Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

Niferoedd disgyblion : Cofrestru Deuol

14.  Pan fo disgybl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf 1996(1), yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol, yna rhaid trin y disgybl hwnnw fel un sy'n ddisgybl llawnamser ym mhob ysgol o'r fath oni bai bod yr awdurdod yn darparu'n bendant fel arall yn ei fformiwla.

(1)

Gweler Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995, O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, 1999/2267, 2001/1109, 2003/3227 a 2005/2913.