Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 749 (Cy.77) (C.51)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010

Gwnaed

11 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y penodedig

2.  31 Mawrth 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–

(a)adran 8(3) (darparu llety a chynhaliaeth i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol), Atodlen 2 (addasiadau darfodol o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989)(2) ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiad ynglŷn ag adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3); a

(b)adran 34.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 8 a 34 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlenni 2 a 4 iddi i rym ar 31 Mawrth 2010 i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a gafodd eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 1 o ran Lloegr (yn rhannol)16 Chwefror 20092009/323
Adran 2 o ran Lloegr16 Chwefror 20092009/323
Adran 3 o ran Lloegr16 Chwefror 20092009/323
Adran 5 o ran Lloegr16 Chwefror 20092009/323
Adran 6 o ran Lloegr (yn rhannol)12 Chwefror 20092009/268
Adran 6 o ran Lloegr (y gweddill)16 Chwefror 20092009/323
Adran 8 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 10 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 15 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 16 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 18 (yn rhannol)1 Ionawr 20102009/3354
Adran 20 o ran Lloegr (yn rhannol)12 Chwefror 20092009/268
Adran 20 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 21 o ran Lloegr (yn rhannol)12 Chwefror 20092009/268
Adran 21 o ran Lloegr (y gweddill)22 Awst 20092009/2273
Adran 22 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 22 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 23 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Ionawr 20102009/3354
Adran 25 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 26 o ran Lloegr1 Ebrill 20102009/3354
Adran 27 o ran Lloegr1 Ebrill 20102009/3354
Adran 28 o ran Lloegr1 Ebrill 20102009/3354
Adran 29 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Adran 311 Ebrill 20092009/268 (C.11)
Adran 321 Ebrill 20092009/268 (C.11)
Adran 33 o ran Lloegr12 Chwefror 20092009/268
Adran 34 o ran Lloegr (yn rhannol)12 Chwefror 20092009/268
Adran 34 o ran Lloegr (y gweddill)1 Ebrill 20092009/268
Adran 356 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 36 o ran Cymru1 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 37 o ran Cymru1 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 38 o ran Cymru1 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 36 o ran Lloegr1 Medi 20092009/2273
Adran 37 o ran Lloegr1 Medi 20092009/2273
Adran 381 Medi 20092009/2273
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 19896 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu yn rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 19891 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Atodlen 1 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Medi 20092009/2273
Atodlen 2 o ran Lloegr12 Chwefror 20092009/268
Atodlen 4 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Ebrill 20092009/268
Atodlen 4 o ran Lloegr (yn rhannol)1 Ebrill 20102009/3354