵr:

Diheintio

5.—(1Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(7))—

(a)cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw unrhyw halogi gan sgil-gynhyrchion dihentio mor isel ag y bo modd,

(b)cyflawni'r broses honno heb beryglu perfformiad y broses o ddiheintio,

(c)sicrhau y cynhelir perfformiad y broses o ddiheintio,

(ch)er mwyn gwirio perfformiad y broses o ddiheintio, cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a gyflawnir i gydymffurfio â gofynion y broses ddiheintio, a

(d)cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o hyd at bum mlynedd.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “diheintio” yw proses o drin dŵr er mwyn—

(a)tynnu ymaith; neu

(b)gwneud yn ddiniwed i iechyd dynol,

pob micro-organeb pathogenig a pharasit pathogenig a fyddai, fel arall, yn bresennol yn y dŵr.

Gofyniad i gynnal asesiad risg

6.—(1Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg, o fewn pum mlynedd o'r adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac wedyn bob pum mlynedd (neu'n gynharach os ystyrir hynny'n angenrheidiol, neu os yw o'r farn bod yr asesiad risg blaenorol yn annigonol) o bob cyflenwad preifat sy'n cyflenwi dŵr i unrhyw fangre yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad sy'n cyflenwi dŵr i annedd breifat sengl yn unig, ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol).

(2Rhaid iddo hefyd gynnal asesiad risg o gyflenwad preifat i annedd breifat sengl yn ei ardal os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.

(3Rhaid i'r asesiad risg benderfynu a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.

RHAN 2Monitro

Monitro

7.  Rhaid i awdurdod lleol fonitro'r holl gyflenwadau preifat yn unol â'r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(8).

Dosbarthu ymhellach cyflenwadau a geir gan ymgymerwyr dŵr neu gyflenwyr dŵr trwyddedig

8.  Pan gyflenwir dŵr gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig ac yna dosberthir y dŵr hwnnw ymhellach gan berson nad yw'n ymgymerwr dŵr nac yn gyflenwr dŵr trwyddedig, rhaid ymgymryd ag unrhyw fonitro y dangosir ei fod yn angenrheidiol yn yr asesiad risg.

Cyflenwadau mawr a chyflenwadau i fangreoedd masnachol neu gyhoeddus

9.  Yn achos cyflenwad preifat (ac eithrio cyflenwad fel a nodir yn rheoliad 8) sydd —

(a)yn cyflenwi cyfaint dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor o ddŵr, neu

(b)yn cyflenwi dŵr i fangre lle y defnyddir y dŵr ar gyfer gweithgaredd masnachol, neu i fangre gyhoeddus,

rhaid i'r awdurdod lleol fonitro yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw fonitro ychwanegol y mae'r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Cyflenwadau preifat eraill

10.—(1Ym mhob achos arall ac eithrio cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol, neu gyflenwad sy'n gymwys o dan reoliadau 8 a 9, rhaid i'r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—

(a)dargludedd;

(b)enterococi;

(c)Escherichia coli (E. coli);

(ch)y crynodiad ïonau hydrogen;

(d)cymylogrwydd;

(dd)unrhyw baramedr yn Atodlen 1 y nodir, yn yr asesiad risg, bod risg y gallai beidio â chydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn yr Atodlen honno; ac

(e)unrhyw beth arall y nodir yn yr asesiad risg y gallai greu perygl posibl i iechyd dynol.

(2Rhaid iddo fonitro o leiaf bob pum mlynedd a chyflawni monitro ychwanegol os yw'r asesiad risg yn dangos bod hynny'n angenrheidiol.

(3Yn achos cyflenwad preifat i annedd breifat sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol, caiff awdurdod lleol fonitro'r cyflenwad yn unol â'r rheoliad hwn, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu'r meddiannydd.

Samplu a dadansoddi

11.—(1Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad preifat, rhaid iddo gymryd sampl—

(a)os cyflenwir y dŵr at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel rheol i ddarparu dŵr i'w yfed gan bobl, ac os oes mwy nag un tap, o dap sy'n gynrychiadol o'r dŵr a gyflenwir i'r fangre;

(b)os defnyddir y dŵr mewn ymgymeriad cynhyrchu bwyd, o'r pwynt lle y'i defnyddir yn yr ymgymeriad;

(c)os cyflenwir y dŵr o dancer, o'r pwynt lle mae'n dod allan o'r tancer;

(ch)mewn unrhyw achos arall, o bwynt addas.

(2Rhaid iddo sicrhau wedyn y dadansoddir y sampl.

(3Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â samplu a dadansoddi.

Cynnal cofnodion

12.  Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn perthynas â phob cyflenwad preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 4.

Cyflwyno gwybodaeth

13.  Erbyn 31 Gorffennaf 2010, ac erbyn 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ddilynol, rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)anfon copi o'r cofnodion a nodir yn Atodlen 4 at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru; a

(b)anfon copi o'r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano.

RHAN 3Gweithredu yn dilyn methiant

Darparu gwybodaeth

14.  Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod cyflenwad preifat yn ei ardal yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol i sicrhau bod y bobl sy'n debygol o yfed dŵr ohono—

(a) yn cael gwybod bod y cyflenwad yn creu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)pan fo modd, yn cael gwybod pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl; ac

(c)yn cael cyngor i'w galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o'r fath.

Ymchwilio

15.  Rhaid i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad i ganfod yr achos os yw'n amau bod y cyflenwad yn afiachus neu nad yw paramedr dangosydd yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Gweithdrefn yn dilyn ymchwiliad

16.—(1Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi canfod achos afiachusrwydd y dŵr, rhaid iddo weithredu yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os yw achos y dŵr afiachus yn y pibwaith o fewn annedd sengl, rhaid iddo roi gwybod yn ddi-oed i'r bobl a wasanaethir a chynnig cyngor iddynt ynghylch y mesurau sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd dynol.

(3Fel arall, os na all yr awdurdod lleol ddatrys y broblem yn anffurfiol—

(a)caiff yr awdurdod lleol, os gwneir cais, ganiatáu awdurdodiad yn unol â rheoliad 17(2) os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw; a

(b)os nad yw'n caniatáu awdurdodiad, rhaid i'r awdurdod lleol (neu, yn achos cyflenwad i annedd breifat sengl, caiff yr awdurdod lleol) gyflwyno hysbysiad, naill ai'n unol ag adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(9) neu o dan reoliad 18 os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw.

Awdurdodi safonau gwahanol

17.—(1Caiff unrhyw berson wneud cais i awdurdod lleol am ganiatáu awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(2Caiff awdurdod lleol ganiatáu awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn —

(a)os yr unig achos sy'n peri bod y dŵr yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);

(b)os yw'r awdurdod lleol wedi ymgynghori gyda'r holl ddefnyddwyr dŵr y mae'r awdurdodiad yn effeithio arnynt a chyda'r Asiantaeth Diogelu iechyd ar gyfer yr ardal, ac wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth;

(c)os nad yw caniatáu'r awdurdodiad yn achosi risg i iechyd dynol; ac

(d)os na ellir cynnal y cyflenwad dŵr drwy unrhyw ddull rhesymol arall.

(3Rhaid i awdurdodiad wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn gweithredu dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â'r paramedrau angenrheidiol, a rhaid iddo nodi —

(a)y person y caniateir yr awdurdodiad iddo;

(b)y cyflenwad sydd dan sylw;

(c)y sail ar gyfer caniatáu'r awdurdodiad;

(ch)y paramedrau sydd dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol a'r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;

(d)yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint y dŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;

(dd)cynllun monitro priodol ynghyd â chynnydd yn amlder y monitro pan fo angen;

(e)crynodeb o'r cynllun i weithredu'r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith, amcangyfrif o'r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; ac

(f)cyfnod parhad yr awdurdodiad.

(4Os yw awdurdod lleol yn caniatáu awdurdodiad, a'r person y'i caniateir iddo yn gweithredu yn unol â'r amserlen gwaith a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ynglŷn â'r materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu'r awdurdodiad.

(5Rhaid i gyfnod parhad yr awdurdodiad fod mor fyr ag y bo modd, ac ni chaiff beth bynnag fod yn hwy na thair blynedd.

(6Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a wasanaethir yn cael gwybod mewn da bryd am yr awdurdodiad ac amodau'r awdurdodiad, a phan fo angen, rhaid iddo sicrhau y rhoddir cyngor i grwpiau penodol a allai fod dan risg arbennig oherwydd yr awdurdodiad.

(7Os yw'r cyflenwad yn fwy na 1,000 mΔ y diwrnod ar gyfartaledd, neu'n gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau, rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r awdurdodiad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru o fewn un mis.

(8Rhaid i'r awdurdod lleol gadw hynt y gwaith unioni dan arolwg.

(9Os oes angen, gyda chaniatâd ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol ganiatáu ail awdurdodiad am hyd at dair blynedd ychwanegol, ond os yw'n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi o'r awdurdodiad ynghyd â sail y penderfyniad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru.

(10Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio'r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei amrywio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.

RHAN 4Gweithdrefn hysbysu

Hysbysiadau

18.—(1Os yw unrhyw gyflenwad preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno hysbysiad i'r person perthnasol (“relevant person”) (fel a ddiffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(10)) o dan y rheoliad hwn, yn hytrach na hysbysiad o dan yr adran honno.

