xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 930 (Cy.95) (C.63)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010

Gwnaed

23 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 40(2)(a) o Ddeddf Iechyd 2009(1).

Yn unol ag adran 40(13) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol.

Teitl a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.

Y diwrnod penodedig — amryw

2.  1 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym—

(a)paragraffau 14 i 17 o Atodlen 3 (penodiadau'r GIG a phenodiadau iechyd eraill: atal dros dro);

(b)paragraffau 18 ac 19 o Atodlen 3 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac

(c)adran 19 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 3 y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

23 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf mewn cysylltiad â Deddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf ”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 baragraffau penodol yn Atodlen 3 i'r Ddeddf sy'n cynnwys diwygiadau i ddarparu ar gyfer pwerau atal dros dro mewn perthynas â chyrff penodol GIG a chyrff eraill sy'n ymwneud ag iechyd (erthygl 2(a) i (c)).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2010/30 (p.5).