RHAN 7CYLLID

Cyhoeddi datganiad cyfrifon blynyddol y Comisiynwyr

52.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl paratoi eu datganiad cyfrifon blynyddol, rhaid i'r Comisiynwyr—

(a)rhoi copi o'r datganiad ar gael yn swyddfeydd y Comisiynwyr am gyfnod o dri mis, i'w archwilio'n ddi-dâl gan aelodau'r cyhoedd, a rhaid i'r Comisiynwyr, os telir tâl rhesymol, gyflenwi copi o'r datganiad i unrhyw berson sy'n gofyn am gael ei gyflenwi â chopi; a

(b)anfon copi o'r datganiad at Weinidogion Cymru a phob un o'r awdurdodau lleol.

Pwerau benthyca

53.—(1Caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, fenthyca, ar sicrwydd y cyfan neu unrhyw rai o refeniwiau ac eiddo'r Comisiynwyr a thrwy unrhyw ddull neu ddulliau a ystyriant yn briodol, y cyfryw symiau o arian yr ystyriant yn angenrheidiol.

(2Ond—

(a)ni chaniateir i'r cyfanswm sydd heb ei ad-dalu o'r arian a fenthyciwyd o dan yr erthygl hon fod yn fwy na £5,000,000 ar unrhyw adeg;

(b)wrth gyfrifo, at ddibenion yr erthygl hon, y cyfanswm sydd heb ei ad-dalu o'r arian a fenthyciwyd gan y Comisiynwyr, rhaid peidio â chynnwys unrhyw symiau a fenthyciwyd at y diben o ad-dalu, o fewn deuddeng mis o'r dyddiad benthyg, unrhyw swm o brifswm benthyciad blaenorol a oedd heb ei ad-dalu ar y pryd.

(3Ni cheir defnyddio arian a fenthycir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon ac eithrio at ddibenion y mae'n briodol defnyddio arian cyfalaf ar eu cyfer.

(4At ddibenion paragraff (3), ystyrir bod dibenion y mae'n briodol defnyddio arian cyfalaf ar eu cyfer yn cynnwys—

(a)talu unrhyw log a ddaw'n daladwy o fewn y pum mlynedd sy'n dilyn yn union ar ôl dyddiad benthyca unrhyw swm o arian a fenthycir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon; a

(b)ad-dalu, o fewn deuddeng mis o'r dyddiad benthyg, unrhyw swm o brifswm benthyciad blaenorol sydd heb ei ad-dalu ar y pryd.

Benthyca dros dro

54.—(1Caiff y Comisiynwyr fenthyca dros dro, ar ffurf gorddrafft neu fel arall, y cyfryw symiau y bydd eu hangen ar y Comisiynwyr i gwrdd â'u hymrwymiadau neu gyflawni eu swyddogaethau o dan, neu'n unol ag, unrhyw ddeddfiad.

(2Ond ni chaniateir i'r cyfanswm sydd heb ei ad-dalu o'r arian a fenthyciwyd o dan yr erthygl hon fod yn fwy na £100,000 ar unrhyw un adeg.

Addasu'r terfynau benthyca

55.—(1Ar ben-blwydd dyddiad y cyfansoddiad newydd bob blwyddyn, rhaid addasu'r symiau a grybwyllir yn erthyglau 53 a 54 yn unol ag unrhyw symudiad (a gyfrifir i un lle degol) yn y mynegai a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr yn union cyn y pen-blwydd dan sylw.

(2Rhaid cofnodi unrhyw addasiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn y datganiad cyfrifon blynyddol dilynol nesaf a baratoir gan y Comisiynwyr.

Cronfa wrth gefn

56.  Caiff y Comisiynwyr sefydlu a chynnal cronfa wrth gefn a chânt benderfynu pa arian sydd i'w gredydu i'r gronfa honno, sut y'i rheolir ac at ba rai o ddibenion y Comisiynwyr y defnyddir yr arian a gynhwysir ynddi.

Archwilio cyfrifon

57.  Rhaid i gyfrifon y Comisiynwyr gael eu harchwilio'n flynyddol gan archwilydd neu gan gwmni o gyfrifwyr a benodir gan y Comisiynwyr, ac ni fydd person neu gwmni yn gymwys i'w benodi at y diben hwnnw oni fydd y person neu'r cwmni hwnnw yn gymwys am benodiad fel archwiliwr stadudol o dan Ran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006(1) .