Paratoi, cyhoeddi ac adolygu CSCau15
1
Wrth wneud CSC, ei ail-wneud neu ei ddiwygio rhaid i'r awdurdod—
a
cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a
b
rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.
2
Rhaid i awdurdod gyhoeddi ei CSC cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r CSC gael ei wneud neu ei ail-wneud.
3
Os bydd awdurdod yn diwygio'i CSC heb ei ail-wneud yna rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y diwygiadau, gyhoeddi'r diwygiadau neu'r CSC fel y'i diwygiwyd (fel y mae'n credu ei bod yn briodol).
4
Caiff awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd i gyhoeddi ei CSC drwy nodi'r CSC fel rhan o ddogfen gyhoeddedig arall neu mewn nifer o ddogfennau cyhoeddedig eraill.
At ddibenion y paragraff hwn mae “CSC” yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i'r CSC.
5
Rhaid i'r awdurdod adolygu'n barhaus—
a
ei CSC; a
b
unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r CSC.
6
Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (5), rhaid i'r awdurdod roi sylw dyladwy—
i
i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal; a
ii
i unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod yn credu y byddai'n debyg o'i gynorthwyo yn yr adolygiad.