(2Rhaid i'r hysbysiad—

(a)nodi'r cyflenwad preifat y mae'n ymwneud ag ef;

(b)datgan y sail dros gyflwyno'r hysbysiad;

(c)gwahardd defnyddio neu gyfyngu ar y defnydd o'r cyflenwad hwnnw; ac

(ch)pennu pa gamau eraill y mae angen eu cymryd i ddiogelu iechyd dynol.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r defnyddwyr yn ddi-oed ynglŷn â'r hysbysiad, a darparu pa bynnag gyngor sydd ei angen.

(4Ceir gwneud yr hysbysiad yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach.

(5Rhaid i'r awdurdod lleol ddirymu'r hysbysiad ar unwaith pan nad oes bellach unrhyw berygl posibl i iechyd dynol.

(6Mae torri neu beidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn yn dramgwydd.

Apelau

19.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a roddir o dan reoliad 18 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(2Mae'r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon ar gyfer apêl o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(11) yn gymwys i'r achosion.

(3Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.

(4Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiad neu heb addasiad.

Cosbau

20.—(1Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18 yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na thri mis neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a phan brofir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o'r canlynol—

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd.

(3At ddibenion paragraff (2) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

RHAN 5Amrywiol

Ffioedd

21.  Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.

Dirymu

22.  Dirymir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991(12) o ran Cymru.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

13 Ionawr 2010

Rheoliadau 4, 10, 15 ac 17

ATODLEN 1Crynodiadau neu Werthoedd

RHAN 1Iachusrwydd

TABL A: PARAMEDRAU MICROBIOLEGOL

Crynodiadau a gwerthoedd rhagnodedig

ParamedrauCrynodiad neu werth uchafUnedau mesur
Escherichia coli (E. coli)0Nifer/100ml
Enterococi0Nifer/100ml
Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion :
Escherichia coli (E. coli)0Nifer/250ml
Enterococi0Nifer/250ml
Pseudomonas aeruginosa0Nifer/250ml
Cyfrifiad cytrefi 22°C100Nifer/ml
Cyfrifiad cytrefi 37°C20Nifer/ml

TABL B: PARAMEDRAU CEMEGOL

Crynodiadau a gwerthoedd rhagnodedig

ParamedrauCrynodiad neu werth uchafUnedau mesur
(i)

Mae'r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomerau gweddillol yn y dŵr fel y'i cyfrifir yn ôl manylebau o uchafswm y gollyngiad o'r polymer cyfatebol mewn cyffyrddiad â dŵr. Rheolir hyn drwy gyfrwng manylebau cynnyrch.

(ii)

Gweler hefyd y fformiwla nitrad-nitraid yn rheoliad 4(c).

(iii)

At y dibenion hyn, ystyr “plaleiddiaid” yw:

  • pryfleiddiaid organig

  • chwynleiddiaid organig

  • ffyngleiddiaid organig

  • nematoleiddiaid organig

  • gwiddonleiddiaid organig

  • algaleiddiaid organig

  • llygodleiddiaid organig

  • llysnafeddleiddiaid organig

a chynhyrchion perthynol (ymhlith eraill, rheoleiddwyr tyfiant) a'u metabolion a'u cynhyrchion diraddio ac adweithio perthnasol.

Y plaleiddiaid hynny, yn unig, sy'n debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad penodol sydd angen eu monitro.

(iv)

Ystyr “cyfanswm plaleiddiaid” yw swm y crynodiadau o'r plaleiddiaid unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses monitro.

(v)

Y cyfansoddion penodedig yw:

  • benso(b)fflworanthen

  • benso(k)fflworanthen

  • benso(ghi)perylen

  • indeno(1,2,3-cd)pyren.

Mae'r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o'r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses monitro.

(vi)

Mae'r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o'r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses monitro.

(vii)

Y cyfansoddion penodedig yw:

  • clorofform

  • bromofform

  • dibromocloromethan

  • bromodicloromethan.

Mae'r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o'r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses monitro.

Acrylamid (i)0.10μg/l
Antimoni5.0μg/l
Arsenig10μg/l
Bensen1.0μg/l
Benso(a)pyren0.010μg/l
Boron1.0mg/l
Bromad10μg/l
Cadmiwm5.0μg/l
Cromiwm50μg/l
Copr2.0mg/l
Cyanid50μg/l
1, 2 dicloroethan3.0μg/l
Epiclorohydrin (i)0.10μg/l
Fflworid1.5mg/l
Plwm25 (tan 25 Rhagfyr 2013)μg/l
10 (o 25 Rhagfyr 2013 ymlaen)μg/l
Mercwri1.0μg/l
Nicel20μg/l
Nitrad (ii)50mg/l
Nitraid(ii)0.5 (neu 0.1 yn achos gweithfeydd trin)mg/l
Plaleiddiaid (iii)
  • Aldrin

0.030μg/l
  • Dieldrin

0.030μg/l
  • Heptaclor

0.030μg/l
  • Heptalor epocsid

0.030μg/l
  • Plaleiddiaid eraill

0.10μg/l
  • Cyfanswm plaleiddiaid (iv)

0.50μg/l
Hydrocarbonau polysyclig aromatig (v)0.10μg/l
Seleniwm10μg/l
Tetracloroethen a Thricloroethen (vi)10μg/l
Trihalomethanau: Cyfanswm (vii)100μg/l
Finyl clorid (i)0.50μg/l

Gofynion cenedlaethol — Crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

ParamedrauCrynodiad neu werth uchaf neu gyflwrUnedau mesur
Alwminiwm200μg/l
Lliw20mg/l Pt/Co
Haearn200μg/l
Manganîs50μg/l
AroglDerbyniol a dim newid annormal
Sodiwm200mg/l
BlasDerbyniol a dim newid annormal
Tetracloromethan3μg/l
Cymylogrwydd4NTU

RHAN 2Paramedrau dangosyddion

TABL C

Crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig

ParamedrauCrynodiad neu werth uchaf neu gyflwr (oni ddatgenir yn wahanol)Unedau mesur
(i)

Ni ddylai'r dŵr fod yn ymosodol.

(ii)

Heb gynnwys tritiwm, potasiwm-40, radon na chynhyrchion dadfeilio radon.

(iii)

Yn achos trin dŵr wyneb yn unig, neu ddŵr daear y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb

Amoniwm0.50mg/l
Clorid(i)250mg/l
Clostridium perfringens
(gan gynnwys sborau)0Nifer/100ml
Bacteria colifform0Nifer/100ml
(Nifer/250ml yn achos dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion)
Cyfrifau cytrefiDim newid annormalNifer/1ml ar 22°C
Dim newid annormalNifer/1ml ar 37°C
Dargludedd(i)2500μS/cm ar 20°C
Ïonau hydrogen9.5 (gwerth uchaf)gwerth pH
6.5 (gwerth isaf) (yn achos dŵr llonydd a roddir mewn poteli neu gynwysyddion y gwerth isaf yw 4.5)gwerth pH
Sylffad(i)250mg/l
Cyfanswm dos dynodol (ar gyfer ymbelydredd)(ii)0.10mSv/blwyddyn
Cyfanswm carbon organig (CCO)Dim newid annormalmgC/l
Tritiwm
(ar gyfer ymbelydredd)100Bq/l
Cymylogrwydd(iii)1NTU

Rheoliad 9

ATODLEN 2Monitro

RHAN 1Monitro drwy wiriadau

Samplu

1.—(1Rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â monitro drwy wiriadau yn unol â'r Rhan hon.

(2Ystyr monitro drwy wiriadau yw samplu ar gyfer pob paramedr yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—

(a)penderfynu a yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu werthoedd yn Atodlen 1;

(b)darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac

(a)penderfynu pa mor effeithiol fu'r driniaeth a roddwyd i'r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1
Monitro drwy wiriadau
ParamedrAmgylchiadau
AlwminiwmPan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
AmoniwmYm mhob cyflenwad
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Bacteria colifformYm mhob cyflenwad
Cyfrifau cytrefiYm mhob cyflenwad
LliwYm mhob cyflenwad
DargludeddYm mhob cyflenwad
Escherichia coli (E. coli)Ym mhob cyflenwad
Crynodiad ïonau hydrogenYm mhob cyflenwad
HaearnPan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
ManganîsPan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
NitradPan arferir cloramineiddio
NitraidPan arferir cloramineiddio
AroglYm mhob cyflenwad
Pseudomonas aeruginosaYn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig
BlasYm mhob cyflenwad
CymylogrwyddYm mhob cyflenwad

Amlder y samplu

2.—(1Rhaid samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2
Amlder samplu ar gyfer monitro drwy wiriadau
Cyfaint mewn m3/diwrnodAmlder samplu bob blwyddyn
≤ 101
> 10 ≤ 1002
> 100 ≤ 1,0004
> 1,000 ≤ 2,00010
> 2,000 ≤ 3,00013
> 3,000 ≤ 4,00016
> 4,000 ≤ 5,00019
> 5,000 ≤ 6,00022
> 6,000 ≤ 7,00025
> 7,000 ≤ 8,00028
> 8,000 ≤ 9,00031
> 9,000 ≤ 10,00034
> 10,000
4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod)

(2Caiff awdurdod lleol leihau amlder y samplu ar gyfer paramedr i amlder o ddim llai na'r hanner—

(a)os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod ansawdd y dŵr yn y cyflenwad yn annhebygol o ddirywio;

(b)yn achos ïonau hydrogen, os nad fu gwerth pH y paramedr yn is na 6.5 nac yn uwch na 9.5; ac

(c)ym mhob achos arall, os yw canlyniadau'r samplau a gymerwyd at ddibenion monitro'r paramedr dan sylw, ym mhob un o ddwy flynedd ddilynol, yn gyson ac yn sylweddol is na'r crynodiadau neu'r gwerthoedd a bennir yn Atodlen 1.

(2Caiff yr awdurdod lleol bennu amlder uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw o'r farn ei bod yn briodol cymryd i ystyriaeth ganfyddiadau unrhyw asesiad risg, ac yn ychwanegol caiff fonitro unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg.

(3Er gwaethaf y darpariaethau yn is-baragraff (2), rhaid cymryd o leiaf 1 sampl y flwyddyn.

RHAN 2Monitro drwy archwiliad

Samplu

3.—(1Rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â monitro drwy archwiliad yn unol â'r Rhan hon.

(2Ystyr monitro drwy archwiliad yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Atodlen 1 (ac eithrio'r paramedrau a samplir eisoes o dan y monitro drwy wiriadau) er mwyn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i benderfynu a yw'r cyflenwad preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn yr Atodlen honno ac, os defnyddir diheintio, gwirio bod sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb leihau effeithiolrwydd y diheintio.

(3Caiff yr awdurdod lleol, am ba bynnag gyfnod a benderfynir ganddo, hepgor paramedr o fonitro cyflenwad drwy archwilio—

(a)os yw o'r farn bod y paramedr dan sylw yn annhebygol o fod yn bresennol yn y cyflenwad neu system gyda chrynodiad neu werth sy'n peri risg y gallai'r cyflenwad preifat fethu â bodloni'r crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r paramedr hwnnw;

(b)ar ôl cymryd i ystyriaeth canfyddiadau unrhyw asesiad risg; ac

(c)ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4Caiff fonitro unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg.

Amlder y samplu

4.—(1Rhaid ymgymryd â samplu yn unol â'r amlderau a bennir yn Nhabl 3.

Tabl 3
Amlder samplu ar gyfer monitro drwy archwiliad
Cyfaint mewn m3 /diwrnodAmlder samplu bob blwyddyn
≤ 101
> 10 ≤ 3,3002
> 3,300 ≤ 6,6003
> 6,600 ≤ 10,0004
> 10,000 ≤ 100,0003 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod)
> 100,00010 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod)

(2Caiff yr awdurdod lleol osod amlder uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw o'r farn ei bod yn briodol cymryd i ystyriaeth ganfyddiadau unrhyw asesiad risg.

RHAN 3Amlderau lleiaf monitro drwy wiriadau a monitro drwy archwiliad ar gyfer dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion

Cyfaint1 o ddŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion fesul diwrnod (m3)Monitro drwy wiriadau: nifer o samplau bob blwyddynMonitro drwy archwiliad: nifer o samplau bob blwyddyn
1

Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr.

≤ 1011
>10≤60121
> 601 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod)1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod)

Rheoliad 11

ATODLEN 3Samplu a dadansoddi

RHAN 1Cyffredinol

Samplau: cyffredinol

1.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod pob sampl—

(a)wedi ei chymryd gan berson cymwys gan ddefnyddio cyfarpar addas;

(b)yn gynrychiadol o'r dŵr yn y pwynt samplu ar adeg y samplu;

(c)heb ei halogi wrth ei chymryd;

(ch)wedi ei chadw ar y cyfryw dymheredd ac o dan y cyfryw amodau a fydd yn sicrhau na ddigwydd unrhyw newid perthnasol yn yr hyn a fesurir; ac

(d)yn cael ei dadansoddi yn ddi-oed, gan berson cymwys sy'n defnyddio cyfarpar addas.

(2Rhaid iddo sicrhau y dadansoddir y sampl gan ddefnyddio system o reolaethau ansawdd dadansoddi.

(3Rhaid i'r system honno gael ei gwirio gan berson—

(a)nad yw dan reolaeth y dadansoddwr na'r awdurdod lleol; a

(b)a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

Dadansoddi samplau

2.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod pob sampl yn cael ei dadansoddi yn unol â'r paragraff hwn.

(2Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o'r Atodlen hon, pennir y dull o ddadansoddi yn ail golofn y tabl hwnnw.

(3Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o'r Atodlen hon mae'r dull yn un sydd â'r gallu—

(a)i fesur crynodiadau a gwerthoedd gyda'r gwiredd a thrachywiredd a bennir yn ail a thrydedd golofn y tabl hwnnw; a

(b)i ganfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.

(4Yn achos ïonau hydrogen, rhaid i'r dull dadansoddi fod â'r gallu i fesur â gwiredd o 0.2 uned pH a thrachywiredd o 0.2 uned pH.

(5Rhaid i'r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas fod yn alluog i fesur gwerthoedd hafal i'r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanedu ar 25°C

(6At y dibenion hyn—

  • “terfyn canfod” yw—

    (a)

    tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy'n cynnwys crynodiad isel o'r paramedr; neu

    (b)

    pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl gwag;

  • “trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwy waith gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr;

  • “gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a'r gwir werth.

Awdurdodi dulliau amgen o ddadansoddi

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi defnyddio dull gwahanol i'r un a nodir ym mharagraff 2(2) os bodlonir hwy bod y dull hwnnw o leiaf yr un mor ddibynadwy.

(2Cânt osod terfyn amser ar unrhyw awdurdodiad, a'i ddirymu unrhyw adeg.

Samplu a dadansoddi gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol

4.—(1Caiff awdurdod lleol ymuno mewn trefniant i unrhyw berson gymryd samplau a'u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.

(1Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymuno mewn trefniant o dan baragraff (1) oni fydd—

(a)yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy'n gymwys i'w chyflawni, a

(b)wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith ynghylch unrhyw doriad o'r Rheoliadau hyn, ac o unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.

RHAN 2Dulliau dadansoddi

Tabl 1

Dulliau dadansoddi rhagnodedig

ParamedrDull
*

Defnyddiwch y dull canlynol i wneud agar m-CP:

Gwnewch gyfrwng gwaelodol sy'n cynnwys—

Tryptos30.0g
Echdynnyn burum20.0g
Swcros5.0g
L-cystein hydroclorid1.0g
MgSO4.7H2O0.1g
Porffor bromocresol40.0mg
Agar15.0g
Dŵr1,000.0ml

Hydoddwch gynhwysion y cyfrwng gwaelodol, addaswch y pH i 7.6 ac awtoclafiwch ar 121°C am 15 munud. Gadewch i'r cyfrwng oeri.

Hydoddwch—

D-seicloserin400.0mg
Polymycsin-B sylffad25.0mg
Indocsyl-β-D-glwcosid60.0mg

mewn 8ml o ddŵr di-haint ac ychwanegwch ef at y cyfrwng.

Ychwanegwch at y cyfrwng—

Hydoddiant 0.5% ffenolffthalein deuffosffad a ddiheintiwyd drwy hidlo20.0ml
4.5% FeCl3.6H2O a ddiheintiwyd drwy hidlo2.0ml
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)Hidlo drwy bilen ac yna deor y bilen yn anerobig ar agar m-CP* ar 44 ± 1°C am 21 ± 3 awr. Cyfrifwch y cytrefi melyn di-draidd sy'n troi'n binc neu'n goch ar ôl eu datguddio i anweddau amoniwm hydrocsid am rhwng 20 a 30 eiliad.
Bacteria colifformBS-EN ISO 9308-1
Cyfrifiad cytrefi 22°C — rhestru niferoedd o ficro-organebau meithrinadwyBS-EN ISO 6222
Cyfrifiad cytrefi 37°C — rhestru niferoedd o ficro-organebau meithrinadwyBS-EN ISO 6222
Enterococi BS-EN ISO 7899-2
Escherichia coli (E. coli)BS-EN ISO 9308-1
Pseudomonas aeruginosaBS-EN-ISO 12780

Tabl 2

Nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi

ParamedrauGwiredd fel % o'r crynodiad neu werth neu fanyleb a ragnodirTrachywiredd fel % o'r crynodiad neu werth neu fanyleb a ragnodirTerfyn canfod fel % o'r crynodiad neu werth neu fanyleb a ragnodir
Nodiadau:
(i)

Dylai'r dull dadansoddi benderfynu cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf.

(ii)

Mae'r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw.

(iii)

Mae'r nodweddion perfformiad yn gymwys i'r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o'r gwerth paramedrig yn Rhan 1 o Dabl B yn Atodlen 1.

(iv)

Mae'r nodweddion perfformiad yn gymwys i'r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o'r gwerth paramedrig yn Rhan 1 o Dabl B yn Atodlen 1.

(v)

Mae'r nodweddion perfformiad yn gymwys i'r gwerth rhagnodedig o 4 NTU.

(vi)

Mae'r nodweddion perfformiad yn gymwys i'r fanyleb o 1 NTU ar gyfer dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwedir arno gan ddŵr wyneb.

Alwminiwm101010
Amoniwm101010
Antimoni252525
Arsenig101010
Bensen252525
Benso(a)pyren252525
Boron101010
Bromad252525
Cadmiwm101010
Clorid101010
Cromiwm101010
Lliw101010
Dargludedd101010
Copr101010
Cyanid (i)101010
1,2-dicloroethan252510
Fflworid101010
Haearn101010
Plwm101010
Manganîs101010
Mercwri201020
Nicel101010
Nitrad101010
Nitraid101010
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol (ii)252525
Hydrocarbonau aromatig polysyclig (iii)252525
Seleniwm101010
Sodiwm101010
Sylffad101010
Tetracloroethen (iv)252510
Tetracloromethan202020
Tricloroethen (iv)252510
Trihalomethanau:
252510
Cymylogrwydd (v)101010
Cymylogrwydd (vi)252525

Rheoliadau 12 a 13

ATODLEN 4Cofnodion

Cofnodion dechreuol

1.—(1Rhaid i awdurdod lleol, cyn [ ], gofnodi nifer y cyflenwadau preifat yn ei ardal, ac ar gyfer pob cyflenwad unigol, rhaid iddo gofnodi—

(a)enw'r cyflenwad ynghyd â nod adnabod unigryw;

(b)y math o ffynhonnell;

(c)y lleoliad daearyddol gan ddefnyddio cyfeirnod grid;

(ch)amcangyfrif o nifer y bobl a wasanaethir gan y cyflenwad;

(d)amcangyfrif mewn metrau ciwbig o gyfaint dyddiol cyfartalog y dŵr a gyflenwir;

(dd)y math o fangre a gyflenwir;

(e)manylion am unrhyw broses a ddefnyddir i drin y dŵr a'i lleoliad;

(f)enw'r Asiantaeth Diogelu Iechyd y lleolir y cyflenwad yn ei hardal.

(2Rhaid iddo adolygu a diweddaru'r cofnod, o leiaf unwaith y flwyddyn

(3Rhaid iddo ddal gafael ar y cofnod am o leiaf 30 mlynedd

Cofnodion ychwanegol

2.—(1Ar gyfer pob cyflenwad unigol, rhaid iddo gofnodi pob un o'r canlynol o fewn 28 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd neu gael eu cwblhau—

(a)cynllun a disgrifiad o'r cyflenwad;

(b)y rhaglen ar gyfer monitro'r cyflenwad;

(c)yr asesiad risg;

(ch)dyddiad, canlyniadau a lleoliad unrhyw samplu a dadansoddi mewn perthynas â'r cyflenwad dan sylw, a'r rheswm dros gymryd y sampl;

(d)canlyniadau unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(dd)unrhyw awdurdodiad;

(e)unrhyw hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 80 o Ddeddf y diwydiant Dŵr 1991, neu reoliad 18;

(f)unrhyw weithred y cytunir sydd i'w chyflawni gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn;

(ff)unrhyw gais a wneir i'r awdurdod lleol am samplu a dadansoddi, cynnal asesiad risg neu roi cyngor;

(g)crynodeb o unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cyflenwad.

(2Rhaid iddo ddal ei afael yn yr asesiad risg a'r cofnodion samplu a dadansoddi am o leiaf ddeng mlynedd ar hugain, a phob cofnod arall o dan y paragraff hwn am o leiaf bum mlynedd.

Rheoliad 21

ATODLEN 5Ffioedd

Ffi

1.  Caiff yr awdurdod lleol godi ffi, taladwy pan gyflwynir anfoneb, am y gweithgareddau a nodir yn y tabl canlynol; a swm y ffi fydd cost resymol darparu'r gwasanaeth, yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau canlynol.

GwasanaethUchafswm y ffi (£)
(i)

Nid oes ffi'n daladwy pan gymerir ac y dadansoddir sampl er mwyn cadarnhau, yn unig, canlyniad dadansoddi sampl blaenorol.

Asesiad risg (am bob asesiad):500
Samplu (am bob ymweliad unigol) (i):100
Ymchwiliad (am bob ymchwiliad unigol):100
Rhoi awdurdodiad( am bob awdurdodiad unigol):100
Dadansoddi sampl—
  • a gymerir o dan reoliad 10:

25
  • a gymerir yn ystod monitro drwy wiriadau:

100
  • a gymerir yn ystod monitro drwy archwiliad:

500

Personau sy'n atebol i dalu

2.—(1Mae unrhyw berson sy'n gofyn am unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn atebol am y gost.

(2Fel arall, mae ffioedd yn daladwy fel a bennir yn yr anfoneb, gan y person perthnasol fel y'i diffinnir yn adran 80(7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

(3Pan fo mwy nag un person yn atebol, yna, wrth benderfynu pwy ddylai wneud taliad i'r awdurdod lleol—

(a)caiff yr awdurdod lleol rannu'r tâl rhyngddynt; a

(b)rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw gytundeb neu ddogfen arall a ddangosir iddo ynglŷn â'r telerau y cyflenwir y dŵr odanynt.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl, (OJ Rhif 330, 5.12.1998, t. 32) mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991 (O.S. 1991/2790). Diffinnir “cyflenwad preifat” yn adran 93(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel cyflenwad a ddarperir yw fodd ac eithrio gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth amrywiol mewn perthynas â safonau dŵr ar gyfer cyflenwadau preifat. Diffinnir o dan ba amgylchiadau yr ystyrir dŵr yn “iachus”. (rheoliad 4 ac Atodlen 1). Mae hefyd yn pennu'r gofynion sy'n gymwys pan ddiheintir dŵr (rheoliad 5) ac yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal asesiad risg ynglŷn â phob cyflenwad preifat yn ei ardal (rheoliad 6).

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro cyflenwadau preifat (rheoliadau 7 i 10 ac Atodlen 2) ac i sicrhau bod pob sampl a gymerir yn cael ei dadansoddi yn y ffyrdd a bennir yn Atodlen 3 (rheoliad 11). Mae'n gwneud yn ofynnol hefyd bod yr awdurdod lleol yn paratoi ac yn cynnal cofnodion ar gyfer pob cyflenwad dŵr yn ei ardal (rheoliad 12 ac Atodlen 4) ac yn anfon copi o'r cofnodion at yr Arolygiaeth Dŵr Yfed ac at Weinidogion Cymru (rheoliad 13).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn pan nad yw'r dŵr yn iachus. Gwneir yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth i'r bobl sy'n debygol o ddefnyddio'r dŵr (rheoliad 14) ac yn cynnal ymchwiliad (rheoliad15). Os yw achos y dŵr afiachus yn y pibwaith o fewn annedd sengl, rhaid i awdurdodau lleol gynnig cyngor ar y mesurau sydd eu hangen i ddiogelu iechyd dynol. Fel arall, pan nad oes modd datrys y broblem yn anffurfiol, caiff awdurdodau lleol, mewn amgylchiadau diffiniedig, awdurdodi safonau gwahanol. Os na roddir awdurdodiad o'r fath, rhaid i awdurdodau lleol (neu yn achos annedd sengl, caiff awdurdodau lleol) gyflwyno hysbysiadau gwella i fynnu gwneud y cyflenwad yn iachus (rheoliadau 16 ac 17).

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn gwneud yn ofynnol cyflwyno hysbysiad i'r “person perthnasol” (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991) os yw unrhyw gyflenwad yn achosi perygl posibl i iechyd dynol (rheoliad 18) ac yn darparu ar gyfer apelau a chosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau o'r fath (rheoliadau 19 a 20).

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd (rheoliad 21 ac Atodlen 5) ac yn dirymu Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991 (O.S. 1991/2790) o ran Cymru (rheoliad 22).

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, a gellir cael copïau ohono gan Yr Is-adran Newid yn yr Hinsawdd a Dŵr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

O.S 2004/3328, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/850, O.S. 2007/1349, O.S. 2008/301. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng y Gorchymyn hwnnw bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1.

(4)

1991 p.56. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 67 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“Y Cynulliad”) — (a) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, mewn perthynas â system gyflenwi unrhyw ymgymerwr dŵr sydd â'i ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru a (b) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir ac eithrio drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, mewn perthynas â Chymru, gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“y Gorchymyn”) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 77 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 i'r Cynulliad o ran Cymru, gan yr un darpariaethau o'r Gorchymyn; yr oedd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 213 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn arferadwy gan y Cynulliad i'r un graddau ag y gwnaed y pwerau y mae'r adran honno'n gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad, yn rhinwedd yr un darpariaethau o'r Gorchymyn; gweler y cofnod ar gyfer Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff (e) o Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac y'i diwygiwyd gan adran 100(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37); y mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd adran 213 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr gan adrannau 58 a 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraff 39 o Atodlen 7 iddi a pharagraffau 2, 19 a 49 o Atodlen 8 iddi. Mae adran 100(6) o Ddeddf Dŵr 2003 yn trin y cyfeiriadau at adrannau penodol o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn fel pe baent yn gyfeiriadau at yr adrannau hynny fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003. Am ddiffiniad o “system gyflenwi” gweler y diffiniad o “supply system” yn adran 219(4A) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fel y'i mewnosodwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraffau 2 a 50 o Atodlen 8 iddi. Am ddiffiniad o “cyflenwr dŵr trwyddedig” gweler y diffiniad o “licensed water supplier” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y'i diwygiwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraffau 2 a 50 o Atodlen 8 iddi. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(10)

1991 p.56.

(11)

1980 p.43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p.39), adran 47.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources