RHAN 6RHEOLI GWEITHIAU A CHARTHU

Cyfyngu ar weithiau a charthu41

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir i unrhyw berson ac eithrio'r Comisiynwyr wneud y canlynol yn yr harbwr—

a

adeiladu, newid, adnewyddu neu estyn unrhyw weithiau; neu

b

carthu;

oni fydd y person hwnnw wedi ei drwyddedu i wneud hynny, gan drwydded gweithiau yn achos gweithiau a chan drwydded garthu yn achos carthu, a hynny yn unig yn unol â'r telerau ac amodau, os oes rhai, a bennwyd wrth ganiatáu'r drwydded, ac yn unol â phlaniau, trychiadau a manylion a gymeradwywyd yn unol ag erthygl 43 o'r Gorchymyn hwn neu, fel y bo'n ofynnol yn yr achos dan sylw, erthygl 44 o'r Gorchymyn hwn.

2

Caiff y Comisiynwyr, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n mynd yn groes i'r erthygl hon yn symud ymaith, atal neu unioni, o fewn amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw waith, gweithrediad neu anwaith y mae'r tramgwydd yn berthynol iddo, ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol; ac os nad yw'r person hwnnw'n cydymffurfio â'r hysbysiad, caiff y Comisiynwyr gyflawni'r gweithiau a wnaed yn ofynnol felly, ac adennill y gost o wneud hynny gan y person hwnnw.

3

Nid oes dim yn yr erthygl hon sy'n gymwys i'r canlynol—

a

unrhyw weithrediadau neu weithiau a awdurdodir yn benodol gan unrhyw ddeddfiad; neu

b

unrhyw weithrediadau neu weithiau ymgymerydd statudol.

4

Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i'r erthygl hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Rheolaeth ar rai gweithrediadau a gweithiau gan ymgymerwyr statudol42

1

Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw weithrediadau neu weithiau gan ymgymerydd statudol yn yr harbwr ar, o dan, neu uwchben dyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw, ac nad ydynt yn weithrediadau neu weithiau a awdurdodir yn benodol gan ddeddfiad.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i ymgymerydd statudol beidio â chyflawni unrhyw weithrediadau neu weithiau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt oni fydd wedi rhoi hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny i'r Comisiynwyr, ac wedi cyflenwi i'r Comisiynwyr pa bynnag fanylion y gofynnant amdanynt yn rhesymol.

3

Os yw'n anymarferol, mewn argyfwng, rhoi hysbysiad fel sy'n ofynnol gan baragraff (2), rhaid i'r ymgymerydd statudol hysbysu'r Comisiynwyr ynghylch y gweithrediadau neu'r gweithiau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

4

Rhaid cynnal unrhyw weithrediadau neu weithiau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i'r ymgymerydd statudol o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr, sef cyfarwyddiadau ar gyfer osgoi perygl ac atal, i'r graddau y gellir, ymyrraeth â mordwyo wrth gyflawni gweithrediadau neu weithiau o'r fath.

5

Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i'r erthygl hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Trwyddedu gweithiau43

1

Caiff y Comisiynwyr, ar ba bynnag delerau ac amodau a ystyriant yn briodol, ganiatáu trwydded i unrhyw berson i adeiladu, lleoli, newid, adnewyddu neu gynnal gweithiau yn yr harbwr, ar, o dan, neu dros ddyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw, er gwaethaf unrhyw ymyrraeth â hawliau mordwyo cyhoeddus neu hawliau cyhoeddus eraill, gan weithiau o'r fath, fel y'u hadeiledir, y'u lleolir, y'u newidir, y'u hadnewyddir neu'u cynhelir.

2

Rhaid gwneud cais am drwydded gweithiau mewn ysgrifen i'r Comisiynwyr, a rhaid—

a

ei gyflwyno ynghyd â phlaniau, trychiadau a manylion o'r gweithiau y mae'r cais yn ymwneud â hwy;

b

nodi pa un a yw'r ceisydd yn dal y cyfryw hawliau yn, o dan, neu dros y tir, sy'n angenrheidiol i alluogi'r ceisydd i gael budd o'r drwydded, ac os nad ydyw, nodi pa gamau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd i alluogi'r ceisydd i gael y cyfryw hawliau, os caniateir y drwydded.

3

Wrth ganiatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod y planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd iddynt gan y ceisydd yn cael eu haddasu.

4

Caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd am drwydded gweithiau, wrth gyflwyno'i gais, yn talu ffi resymol ar gyfer y treuliau gweinyddol o ymdrin â'r cais.

5

Fel amod caniatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod trwyddedai, sef ceisydd y caniatawyd trwydded iddo, neu ei olynydd, os adeiledir gweithiau yn unol â'r drwydded, yn talu ffioedd rhesymol ar gyfer treuliau gweinyddol a gorbenion y Comisiynwyr wrth oruchwylio neu archwilio, pan fo angen, y gwaith o adeiladu neu gynnal y gweithiau.

6

Os yw'r Comisiynwyr yn penderfynu caniatáu trwydded gweithiau, rhaid iddynt roi hysbysiad o'u penderfyniad i'r ceisydd.

7

Pan fo'r Comisiynwyr yn gwrthod caniatáu trwydded gweithiau y gwnaed cais amdani, rhaid iddynt roi rhesymau am eu gwrthodiad mewn ysgrifen.

8

Pan fo'r Comisiynwyr yn caniatáu trwydded gweithiau ar delerau neu amodau, neu'n gofyn am unrhyw addasiad yn y planiau a'r manylion, rhaid iddynt roi eu rhesymau am osod y telerau ac amodau neu ofyn am yr addasiadau, mewn ysgrifen.

9

Os na fydd y Comisiynwyr, o fewn tri mis o'r dyddiad y gwneir cais o dan baragraff (2) (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng y ceisydd a'r Comisiynwyr), wedi hysbysu'r ceisydd o'u penderfyniad ynghylch caniatáu trwydded gweithiau, rhaid ystyried eu bod wedi gwrthod y cais.

10

Mae erthyglau 46 i 51 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ddeiliad trwydded gweithiau, mewn perthynas â'r gweithiau a awdurdodir gan y drwydded, fel y maent yn gymwys i'r Comisiynwyr mewn perthynas â gweithiau llanwol, gyda'r holl gyfeiriadau at y Comisiynwyr wedi eu disodli gan gyfeiriadau at ddeiliad y drwydded gweithiau.

11

Mae caniatáu trwydded o dan yr erthygl hon yn cael effaith at ddibenion erthygl 41, ac nid yw'n rhoi unrhyw awdurdod arall ar gyfer cynnal y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded.

12

Wrth gynnal gweithrediadau yn unol â thrwydded gweithiau, rhaid i ddeiliad y drwydded—

a

peidio ag ymyrryd ag unrhyw gyfarpar sy'n eiddo i, neu a gynhelir gan, unrhyw ymgymerydd statudol, na difrodi na chael effaith andwyol rywfodd arall ar unrhyw gyfarpar o'r fath; a

b

peidio â gwneud dim i rwystro nac amharu ar unrhyw waith ynglŷn ag archwilio neu atgyweirio unrhyw gyfarpar o'r fath;

heb ganiatâd yr ymgymerydd statudol dan sylw.

Trwydded i garthu44

1

Caiff y Comisiynwyr, ar ba bynnag delerau ac amodau y tybiant sy'n briodol, ganiatáu trwydded i unrhyw berson i garthu mewn unrhyw ran o'r harbwr.

2

Rhaid gwneud cais am drwydded garthu mewn ysgrifen i'r Comisiynwyr, a'i gyflwyno ynghyd â phlaniau, trychiadau a manylion sy'n diffinio natur, maint a dull y gweithrediadau y gwneir y cais mewn perthynas â hwy.

3

Wrth ganiatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod y planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd iddynt gan y ceisydd yn cael eu haddasu.

4

Mae paragraffau (4) i (9) a (12) o erthygl 43 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded garthu fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thrwydded gweithiau.

5

Mae caniatáu trwydded o dan yr erthygl hon yn cael effaith at ddibenion erthygl 41, ac nid yw'n rhoi unrhyw awdurdod arall ar gyfer cynnal y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded.

6

Oni fydd y Comisiynwyr yn cytuno'n wahanol, rhaid i unrhyw ddeunyddiau (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn adran 255(1) o Ddeddf Llongau Masnach 199520) a godir neu a gesglir drwy garthu yn unol â thrwydded garthu, i'r graddau nad oeddent yn eiddo i'r Comisiynwyr cyn eu codi a'u casglu, ond yn ddarostyngedig i ddarpariaethau erthygl 43, ddod yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chaiff y Comisiynwyr ddefnyddio, meddiannu neu waredu unrhyw ddeunydd o'r fath.

Apelau mewn perthynas â thrwyddedau gweithiau neu garthu45

1

Pan fo—

a

y Comisiynwyr wedi gwrthod caniatáu trwydded gweithiau neu drwydded garthu a'r ceisydd am y drwydded wedi ei dramgwyddo gan y gwrthodiad; neu

b

y Comisiynwyr wedi caniatáu trwydded o'r fath ar delerau neu amodau neu wedi ei gwneud yn ofynnol addasu'r planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd gan y ceisydd, a'r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad y Comisiynwyr ynglŷn â'r cyfryw delerau neu amodau neu ynglŷn â'r cyfryw addasiadau;

caiff y ceisydd, o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y rhoddodd y Comisiynwyr hysbysiad o'u penderfyniad, neu'r dyddiad yr ystyrir o dan erthygl 43 neu 44 eu bod wedi gwrthod y cais, yn ôl fel y digwydd, apelio i Weinidogion Cymru.

2

Rhaid gwneud apêl o dan baragraff (1) drwy hysbysiad ysgrifenedig, gan nodi seiliau'r apêl.

3

Rhaid i berson sy'n apelio i Weinidogion Cymru o dan yr erthygl hon anfon, ar yr un pryd, gopi o'r datganiad o apêl at y Comisiynwyr, a rhaid i'r Comisiynwyr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn, ddarparu'r holl ddogfennau perthnasol i Weinidogion Cymru, ac o fewn 28 diwrnod o gael y datganiad o apêl, cânt ddarparu i Weinidogion Cymru eu sylwadau ar yr apêl.

4

Yn dilyn apêl o dan yr erthygl hon, caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn a gorchymyn gwneud yn ofynnol unrhyw ddiwygiadau canlyniadol, gan gynnwys diwygio'r telerau ac amodau neu'r addasiadau i blaniau, trychiadau a manylion.

5

Rhaid i'r Comisiynwyr roi effaith i unrhyw benderfyniad neu ofyniad a roddir neu a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4).

Ni cheir cyflawni gweithiau llanwol heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru46

1

Ni cheir adeiladu, ailadeiladu, estyn, newid, ehangu, amnewid neu ailosod unrhyw waith llanwol ac eithrio'n unol â phlaniau a thrychiadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau a osodwyd ganddynt cyn dechrau'r gwaith.

2

Os caiff gwaith llanwol ei adeiladu, ailadeiladu, estyn, newid, ehangu, amnewid neu ei ailosod yn groes i baragraff (1) neu'n groes i unrhyw amod neu gyfyngiad a osodwyd o dan y paragraff hwnnw—

a

caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr, ar eu traul eu hunain, yn symud ymaith y gwaith llanwol, neu unrhyw ran ohono, ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol; ac os bydd y Comisiynwyr, ar ddiwedd cyfnod o 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r Comisiynwyr, wedi methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni'r gweithiau a bennir yn yr hysbysiad; neu

b

os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod angen gwneud hynny ar frys, caiff Gweinidogion Cymru symud ymaith y gwaith llanwol, neu ran ohono, ac adfer y safle i'w gyflwr blaenorol,

a chânt adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir iddynt drwy wneud hynny.

Goleuadau ar weithiau llanwol yn ystod yr adeiladu47

1

Rhaid i'r Comisiynwyr, ar neu gerllaw unrhyw waith llanwol, drwy gydol y cyfnod y caiff ei adeiladu, estyn, ehangu, newid, amnewid neu ei ailosod, bob nos rhwng machlud a chodiad haul ddangos y cyfryw oleuadau, os oes rhai, a chymryd pa bynnag gamau eraill i atal perygl i fordwyaeth, a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

2

Os bydd y Comisiynwyr yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), byddant yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaeth rhag perygl i fordwyaeth48

1

Os digwydd i waith llanwol, neu unrhyw ran ohono, ddioddef niwed neu ddinistr, neu os bydd wedi dirywio, rhaid i'r Comisiynwyr hysbysu Trinity House cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid iddynt osod pa bynnag fwiau, dangos pa bynnag oleuadau a chymryd pa bynnag gamau eraill a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Trinity House er mwyn osgoi perygl i fordwyaeth.

2

Os bydd y Comisiynwyr yn peidio â hysbysu Trinity House fel sy'n ofynnol gan baragraff (1) neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o gyfarwyddyd o dan y paragraff hwnnw, bydd y Comisiynwyr yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Diddymu gweithiau a adawyd neu sydd wedi dirywio49

1

Pan fo gwaith llanwol wedi ei adael, neu os caniatawyd iddo ddirywio, caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr, ar eu traul eu hunain, naill ai'n atgyweirio ac adfer y gwaith neu unrhyw ran ohono, neu'n symud ymaith y gwaith ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol, i'r cyfryw raddau ac o fewn y cyfryw derfynau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

2

Pan fo gwaith, a gyfansoddir yn rhannol o waith llanwol ac yn rhannol o weithiau ar dir sydd uwchlaw lefel y penllanw, neu dros dir o'r fath, wedi ei adael, neu os caniatawyd iddo ddirywio, ac os yw'r rhan honno o'r gwaith sydd ar dir neu dros dir uwchlaw lefel y penllanw yn y fath gyflwr sy'n ymyrryd, neu'n peri pryder rhesymol y gallai ymyrryd, â hawl mordwyo neu hawliau cyhoeddus eraill ar y blaendraeth, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y rhan honno o'r gwaith, neu unrhyw gyfran ohoni, mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (1).

3

Os bydd y Comisiynwyr, ar ddiwedd cyfnod o 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, wedi peidio â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad, a cheir adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir i Weinidogion Cymru drwy wneud hynny.

Arolwg o weithiau llanwol50

Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n hwylus gwneud hynny, cânt orchymyn cynnal arolwg ac archwiliad o waith llanwol, neu o'r safle y bwriedir adeiladu'r gwaith arno, a cheir adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir i Weinidogion Cymru drwy gynnal unrhyw arolwg ac archwiliad o'r fath.

Goleuadau parhaol ar weithiau llanwol51

1

Ar ôl cwblhau gwaith llanwol rhaid i'r Comisiynwyr, bob nos rhwng machlud a chodiad haul ym mhen allanol eithaf y gwaith, ddangos y cyfryw oleuadau, os oes rhai, a chymryd y cyfryw gamau eraill, os oes rhai, i osgoi perygl i fordwyaeth, fel a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Trinity House.

2

Os bydd y Comisiynwyr, mewn unrhyw fodd, yn peidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), byddant yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.