2010 Rhif 989 (Cy.98) (C.67)
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4), 167(2) ac adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20081, ac ar ôl ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 172(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010.
2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1948” (“1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948 2;
ystyr “Deddf 1970” (“1970 Act”) yw Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 3;
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008;
mae i “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2;
mae i “llety'r GIG” yr ystyr a roddir i “NHS accommodation” gan adran 24(6A) o Ddeddf 19484;
ystyr “llety'r GIG nad yw'n ysbyty” (“non-hospital NHS accommodation”) yw llety'r GIG nad yw mewn ysbyty wedi ei freinio—
- a
yn yr Ysgrifennydd Gwladol,
- b
yn un o Ymddiriedolaethau'r GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 20065, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20066, neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19787,
- c
mewn Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu,
- ch
mewn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu un o ymddiriedolaethau sefydledig y GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
- a
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig2
19 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 148 o'r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol
3
Nid yw'r diwygiadau a wneir i adran 24 o Ddeddf 1948 (awdurdod sy'n atebol am ddarparu llety) gan adran 148(1) yn effeithiol mewn perthynas â pherson y darperir llety'r GIG nad yw'n ysbyty ar ei gyfer yn union cyn y diwrnod penodedig cyhyd â bod y cyfnod lletya hwnnw'n parhau.
4
Nid yw'r diwygiadau a wneir i adran 2 o Ddeddf 1970 gan adran 148(3) o Ddeddf 2008 yn effeithiol mewn perthynas â chwestiwn sy'n codi o dan adran 2 o Ddeddf 1970 o ran preswylfa arferol person mewn achos lle y mae'r cwestiwn, ar y diwrnod penodedig, yn destun achos llys.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Nodyn am orchmynion cychwyn blaenorol
Cafodd darpariaethau canlynol y Ddeddf eu dwyn i rym o ran Cymru drwy gyfrwng gorchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
a.147 | 6 Ebrill 2009 | |
a.166 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 5 o Atodlen 15) | 6 Ebrill 2009 | |
Atodlen 13 | 6 Ebrill 2009 | |
Rhan 5 o Atodlen 15 | 6 Ebrill 2009 |