Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

1.  Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Deddfau'r Cynulliad yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“y Ddeddf”) ac yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbed ac addasiadau mewn perthynas â chychwyn y Rhan honno. Mae hefyd yn diddymu deddfwriaeth benodol a fydd yn ddiangen pan ddaw'r Gorchymyn i rym.

2.  Mae erthygl 2 yn pennu'r dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym, ac mae erthygl 3 yn cychwyn darpariaethau Deddfau'r Cynulliad, er mwyn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Deddfau'r Cynulliad.

3.  Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn i Ran 3 o'r Ddeddf barhau i gael effaith mewn perthynas â Mesurau arfaethedig y Cynulliad, a fydd wedi eu pasio gan y Cynulliad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ond heb eu cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Pwrpas y ddarpariaeth hon yw sicrhau y bydd modd i Fesurau arfaethedig y Cynulliad, a gânt eu pasio gan y Cynulliad cyn diddymu'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2011, barhau i gael eu cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, o dan y darpariaethau perthnasol yn Rhan 3 fel y gallant ddod yn gyfraith.

4.  Mae erthygl 5(2) yn mewnosod darpariaeth yn adran 115 o'r Ddeddf, i'r perwyl bod rhaid i Geidwad y Sêl Gymreig anfon y Breinlythyrau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

5.  Mae erthygl 5(3) yn mewnosod darpariaeth yn adran 115 o'r Ddeddf i sicrhau y gwneir print swyddogol o Ddeddf Cynulliad, a bod rhaid i Glerc y Cynulliad ysgrifennu'r flwyddyn galendr ac unrhyw ragddodiad a rhif a neilltuir i'r Ddeddf ar y copi hwnnw. Mae'n darparu hefyd bod rhaid i Glerc y Cynulliad wneud copi ardystiedig o'r print swyddogol ac anfon y copi hwnnw at Argraffydd y Frenhines. Rhaid i'r Clerc drefnu ar gyfer anfon y print swyddogol o bob Deddf Cynulliad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

6.  Mae erthygl 5(3) hefyd yn mewnosod darpariaeth yn adran 115 o'r Ddeddf i sicrhau bod pob print swyddogol o Ddeddf Cynulliad, a'r Breinlythyrau mewn perthynas â hi, yn cael eu diogelu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn agored i'w harchwilio gan y cyhoedd.

7.  Mae erthygl 6 yn addasu Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Mae adran 7(8) wedi ei diwygio i gynnwys cyfeiriad at Ddeddfau'r Cynulliad ac mae adran 7(9) yn disodli'r cyfeiriad at adran 94(4) o'r Ddeddf â chyfeiriad at adran 108(4) o'r Ddeddf honno.

8.  Mae erthygl 7 yn addasu'r diffiniad o “Welsh trunk road charging scheme” yn adran 123(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008 (p.26) fel bod yr ymadrodd hwnnw yn cyfeirio at gynlluniau a wneir gan, neu o dan, Ddeddfau'r Cynulliad.

9.  Mae erthygl 8 yn addasu rheoliad 2(4) o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3239) i gynnwys cyfeiriad at Ddeddfau'r Cynulliad.

10.  Mae erthygl 9 yn diwygio adran 41 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4) i dynnu'r cyfeiriadau at adran 96.