xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18.—(1) Os yw unrhyw gyflenwad preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno hysbysiad i'r person perthnasol (“relevant person”) (fel a ddiffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1)) o dan y rheoliad hwn, yn hytrach na hysbysiad o dan yr adran honno.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)nodi'r cyflenwad preifat y mae'n ymwneud ag ef;
(b)datgan y sail dros gyflwyno'r hysbysiad;
(c)gwahardd defnyddio neu gyfyngu ar y defnydd o'r cyflenwad hwnnw; ac
(ch)pennu pa gamau eraill y mae angen eu cymryd i ddiogelu iechyd dynol.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r defnyddwyr yn ddi-oed ynglŷn â'r hysbysiad, a darparu pa bynnag gyngor sydd ei angen.
(4) Ceir gwneud yr hysbysiad yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach.
(5) Rhaid i'r awdurdod lleol ddirymu'r hysbysiad ar unwaith pan nad oes bellach unrhyw berygl posibl i iechyd dynol.
(6) Mae torri neu beidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn yn dramgwydd.
19.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a roddir o dan reoliad 18 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(2) Mae'r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon ar gyfer apêl o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(2) yn gymwys i'r achosion.
(3) Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.
(4) Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiad neu heb addasiad.
20.—(1) Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18 yn agored —
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na thri mis neu'r ddau, neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
(2) Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a phan brofir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o'r canlynol—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb y corff corfforaethol; neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,
mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd.
(3) At ddibenion paragraff (2) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
1980 p.43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p.39), adran 47.