xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 15

ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYSYLLTIEDIG MEWN PERTHYNAS Å'R COMISIYNWYR

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd y Comisiynwyr

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, rhaid i'r Comisiynwyr fod â chadeirydd, a rhaid ei benodi gan y Comisiynwyr o blith y Comisiynwyr a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11.

2.  Bydd y cadeirydd cyntaf a benodir o dan baragraff 1, yn ddarostyngedig i baragraff 8 ac oni fydd y cadeirydd yn ymddiswyddo fel cadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd hyd at ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, bydd pob cadeirydd a benodir o dan baragraff 1, oni fydd y cadeirydd yn ymddiswyddo fel cadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd.

4.  Rhaid i'r Comisiynwyr fod ag is-gadeirydd, a rhaid ei benodi gan y Comisiynwyr o blith y Comisiynwyr hynny a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11.

5.  Rhaid penodi'r is-gadeirydd cyntaf a fydd mewn swydd ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw ac, yn ddarostyngedig i baragraff 8 ac oni fydd yr is-gadeirydd yn ymddiswyddo fel is-gadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, bydd yn parhau mewn swydd fel is-gadeirydd am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad ei benodiad yn is-gadeirydd.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, bydd pob is-gadeirydd a benodir o dan baragraff 4 oni fydd yr is-gadeirydd yn ymddiswyddo fel is-gadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd.

7.—(1Os digwydd i swydd cadeirydd neu is-gadeirydd y Comisiynwyr fynd yn wag dros dro, rhaid i'r Comisiynwyr lenwi'r swydd wag o blith y Comisiynwyr hynny a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11 mewn cyfarfod a gynhelir cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i'r swydd fynd yn wag.

(2Rhaid i Gomisiynydd a benodir i lenwi lle gwag dros dro yn swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd o dan y paragraff hwn, oni fydd y Comisiynydd yn ymddiswyddo o'r swydd honno neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, ddal y swydd honno yn ystod gweddill y tymor y penodwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd y llenwir ei le ar ei gyfer.

8.  Os bodlonir y Comisiynwyr y dylai'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd beidio â dal swydd fel cadeirydd neu is-gadeirydd, cânt derfynu'r swydd honno a phenodi Comisiynydd arall yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd yn ystod gweddill y tymor y penodwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd blaenorol ar ei gyfer.

Cyfarfodydd o'r Comisiynwyr

9.—(1Rhaid i gyfarfod cyntaf y Comisiynwyr ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd gael ei gynnull cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y cadeirydd, ar ddyddiad y caiff y cadeirydd ei benderfynu; a rhaid i'r cadeirydd wneud trefniadau i anfon hysbysiad o'r cyfarfod hwnnw drwy'r post at y Comisiynwyr.

(2Rhaid i'r Comisiynwyr gyfarfod wyth gwaith o leiaf bob blwyddyn.

Gadael swydd fel Comisiynydd

10.  Caiff Comisiynydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd.

Ailbenodi Comisiynwyr

11.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, mae Comisiynydd sy'n ymadael yn gymwys i'w ailbenodi fel Comisiynydd oni fydd wedi ei ddatgymhwyso rhag dal swydd o dan erthygl 13.

(2Nid yw Comisiynydd yn gymwys i'w ailbenodi fel Comisiynydd os ydyw, yn union cyn y dyddiad dan sylw, wedi dal swydd am dri thymor yn olynol, oni bai ei fod yn gadeirydd y Comisiynwyr.

(3Nid yw cadeirydd y Comisiynwyr yn gymwys i'w ailbenodi fel Comisiynydd os yw'r cadeirydd, yn union cyn y dyddiad dan sylw, wedi dal swydd fel Comisiynydd am bedwar tymor yn olynol.

(4At ddibenion y paragraff hwn, nid yw “tymor” (“term”) yn cynnwys—

(a)tymor y cyfeirir ato yn erthygl 8(3);

(b)gweddill tymor y penodwyd y Comisiynydd ynddo i lenwi swydd wag dros dro o dan erthygl 11; neu

(c)unrhyw dymor o wasanaeth gan y Comisiynydd cyn dyddiad y cyfansoddiad newydd.

Ailbenodi cadeirydd

12.—(1Nid yw cadeirydd y Comisiynwyr yn gymwys i'w ailbenodi fel cadeirydd os yw'r cadeirydd, yn union cyn y dyddiad dan sylw, wedi gwasanaethu fel cadeirydd am dri thymor yn olynol.

(2At ddibenion y paragraff hwn, nid yw “tymor” (“term”) yn cynnwys—

(a)tymor y cyfeirir ato yn erthygl 8(3);

(b)gweddill tymor y penodwyd y Comisiynydd ynddo i lenwi lle gwag dros dro yn swydd y cadeirydd o dan baragraff 7; neu

(c)unrhyw dymor o wasanaeth gan y Comisiynydd fel cadeirydd cyn dyddiad y cyfansoddiad newydd.

Pwyllgorau

13.  Caiff y Comisiynwyr, yn gyson â'u dyletswyddau ac yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau y tybiant sy'n briodol, ddirprwyo unrhyw rai o'u swyddogaethau (ac eithrio'r swyddogaethau a bennir yn is-baragraffau (a) i (f) o baragraff 9B o Atodlen 2 i Ddeddf 1964) i bwyllgor o'r Comisiynwyr.

Trafodion y Comisiynwyr a phwyllgorau

14.  Ni chaiff gweithredoedd a thrafodion y Comisiynwyr nac unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr eu hannilysu gan unrhyw swydd wag yn eu mysg, na chan unrhyw ddiffyg ym mhenodiad, neu ddiffyg o ran cymhwystra ar gyfer penodiad, unrhyw berson fel Comisiynydd neu fel cadeirydd neu is-gadeirydd, y Comisiynwyr neu bwyllgor.

15.  Y cworwm gofynnol ar gyfer cyfarfod o'r Comisiynwyr yw tri.

16.—(1Os oes gan Gomisiynydd unrhyw fuddiant, uniongyrchol neu anuniongyrchol—

(a)mewn unrhyw gontract neu gontract arfaethedig y mae, neu y byddai'r Comisiynwyr yn barti ynddo, neu os yw'n gyfarwyddwr y cwmni neu'r corff y gwneir, neu y bwriedir gwneud, y contract gydag ef; neu

(b)mewn unrhyw fater arall y mae'r Comisiynwyr yn ymwneud ag ef,

rhaid i'r Comisiynydd ddatgan y buddiant hwnnw.

(2Os yw Comisiynydd yn bresennol mewn cyfarfod o'r Comisiynwyr neu o unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr lle y bwriedir ystyried contract neu fater arall y mae gan y Comisiynydd hwnnw fuddiant ynddo, rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cychwyn y cyfarfod hwnnw, ddatgelu'r buddiant hwnnw;

(b)peidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn perthynas â'r contract neu'r mater hwnnw; ac

(c)gadael y cyfarfod—

(i)ar unrhyw adeg, os yw'r Comisiynwyr sy'n bresennol, drwy benderfyniad, yn gofyn i'r Comisiynydd hwnnw wneud hynny; a

(ii)tra gwneir penderfyniad ar y contract neu'r mater hwnnw.

(3Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw fuddiant—

(a)sydd gan Gomisiynydd mewn perthynas â thalu ffioedd harbwr i'r Comisiynwyr;

(b)sy'n codi mewn perthynas â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau harbwr sy'n effeithio ar y gymuned fasnachol yn gyffredinol;

(c)sydd gan Gomisiynydd fel cyflogai ymgymeriad cyfleustod cyhoeddus, neu fel cyfranddaliwr, ond nid cyfarwyddwr cwmni, oni bai bod y Comisiynydd yn dal mwy na phump y cant o gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig y cwmni hwnnw; neu

(ch)y mae'r Comisiynwyr sy'n bresennol yn y cyfarfod yn datgan drwy benderfyniad ei fod yn rhy bellennig.

17.  Bydd gan y person sy'n dal swydd fel is-gadeirydd ar y pryd holl bwerau'r cadeirydd, a chaiff arfer y pwerau hynny yn absenoldeb neu anallu'r cadeirydd.

18.  Mewn unrhyw gyfarfod o'r Comisiynwyr, os na fydd y cadeirydd na'r is-gadeirydd yn bresennol, rhaid i'r Comisiynwyr sy'n bresennol yn y cyfarfod ddewis un o'u nifer i fod yn gadeirydd y cyfarfod hwnnw.

19.—(1Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod o'r Comisiynwyr, neu o bwyllgor o'r Comisiynwyr, gael ei benderfynu drwy fwyafrif pleidleisiau'r Comisiynwyr sydd yn bresennol ac yn pleidleisio.

(2Os yw niferoedd y pleidleisiau'n gyfartal ar unrhyw gwestiwn mewn unrhyw gyfarfod o'r Comisiynwyr, neu o bwyllgor o'r Comisiynwyr, bydd gan gadeirydd y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, y caiff y cadeirydd ei bwrw dros neu yn erbyn y status quo.

Dilysu'r sêl a dogfennau eraill

20.—(1Pan osodir sêl y Comisiynwyr, rhaid dilysu hynny gyda llofnod cadeirydd y Comisiynwyr neu lofnod rhyw Gomisiynydd arall a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i ddilysu gosod y sêl, a llofnod unrhyw swyddog y Comisiynwyr a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i weithredu felly.

(2Rhaid bod unrhyw hysbysiad, trwydded neu ddogfen arall a roddir neu a ddyroddir gan y Comisiynwyr, oni fynegir bwriad i'r gwrthwyneb, wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi'n ddigonol os llofnodwyd yr hysbysiad, trwydded neu ddogfen arall gan swyddog y Comisiynwyr a awdurdodwyd yn briodol.

Cydnabyddiaeth y Comisiynwyr a'r Cadeirydd

21.—(1Caiff y Comisiynwyr dalu i bob Comisiynydd y cyfryw lwfansau a threuliau a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr.

(2Caiff y Comisiynwyr dalu i'r Cadeirydd pa bynnag gydnabyddiaeth resymol a benderfynant.

Cyffredinol

22.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, ceir rheoleiddio gweithdrefn a busnes y Comisiynwyr ac unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr ym mha bynnag fodd a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr.

23.  Caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, benodi'r cyfryw bersonau yr ystyriant yn angenrheidiol neu'n ddymunol, ar gyfer ac mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau, a thalu iddynt ba bynnag gydnabyddiaeth a ystyrir yn briodol gan y Comisiynwyr.