Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 107 (Cy.26)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011

Gwnaed

20 Ionawr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Ionawr 2011

Yn dod i rym

14 Chwefror 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 33D(3), 33E(3), 33G(3), 33I(3), a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 14 Chwefror 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cymhwyster sgil allweddol” (“key skill qualification”) yw cymhwyster a restrir felly yng Nghronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru(2) a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;

  • mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf Addysg 1996(3);

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

  • ystyr “pwyntiau” (“points”) yw'r pwyntiau a ddyrennir i gwrs neu gyrsiau astudio gan Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru;

  • ystyr “sefydliad” yw sefydliad yn yr ystyr a roddir i “institution” gan adran 33N(1) o Ddeddf 2000 ond nid yw'n cynnwys y sefydliadau a restrir yn Atodlen 1; ac

  • ystyr “tymor y gwanwyn” (“spring term”) yw'r ail dymor ysgol yn y flwyddyn ysgol yn yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ac sy'n digwydd yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

Dyfarnu ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl

3.—(1Rhaid i gais gan ddisgybl cofrestredig am ddyfarniad gan bennaeth ysgol ynghylch ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl o dan adran 33D(1) o Ddeddf 2000 gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r pennaeth ysgol o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl dechrau tymor y gwanwyn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i bennaeth ysgol wneud dyfarniad o dan adran 33D(1) o Ddeddf 2000 ynghylch ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais gan ddisgybl cofrestredig.

(3Cyn gwneud dyfarniad o dan adran 33D(1) o Ddeddf 2000 rhaid i bennaeth ysgol ymgynghori â'r canlynol—

(a)y disgybl a rhiant y disgybl;

(b)pennaeth ysgol unrhyw ysgol arall y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol ymgynghori ag ef;

(c)pennaeth sefydliad unrhyw sefydliad y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol ymgynghori ag ef; ac

(ch)unrhyw bersonau eraill y gwêl y pennaeth ysgol yn dda i ymgynghori â hwy.

(4Mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y disgybl i'r pennaeth ysgol sy'n datgan nad yw'n bwriadu gwneud cais i'r pennaeth ysgol i wneud dyfarniad o dan adran 33D(1) yn derfynol.

Dewisiadau disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol

4.  Ni chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyfuniad o gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol os yw cyfanswm pwyntiau'r cwrs hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o gyrsiau astudio yn fwy na 200 o bwyntiau heb gynnwys unrhyw bwyntiau a ddyrannwyd i gwrs neu gyrsiau astudio sy'n arwain at gymhwyster sgil allweddol neu gymhwyster bagloriaeth Cymru y mae disgybl wedi dewis ei ddilyn neu eu dilyn.

Hyd y cyfnod pan fo'n rhaid i'r disgybl ddewis

5.  Rhaid i ddisgybl ddewis yn ystod tymor y gwanwyn dilyn cwrs neu gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol.

Penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth

6.—(1Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu o dan adran 33G(1) o Ddeddf 2000 nad oes hawlogaeth gan ddisgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio rhaid iddo wneud hynny o fewn y cynharaf o'r canlynol—

(a)3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod hawlogaeth, neu

(b)3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cwrs neu gyrsiau astudio y mae myfyriwr wedi dewis ei ddilyn neu eu dilyn o dan adran 33E o Ddeddf 2000.

(2Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu hynny rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r disgybl a rhiant y disgybl yn ysgrifenedig am y materion canlynol—

(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;

(b)y caiff y disgybl neu riant y disgybl wneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu'r penderfyniad hwnnw;

(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac

(ch)y caiff y disgybl neu riant y disgybl wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad.

(3Rhaid i gais gan ddisgybl neu riant y disgybl o dan baragraff (2)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael hysbysiad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad am ei benderfyniad.

(4Os bydd disgybl neu riant y disgybl yn gwneud cais o dan baragraff (2)(b) i bennaeth ysgol neu i bennaeth sefydliad adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—

(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan ddisgybl neu riant y disgybl ynghylch y penderfyniad hwnnw; ac

(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.

(5Rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r disgybl a rhiant y disgybl yn ysgrifenedig am y rhesymau drosto.

(6Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn unig o ran y dewisiad cyntaf y mae disgybl yn ei wneud o dan adran 33E(1) o Ddeddf 2000 yn unol â rheoliad 5 (ac nid o ran unrhyw ddewisiad wedyn).

Penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth

7.—(1Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu o dan adran 33I(1) o Ddeddf 2000 nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio, rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r myfyriwr am y materion canlynol—

(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;

(b)y caiff y myfyriwr wneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu'r penderfyniad hwnnw;

(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac

(ch)y caiff y myfyriwr wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad.

(2Nid oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn y cwrs neu'r cyrsiau astudio ar ôl dyddiad penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o dan adran 33I(1) o Ddeddf 2000.

(3Rhaid i gais gan fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (1)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael hysbysiad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad am ei benderfyniad.

(4Os bydd myfyriwr yn gwneud cais o dan baragraff (1)(b) i bennaeth ysgol neu i bennaeth sefydliad adolygu ei benderfyniad, rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—

(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan fyfyriwr ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw; ac

(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.

(5Rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r myfyriwr yn ysgrifenedig amdano a'r rhesymau drosto.

Terfynau amser

8.  At ddibenion cyfrifo'r cyfnodau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 3(1) a (2), 6(2), (3), (4) a (5) a 7(1), (3), (4), a (5), bernir bod yr hysbysiad neu'r cais wedi dod i law'r person o dan sylw—

(a)os defnyddir y post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei bostio;

(b)os caiff yr hysbysiad ei draddodi â llaw, dyddiad ei draddodi;

(c)os defnyddir post electronig, ar y diwrnod y caiff ei anfon,

oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

20 Ionawr 2011

Rheoliad 2

YR ATODLENSefydliadau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

1.  Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — Rhanbarth Gogledd Cymru.

2.  Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — Rhanbarth De Cymru.

3.  Cyngor Cenedlaethol Cymdeithasau Cristnogol Dynion Ieuainc Cymru.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mewnosododd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (“y Mesur”) ddarpariaethau newydd yn Rhan 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (“Deddf 2000”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â'r chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 2 o'r Mesur y caiff y cwricwlwm ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau yn y sector addysg bellach yng Nghymru, ei ehangu i gynnwys hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion sydd wedi peidio â bod o oedran ysgol gorfodol, ond nad ydynt hyd yn hyn wedi cyrraedd 19 oed. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y dewisiadau y caiff myfyriwr eu gwneud, penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth, dyfarniad ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl a phenderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod cais gan ddisgybl i gael dyfarniad gan bennaeth ysgol ynghylch ei ysgol berthnasol neu ei sefydliad perthnasol yn gorfod cael ei wneud o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl dechrau tymor y gwanwyn. Mae rheoliad 3 yn darparu ymhellach fod yn rhaid i bennaeth ysgol wneud y dyfarniad o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r pennaeth ysgol gael hysbysiad am gais y disgybl am ddyfarniad o'r fath.

Mae rheoliad 4 yn darparu na chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau astudio os yw cyfanswm pwyntiau cwrs neu gyrsiau o'r fath yn fwy na 200. Rhaid i ddewis o'r fath gael ei wneud yn ystod tymor y gwanwyn yn y flwyddyn cyn i'r disgybl beidio â bod o oedran ysgol gorfodol (rheoliad 5).

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad pan fydd yn dyfarnu, yn unol ag adran 33G(1) o Ddeddf 2000, a oes hawlogaeth gan y disgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio. Mae rheoliad 6 hefyd yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd disgybl yn dymuno gwneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu ei ddyfarniad o dan adran 33G(1) o Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad pan fydd yn dyfarnu, yn unol ag adran 33I(1) o Ddeddf 2000, nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio. Mae rheoliad 7 hefyd yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd disgybl yn dymuno gwneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu ei ddyfarniad o dan adran 33I(1) o Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu'r terfynau amser i hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

2000 p.21. Mewnosodwyd adran 33D gan adran 25 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mewnosodwyd adran 33E gan adran 26 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mewnosodwyd adran 33G gan adran 28 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 ac mewnosodwyd adran 33I gan adran 30 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(2)

Cyfeiriad y wefan ar gyfer Cronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru yw www.daqw.org.uk.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources