Search Legislation

Gorchymyn Grymuso Harbwr Saundersfoot 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 6RHEOLI GWEITHIAU A CHARTHU

Cyfyngu ar weithiau a charthu

41.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir i unrhyw berson ac eithrio'r Comisiynwyr wneud y canlynol yn yr harbwr—

(a)adeiladu, newid, adnewyddu neu estyn unrhyw weithiau; neu

(b)carthu;

oni fydd y person hwnnw wedi ei drwyddedu i wneud hynny, gan drwydded gweithiau yn achos gweithiau a chan drwydded garthu yn achos carthu, a hynny yn unig yn unol â'r telerau ac amodau, os oes rhai, a bennwyd wrth ganiatáu'r drwydded, ac yn unol â phlaniau, trychiadau a manylion a gymeradwywyd yn unol ag erthygl 43 o'r Gorchymyn hwn neu, fel y bo'n ofynnol yn yr achos dan sylw, erthygl 44 o'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff y Comisiynwyr, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n mynd yn groes i'r erthygl hon yn symud ymaith, atal neu unioni, o fewn amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw waith, gweithrediad neu anwaith y mae'r tramgwydd yn berthynol iddo, ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol; ac os nad yw'r person hwnnw'n cydymffurfio â'r hysbysiad, caiff y Comisiynwyr gyflawni'r gweithiau a wnaed yn ofynnol felly, ac adennill y gost o wneud hynny gan y person hwnnw.

(3Nid oes dim yn yr erthygl hon sy'n gymwys i'r canlynol—

(a)unrhyw weithrediadau neu weithiau a awdurdodir yn benodol gan unrhyw ddeddfiad; neu

(b)unrhyw weithrediadau neu weithiau ymgymerydd statudol.

(4Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i'r erthygl hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Rheolaeth ar rai gweithrediadau a gweithiau gan ymgymerwyr statudol

42.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw weithrediadau neu weithiau gan ymgymerydd statudol yn yr harbwr ar, o dan, neu uwchben dyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw, ac nad ydynt yn weithrediadau neu weithiau a awdurdodir yn benodol gan ddeddfiad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i ymgymerydd statudol beidio â chyflawni unrhyw weithrediadau neu weithiau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt oni fydd wedi rhoi hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny i'r Comisiynwyr, ac wedi cyflenwi i'r Comisiynwyr pa bynnag fanylion y gofynnant amdanynt yn rhesymol.

(3Os yw'n anymarferol, mewn argyfwng, rhoi hysbysiad fel sy'n ofynnol gan baragraff (2), rhaid i'r ymgymerydd statudol hysbysu'r Comisiynwyr ynghylch y gweithrediadau neu'r gweithiau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Rhaid cynnal unrhyw weithrediadau neu weithiau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i'r ymgymerydd statudol o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr, sef cyfarwyddiadau ar gyfer osgoi perygl ac atal, i'r graddau y gellir, ymyrraeth â mordwyo wrth gyflawni gweithrediadau neu weithiau o'r fath.

(5Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i'r erthygl hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Trwyddedu gweithiau

43.—(1Caiff y Comisiynwyr, ar ba bynnag delerau ac amodau a ystyriant yn briodol, ganiatáu trwydded i unrhyw berson i adeiladu, lleoli, newid, adnewyddu neu gynnal gweithiau yn yr harbwr, ar, o dan, neu dros ddyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw, er gwaethaf unrhyw ymyrraeth â hawliau mordwyo cyhoeddus neu hawliau cyhoeddus eraill, gan weithiau o'r fath, fel y'u hadeiledir, y'u lleolir, y'u newidir, y'u hadnewyddir neu'u cynhelir.

(2Rhaid gwneud cais am drwydded gweithiau mewn ysgrifen i'r Comisiynwyr, a rhaid—

(a)ei gyflwyno ynghyd â phlaniau, trychiadau a manylion o'r gweithiau y mae'r cais yn ymwneud â hwy;

(b)nodi pa un a yw'r ceisydd yn dal y cyfryw hawliau yn, o dan, neu dros y tir, sy'n angenrheidiol i alluogi'r ceisydd i gael budd o'r drwydded, ac os nad ydyw, nodi pa gamau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd i alluogi'r ceisydd i gael y cyfryw hawliau, os caniateir y drwydded.

(3Wrth ganiatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod y planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd iddynt gan y ceisydd yn cael eu haddasu.

(4Caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd am drwydded gweithiau, wrth gyflwyno'i gais, yn talu ffi resymol ar gyfer y treuliau gweinyddol o ymdrin â'r cais.

(5Fel amod caniatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod trwyddedai, sef ceisydd y caniatawyd trwydded iddo, neu ei olynydd, os adeiledir gweithiau yn unol â'r drwydded, yn talu ffioedd rhesymol ar gyfer treuliau gweinyddol a gorbenion y Comisiynwyr wrth oruchwylio neu archwilio, pan fo angen, y gwaith o adeiladu neu gynnal y gweithiau.

(6Os yw'r Comisiynwyr yn penderfynu caniatáu trwydded gweithiau, rhaid iddynt roi hysbysiad o'u penderfyniad i'r ceisydd.

(7Pan fo'r Comisiynwyr yn gwrthod caniatáu trwydded gweithiau y gwnaed cais amdani, rhaid iddynt roi rhesymau am eu gwrthodiad mewn ysgrifen.

(8Pan fo'r Comisiynwyr yn caniatáu trwydded gweithiau ar delerau neu amodau, neu'n gofyn am unrhyw addasiad yn y planiau a'r manylion, rhaid iddynt roi eu rhesymau am osod y telerau ac amodau neu ofyn am yr addasiadau, mewn ysgrifen.

(9Os na fydd y Comisiynwyr, o fewn tri mis o'r dyddiad y gwneir cais o dan baragraff (2) (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng y ceisydd a'r Comisiynwyr), wedi hysbysu'r ceisydd o'u penderfyniad ynghylch caniatáu trwydded gweithiau, rhaid ystyried eu bod wedi gwrthod y cais.

(10Mae erthyglau 46 i 51 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ddeiliad trwydded gweithiau, mewn perthynas â'r gweithiau a awdurdodir gan y drwydded, fel y maent yn gymwys i'r Comisiynwyr mewn perthynas â gweithiau llanwol, gyda'r holl gyfeiriadau at y Comisiynwyr wedi eu disodli gan gyfeiriadau at ddeiliad y drwydded gweithiau.

(11Mae caniatáu trwydded o dan yr erthygl hon yn cael effaith at ddibenion erthygl 41, ac nid yw'n rhoi unrhyw awdurdod arall ar gyfer cynnal y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded.

(12Wrth gynnal gweithrediadau yn unol â thrwydded gweithiau, rhaid i ddeiliad y drwydded—

(a)peidio ag ymyrryd ag unrhyw gyfarpar sy'n eiddo i, neu a gynhelir gan, unrhyw ymgymerydd statudol, na difrodi na chael effaith andwyol rywfodd arall ar unrhyw gyfarpar o'r fath; a

(b)peidio â gwneud dim i rwystro nac amharu ar unrhyw waith ynglŷn ag archwilio neu atgyweirio unrhyw gyfarpar o'r fath;

heb ganiatâd yr ymgymerydd statudol dan sylw.

Trwydded i garthu

44.—(1Caiff y Comisiynwyr, ar ba bynnag delerau ac amodau y tybiant sy'n briodol, ganiatáu trwydded i unrhyw berson i garthu mewn unrhyw ran o'r harbwr.

(2Rhaid gwneud cais am drwydded garthu mewn ysgrifen i'r Comisiynwyr, a'i gyflwyno ynghyd â phlaniau, trychiadau a manylion sy'n diffinio natur, maint a dull y gweithrediadau y gwneir y cais mewn perthynas â hwy.

(3Wrth ganiatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod y planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd iddynt gan y ceisydd yn cael eu haddasu.

(4Mae paragraffau (4) i (9) a (12) o erthygl 43 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded garthu fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thrwydded gweithiau.

(5Mae caniatáu trwydded o dan yr erthygl hon yn cael effaith at ddibenion erthygl 41, ac nid yw'n rhoi unrhyw awdurdod arall ar gyfer cynnal y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded.

(6Oni fydd y Comisiynwyr yn cytuno'n wahanol, rhaid i unrhyw ddeunyddiau (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn adran 255(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(1)) a godir neu a gesglir drwy garthu yn unol â thrwydded garthu, i'r graddau nad oeddent yn eiddo i'r Comisiynwyr cyn eu codi a'u casglu, ond yn ddarostyngedig i ddarpariaethau erthygl 43, ddod yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chaiff y Comisiynwyr ddefnyddio, meddiannu neu waredu unrhyw ddeunydd o'r fath.

Apelau mewn perthynas â thrwyddedau gweithiau neu garthu

45.—(1Pan fo—

(a)y Comisiynwyr wedi gwrthod caniatáu trwydded gweithiau neu drwydded garthu a'r ceisydd am y drwydded wedi ei dramgwyddo gan y gwrthodiad; neu

(b)y Comisiynwyr wedi caniatáu trwydded o'r fath ar delerau neu amodau neu wedi ei gwneud yn ofynnol addasu'r planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd gan y ceisydd, a'r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad y Comisiynwyr ynglŷn â'r cyfryw delerau neu amodau neu ynglŷn â'r cyfryw addasiadau;

caiff y ceisydd, o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y rhoddodd y Comisiynwyr hysbysiad o'u penderfyniad, neu'r dyddiad yr ystyrir o dan erthygl 43 neu 44 eu bod wedi gwrthod y cais, yn ôl fel y digwydd, apelio i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid gwneud apêl o dan baragraff (1) drwy hysbysiad ysgrifenedig, gan nodi seiliau'r apêl.

(3Rhaid i berson sy'n apelio i Weinidogion Cymru o dan yr erthygl hon anfon, ar yr un pryd, gopi o'r datganiad o apêl at y Comisiynwyr, a rhaid i'r Comisiynwyr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn, ddarparu'r holl ddogfennau perthnasol i Weinidogion Cymru, ac o fewn 28 diwrnod o gael y datganiad o apêl, cânt ddarparu i Weinidogion Cymru eu sylwadau ar yr apêl.

(4Yn dilyn apêl o dan yr erthygl hon, caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn a gorchymyn gwneud yn ofynnol unrhyw ddiwygiadau canlyniadol, gan gynnwys diwygio'r telerau ac amodau neu'r addasiadau i blaniau, trychiadau a manylion.

(5Rhaid i'r Comisiynwyr roi effaith i unrhyw benderfyniad neu ofyniad a roddir neu a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4).

Ni cheir cyflawni gweithiau llanwol heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru

46.—(1Ni cheir adeiladu, ailadeiladu, estyn, newid, ehangu, amnewid neu ailosod unrhyw waith llanwol ac eithrio'n unol â phlaniau a thrychiadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau a osodwyd ganddynt cyn dechrau'r gwaith.

(2Os caiff gwaith llanwol ei adeiladu, ailadeiladu, estyn, newid, ehangu, amnewid neu ei ailosod yn groes i baragraff (1) neu'n groes i unrhyw amod neu gyfyngiad a osodwyd o dan y paragraff hwnnw—

(a)caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr, ar eu traul eu hunain, yn symud ymaith y gwaith llanwol, neu unrhyw ran ohono, ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol; ac os bydd y Comisiynwyr, ar ddiwedd cyfnod o 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r Comisiynwyr, wedi methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni'r gweithiau a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod angen gwneud hynny ar frys, caiff Gweinidogion Cymru symud ymaith y gwaith llanwol, neu ran ohono, ac adfer y safle i'w gyflwr blaenorol,

a chânt adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir iddynt drwy wneud hynny.

Goleuadau ar weithiau llanwol yn ystod yr adeiladu

47.—(1Rhaid i'r Comisiynwyr, ar neu gerllaw unrhyw waith llanwol, drwy gydol y cyfnod y caiff ei adeiladu, estyn, ehangu, newid, amnewid neu ei ailosod, bob nos rhwng machlud a chodiad haul ddangos y cyfryw oleuadau, os oes rhai, a chymryd pa bynnag gamau eraill i atal perygl i fordwyaeth, a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(2Os bydd y Comisiynwyr yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), byddant yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaeth rhag perygl i fordwyaeth

48.—(1Os digwydd i waith llanwol, neu unrhyw ran ohono, ddioddef niwed neu ddinistr, neu os bydd wedi dirywio, rhaid i'r Comisiynwyr hysbysu Trinity House cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid iddynt osod pa bynnag fwiau, dangos pa bynnag oleuadau a chymryd pa bynnag gamau eraill a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Trinity House er mwyn osgoi perygl i fordwyaeth.

(2Os bydd y Comisiynwyr yn peidio â hysbysu Trinity House fel sy'n ofynnol gan baragraff (1) neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o gyfarwyddyd o dan y paragraff hwnnw, bydd y Comisiynwyr yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Diddymu gweithiau a adawyd neu sydd wedi dirywio

49.—(1Pan fo gwaith llanwol wedi ei adael, neu os caniatawyd iddo ddirywio, caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr, ar eu traul eu hunain, naill ai'n atgyweirio ac adfer y gwaith neu unrhyw ran ohono, neu'n symud ymaith y gwaith ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol, i'r cyfryw raddau ac o fewn y cyfryw derfynau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(2Pan fo gwaith, a gyfansoddir yn rhannol o waith llanwol ac yn rhannol o weithiau ar dir sydd uwchlaw lefel y penllanw, neu dros dir o'r fath, wedi ei adael, neu os caniatawyd iddo ddirywio, ac os yw'r rhan honno o'r gwaith sydd ar dir neu dros dir uwchlaw lefel y penllanw yn y fath gyflwr sy'n ymyrryd, neu'n peri pryder rhesymol y gallai ymyrryd, â hawl mordwyo neu hawliau cyhoeddus eraill ar y blaendraeth, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y rhan honno o'r gwaith, neu unrhyw gyfran ohoni, mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (1).

(3Os bydd y Comisiynwyr, ar ddiwedd cyfnod o 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, wedi peidio â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad, a cheir adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir i Weinidogion Cymru drwy wneud hynny.

Arolwg o weithiau llanwol

50.  Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n hwylus gwneud hynny, cânt orchymyn cynnal arolwg ac archwiliad o waith llanwol, neu o'r safle y bwriedir adeiladu'r gwaith arno, a cheir adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir i Weinidogion Cymru drwy gynnal unrhyw arolwg ac archwiliad o'r fath.

Goleuadau parhaol ar weithiau llanwol

51.—(1Ar ôl cwblhau gwaith llanwol rhaid i'r Comisiynwyr, bob nos rhwng machlud a chodiad haul ym mhen allanol eithaf y gwaith, ddangos y cyfryw oleuadau, os oes rhai, a chymryd y cyfryw gamau eraill, os oes rhai, i osgoi perygl i fordwyaeth, fel a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Trinity House.

(2Os bydd y Comisiynwyr, mewn unrhyw fodd, yn peidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), byddant yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources