Search Legislation

Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2498 (Cy.271)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011

Gwnaed

18 Hydref 2011

Yn dod i rym

1 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3A o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991(1).

Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 3A(7)(b) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu

2.—(1Gwaherddir gwerthu tybaco(2) o beiriant awtomatig.

(2Bydd y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy'n ymwneud â rheoli'r fangre honno, yn atebol am doriad o baragraff (1)(3).

(3Yn y rheoliad hwn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llong, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriant awtomatig.

Mae rheoliad 2 yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriant awtomatig. Gwneir y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy'n rheoli'r fangre honno, yn atebol am doriad o'r gwaharddiad hwn.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau hyn fel safon dechnegol yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37) sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol, fel y'i diwygiwyd.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, a rhoddwyd ef yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono o'r Gangen Ymddygiadau Risg i Iechyd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1991 p.23. Mewnosodwyd adran 3A gan Ddeddf Iechyd 2009 (p.21), adran 22. Gweler adran 3A(8) am y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(2)

Mae i'r term “tybaco” yr un ystyr â “tobacco” yn adran 7 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12).

(3)

Yn unol ag adran 3A(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991, bydd y cyfryw berson yn euog o dramgwydd os caiff y gwaharddiad yn rheoliad 2(1) ei dorri. Yn unol ag adran 3A(4) o'r Ddeddf honno, mae person sy'n euog o dramgwydd o dan adran 3A(3) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources