xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1501 (Cy.175)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011

Gwnaed

14 Mehefin 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Mehefin 2011

Yn dod i rym

7 Gorffennaf 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) ac a freinir bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymiadau

2.  Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl isod (sydd â'r cyfeirnodau a restrir yng ngholofn 2) i'r graddau a ddynodir yng ngholofn 3:

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Offeryn a ddirymirCyfeirnodGraddau'r dirymu
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996O.S. 1996/2891O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996O.S. 1996/3119O ran Cymru, rheoliad 4
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997O.S. 1997/978O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998O.S. 1998/809O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1998O.S. 1998/1113Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999O.S. 1999/1607O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999O.S. 1999/2316Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999O.S. 1999/3470 (Cy.56)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000O.S. 2000/1735 (Cy.119)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001O.S. 2001/2071 (Cy.143)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001O.S. 2001/4006 (Cy.332)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002O.S. 2002/2799 (Cy.267)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004O.S. 2004/254 (Cy.29)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006O.S. 2006/2800 (Cy.239)Yr offeryn cyfan

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

14 Mehefin 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu, o ran Cymru, Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) a Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113). Roedd Rheoliadau 1996 a 1998 yn rhagnodi ffurflen Saesneg a ffurflen Gymraeg ar gyfer ceisiadau am grantiau o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (am gymorth gan awdurdodau tai lleol tuag at gost gwaith sy'n ofynnol er mwyn darparu cyfleusterau i bersonau anabl mewn anheddau penodedig).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud y dirymiadau canlyniadol canlynol mewn perthynas â Chymru:

1.  rheoliad 4 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996 (O.S. 1996/3119);

2.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/978);

3.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/809);

4.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1607);

5.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/2316);

6.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3470 (Cy.56));

7.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1735 (Cy.119));

8.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2071 (Cy.143));

9.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4006 (Cy.332));

10.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2799 (Cy.267));

11.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/254 (Cy.29));

12.  Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2800 (Cy.239)).

(1)

1996 p.53. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau a oedd yn arferadwy gynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Gwnaed diwygiadau i Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

1993 p.38. Roedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b) ac Atodlen 1, yn cyfarwyddo bod y pŵer yn adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron yr oedd y pŵer hwnnw'n arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer o'r Cynulliad hwnnw i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.