RHAN 4Gweithdrefn hysbysu
Hysbysiadau18
1
Os yw unrhyw gyflenwad preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno hysbysiad i'r person perthnasol (“relevant person”) (fel a ddiffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199110) o dan y rheoliad hwn, yn hytrach na hysbysiad o dan yr adran honno.
2
Rhaid i'r hysbysiad—
a
nodi'r cyflenwad preifat y mae'n ymwneud ag ef;
b
datgan y sail dros gyflwyno'r hysbysiad;
c
gwahardd defnyddio neu gyfyngu ar y defnydd o'r cyflenwad hwnnw; ac
ch
pennu pa gamau eraill y mae angen eu cymryd i ddiogelu iechyd dynol.
3
Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r defnyddwyr yn ddi-oed ynglŷn â'r hysbysiad, a darparu pa bynnag gyngor sydd ei angen.
4
Ceir gwneud yr hysbysiad yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach.
5
Rhaid i'r awdurdod lleol ddirymu'r hysbysiad ar unwaith pan nad oes bellach unrhyw berygl posibl i iechyd dynol.
6
Mae torri neu beidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn yn dramgwydd.
Apelau19
1
Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a roddir o dan reoliad 18 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
2
Mae'r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon ar gyfer apêl o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 198011 yn gymwys i'r achosion.
3
Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.
4
Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiad neu heb addasiad.
Cosbau20
1
Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18 yn agored —
a
o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na thri mis neu'r ddau, neu
b
o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
2
Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a phan brofir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o'r canlynol—
a
unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb y corff corfforaethol; neu
b
unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,
mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd.
3
At ddibenion paragraff (2) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.