- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gwnaed
18 Hydref 2011
Yn dod i rym
6 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(1)(b), 26(2)(b), 29(1) a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl 2010(1).
Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(b) o'r Mesur, ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 6 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad o'r asesiad” (“assessment report”) yw adroddiad unigol, ysgrifenedig, sy'n cofnodi os yw asesiad iechyd meddwl wedi dynodi unrhyw wasanaethau a all wella neu rwystro dirywiad yn iechyd meddwl oedolyn yn unol ag adran 25 (diben asesu) o'r Mesur;
ystyr “asesiad iechyd meddwl” (“mental health assessment”) yw dadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn at y dibenion a ddarperir yn adran 25 o'r Mesur;
ystyr “cyfnod rhyddhau perthnasol” (“relevant discharge period”) yw'r cyfnod y caiff oedolyn wneud cais i asesiad iechyd meddwl gael ei wneud arno, yn dilyn cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; ac
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person deunaw mlwydd oed neu hŵn na hynny sydd â hawl i asesiad iechyd meddwl o dan adran 22 (hawl i asesiad) o'r Mesur.
3.—(1) Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn ar y dyddiad y rhyddheir yr oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac y mae'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o dair blynedd o'r dyddiad hwnnw i ben.
(2) Ond os yw'r oedolyn wedi ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer yr oedolyn hwnnw fel a ddarperir yn rheoliad 6.
4.—(1) Mae copi o adroddiad o'r asesiad i'w ddarparu i oedolyn sydd wedi cael asesiad iechyd meddwl, heb fod yn hwyrach na deng niwrnod gwaith ar ôl cwblhau'r asesiad.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, darperir copi o adroddiad o'r asesiad ar y diwrnod pan fo'r canlynol yn digwydd—
(a)y traddodir ef drwy law i oedolyn; neu
(b)yr anfonwyd ef yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio at oedolyn ym man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw neu fan preswylio hysbys ddiwethaf yr oedolyn hwnnw.
5.—(1) Pan fo, at ddibenion Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur, unrhyw amheuaeth p'un ai os yw man preswylio arferol yr oedolyn yn dod o fewn ardal awdurdod lleol (“ardal awdurdod lleol A”), yna mae'r awdurdod lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol A (“awdurdod lleol A”) yn gyfrifol am benderfynu o fewn pa ardal awdurdod lleol y mae'r oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio, yn unol â pharagraff (2).
(2) At ddibenion gwneud penderfyniad fel a ddarperir ym mharagraff (1)—
(a)tybir bod oedolyn fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad a roddwyd i awdurdod lleol A gan yr oedolyn hwnnw fel y cyfeiriad y mae fel arfer yn preswylio ynddo;
(b)os na roddir y fath gyfeiriad gan oedolyn tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad a roddwyd ganddo i awdurdod lleol A fel y cyfeiriad mwyaf diweddar ar ei gyfer;
(c)pan na ellir penderfynu man preswylio arferol oedolyn o dan is-baragraffau (a) neu (b) uchod, tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio yn yr ardal lle y mae'n bresennol.
(3) Hyd nes y gwneir penderfyniad ar fan preswylio arferol oedolyn o dan baragraff (1), tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio o fewn ardal awdurdod lleol A.
(4) Ond pan fo'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol arall (“ardal awdurdod lleol B”) yn cytuno i weithredu fel y partneriaid iechyd meddwl lleol ar ran oedolyn, yna tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio o fewn ardal awdurdod lleol B.
6. Pan fo oedolyn wedi ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd o fewn dwy flynedd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yna bydd y cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer yr oedolyn hwnnw yn gyfnod o amser a fydd yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac yn gorffen pan ddaw tair blynedd i ben ar ôl dyddiad rhyddhau'r oedolyn hwnnw.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch asesiadau iechyd meddwl ar gyfer defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
2. Mae rheoliad 3 yn darparu bod y cyfnod rhyddhau perthnasol a bennir i oedolyn fod yn gymwys am asesiad iechyd meddwl yn dilyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn dair blynedd. Os rhyddheir yr oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, bydd unrhyw gyfnod rhyddhau perthnasol a bennir i'r oedolyn hwnnw fel a ddarperir yn rheoliad 6.
3. Mae rheoliad 4 yn darparu bod copi o adroddiad o'r asesiad yn cael ei ddarparu heb fod yn hwyrach na deng niwrnod gwaith wedi i asesiad iechyd meddwl yr oedolyn gael ei gwblhau.
4. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer penderfynu man preswylio arferol yr oedolyn at ddibenion Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw man preswylio arferol oedolyn wedi ei leoli o fewn ardal awdurdod lleol penodol.
5. Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer oedolyn sydd wedi cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd o fewn dwy flynedd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
6. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan: Y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: