Search Legislation

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu'r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1948 (Cy.214)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu'r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Awst 2011

Yn dod i rym

1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(2)(b)(iii), (3)(c) a (5) i (11) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu'r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau ym meysydd dysgu perthnasol plant sydd yn y flwyddyn olaf o'r cyfnod sylfaen.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

(4Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002(2) wedi ei ddirymu.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “deilliannau cyfnod sylfaen” (“foundation phase outcomes”) yw'r deilliannau a nodir yn y ddogfen;

ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw'r ddogfen o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen — Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”(3) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ac sy'n pennu'r meysydd dysgu, a'r deilliannau a'r rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu hynny;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl y banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

ystyr “meysydd dysgu” (“areas of learning”) yw'r meysydd dysgu a nodir yn y ddogfen;

ystyr “meysydd dysgu perthnasol” (“relevant areas of learning”) yw—

(i)

datblygiad mathemategol,

(ii)

datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, ac

(iii)

sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; ac

ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor olaf mewn blwyddyn ysgol.

Asesu gan athrawon — cyffredinol

3.—(1Rhaid i'r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl gael ei asesu gan athro neu athrawes ym mhob un o'r meysydd dysgu perthnasol yn unol â darpariaethau'r erthygl hon ac i gofnod ysgrifenedig o'r canlyniadau gael ei wneud gan yr athro neu'r athrawes.

(2Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro neu'r athrawes gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach nag ugain niwrnod gwaith cyn diwedd tymor yr haf.

Asesu gan athrawon — meysydd dysgu perthnasol

4.—(1Diben yr asesu yw penderfynu'r deilliant cyfnod sylfaen y mae'r disgybl wedi ei gyrraedd ym mhob maes dysgu perthnasol.

(2Rhaid i'r cofnod o'r canlyniadau fod ar ffurf datganiad cryno o bob deilliant cyfnod sylfaen y mae'r disgybl wedi ei gyrraedd ym mhob maes dysgu perthnasol.

Pwerau ategol Gweinidogion Cymru

5.  Caiff Gweinidogion Cymru wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddynt eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf Addysg 2002) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

29 Gorffennaf 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn unrhyw drefniadau asesu sydd yn eu barn hwy yn briodol i'r cyfnod sylfaen.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu yn y flwyddyn olaf o'r cyfnod sylfaen gan athro neu athrawes ac mae'n gosod diben yr asesiadau hynny (erthyglau 3 a 4). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn neu yn ychwanegu atynt fel arall (erthygl 5).

Ar ben hynny, mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer dirymu trefniadau asesu'r cyfnod allweddol cyntaf a nodir yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (erthygl 1(4)).

(1)

2002 p.32. Diwygiwyd is-adran (2) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5). Diwygiwyd is-adran (6) o adran 108 gan O.S. 2010/1158 ac is-adran (11) gan baragraffau 11 i 13 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(3)

Rhif ISBN 978 0 7504 4429 3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources