- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol a bennir yn Atodlen 1 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod lleol, ac eithrio i'r graddau y mae gwariant o'r fath yn wariant a eithrir neu'n dod o fewn paragraff (2).
(2) Daw gwariant o fewn y paragraff hwn os yw'n wariant—
(a)sydd, yn rhinwedd cynllun yr awdurdod (o fewn ystyr adran 48(5) o Ddeddf 1998) neu unrhyw ddeddfiad, i'w dynnu o gyfran ysgol o'r gyllideb; neu
(b)sy'n dod o fewn is-baragraff (1) o baragraff 1 o Atodlen 2.
5.—(1) Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido rhaid i awdurdod lleol—
(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar ei gyllideb ysgolion ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw; a
(b)hysbysu ei benderfyniad i Weinidogion Cymru, i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo.
(2) Os bydd awdurdod lleol yn ailbenderfynu ei gyllideb ysgolion, rhaid iddo hysbysu'r ailbenderfyniad hwnnw i Weinidogion Cymru ac i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl ailbenderfynu.
6.—(1) Rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol a bennir ym mharagraff (2) at ddibenion adran 45A(2) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb ysgolion awdurdod lleol.
(2) Dyma'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol—
(a)gwariant ar ddarparu a chynnal a chadw ysgolion a gynhelir ac ar addysg y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion hynny;
(b)gwariant ar addysg disgyblion mewn ysgolion annibynnol, ysgolion arbennig nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, yn y cartref ac yn yr ysbyty, ac ar unrhyw drefniadau eraill ar gyfer darparu addysg gynradd ac uwchradd i ddisgyblion heblaw mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol; ac
(c)pob gwariant arall a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â darparu addysg gynradd ac uwchradd, i'r graddau nad yw gwariant o'r fath yn dod o fewn paragraff (a) neu (b),
ond dim ond i'r graddau nad yw gwariant o'r fath—
(a)yn dod o fewn dosbarth neu ddisgrifiad o wariant a ragnodir gan reoliad 4 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod lleol, a
(b)yn wariant a eithrir.
7. Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol ddidynnu o'i gyllideb ysgolion unrhyw un neu'r cyfan o'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant cynlluniedig a nodir yn Atodlen 2, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, er mwyn cyrraedd ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: