- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
11 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 31 Mawrth 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–
(a)adran 8(3) (darparu llety a chynhaliaeth i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol), Atodlen 2 (addasiadau darfodol o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989)(2) ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiad ynglŷn ag adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3); a
(b)adran 34.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 8 a 34 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlenni 2 a 4 iddi i rym ar 31 Mawrth 2010 i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a gafodd eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 o ran Lloegr (yn rhannol) | 16 Chwefror 2009 | 2009/323 |
Adran 2 o ran Lloegr | 16 Chwefror 2009 | 2009/323 |
Adran 3 o ran Lloegr | 16 Chwefror 2009 | 2009/323 |
Adran 5 o ran Lloegr | 16 Chwefror 2009 | 2009/323 |
Adran 6 o ran Lloegr (yn rhannol) | 12 Chwefror 2009 | 2009/268 |
Adran 6 o ran Lloegr (y gweddill) | 16 Chwefror 2009 | 2009/323 |
Adran 8 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 10 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 15 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 16 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 18 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2010 | 2009/3354 |
Adran 20 o ran Lloegr (yn rhannol) | 12 Chwefror 2009 | 2009/268 |
Adran 20 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 21 o ran Lloegr (yn rhannol) | 12 Chwefror 2009 | 2009/268 |
Adran 21 o ran Lloegr (y gweddill) | 22 Awst 2009 | 2009/2273 |
Adran 22 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 22 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 23 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Ionawr 2010 | 2009/3354 |
Adran 25 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 26 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2010 | 2009/3354 |
Adran 27 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2010 | 2009/3354 |
Adran 28 o ran Lloegr | 1 Ebrill 2010 | 2009/3354 |
Adran 29 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 33 o ran Lloegr | 12 Chwefror 2009 | 2009/268 |
Adran 34 o ran Lloegr (yn rhannol) | 12 Chwefror 2009 | 2009/268 |
Adran 34 o ran Lloegr (y gweddill) | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 |
Adran 35 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 36 o ran Cymru | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 37 o ran Cymru | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 38 o ran Cymru | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 36 o ran Lloegr | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 37 o ran Lloegr | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 38 | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu yn rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 1989 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Atodlen 1 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/2273 |
Atodlen 2 o ran Lloegr | 12 Chwefror 2009 | 2009/268 |
Atodlen 4 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 |
Atodlen 4 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | 2009/3354 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: