2011 Rhif 2500 (Cy.272)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(1)(b), 26(2)(b), 29(1) a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl 20101.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(b) o'r Mesur, ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 6 Mehefin 2012.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adroddiad o'r asesiad” (“assessment report”) yw adroddiad unigol, ysgrifenedig, sy'n cofnodi os yw asesiad iechyd meddwl wedi dynodi unrhyw wasanaethau a all wella neu rwystro dirywiad yn iechyd meddwl oedolyn yn unol ag adran 25 (diben asesu) o'r Mesur;

  • ystyr “asesiad iechyd meddwl” (“mental health assessment”) yw dadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn at y dibenion a ddarperir yn adran 25 o'r Mesur;

  • ystyr “cyfnod rhyddhau perthnasol” (“relevant discharge period”) yw'r cyfnod y caiff oedolyn wneud cais i asesiad iechyd meddwl gael ei wneud arno, yn dilyn cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19712;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; ac

  • ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person deunaw mlwydd oed neu hŵn na hynny sydd â hawl i asesiad iechyd meddwl o dan adran 22 (hawl i asesiad) o'r Mesur.

Cyfnod Rhyddhau Perthnasol3

1

Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn ar y dyddiad y rhyddheir yr oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac y mae'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o dair blynedd o'r dyddiad hwnnw i ben.

2

Ond os yw'r oedolyn wedi ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer yr oedolyn hwnnw fel a ddarperir yn rheoliad 6.

Darparu adroddiad o'r asesiad4

1

Mae copi o adroddiad o'r asesiad i'w ddarparu i oedolyn sydd wedi cael asesiad iechyd meddwl, heb fod yn hwyrach na deng niwrnod gwaith ar ôl cwblhau'r asesiad.

2

At ddibenion y rheoliad hwn, darperir copi o adroddiad o'r asesiad ar y diwrnod pan fo'r canlynol yn digwydd—

a

y traddodir ef drwy law i oedolyn; neu

b

yr anfonwyd ef yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio at oedolyn ym man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw neu fan preswylio hysbys ddiwethaf yr oedolyn hwnnw.

Penderfynu man preswylio arferol5

1

Pan fo, at ddibenion Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur, unrhyw amheuaeth p'un ai os yw man preswylio arferol yr oedolyn yn dod o fewn ardal awdurdod lleol (“ardal awdurdod lleol A”), yna mae'r awdurdod lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol A (“awdurdod lleol A”) yn gyfrifol am benderfynu o fewn pa ardal awdurdod lleol y mae'r oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio, yn unol â pharagraff (2).

2

At ddibenion gwneud penderfyniad fel a ddarperir ym mharagraff (1)—

a

tybir bod oedolyn fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad a roddwyd i awdurdod lleol A gan yr oedolyn hwnnw fel y cyfeiriad y mae fel arfer yn preswylio ynddo;

b

os na roddir y fath gyfeiriad gan oedolyn tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad a roddwyd ganddo i awdurdod lleol A fel y cyfeiriad mwyaf diweddar ar ei gyfer;

c

pan na ellir penderfynu man preswylio arferol oedolyn o dan is-baragraffau (a) neu (b) uchod, tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio yn yr ardal lle y mae'n bresennol.

3

Hyd nes y gwneir penderfyniad ar fan preswylio arferol oedolyn o dan baragraff (1), tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio o fewn ardal awdurdod lleol A.

4

Ond pan fo'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol arall (“ardal awdurdod lleol B”) yn cytuno i weithredu fel y partneriaid iechyd meddwl lleol ar ran oedolyn, yna tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio o fewn ardal awdurdod lleol B.

Darpariaethau trosiannol mewn perthynas â'r cyfnod rhyddhau perthnasol6

Pan fo oedolyn wedi ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd o fewn dwy flynedd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yna bydd y cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer yr oedolyn hwnnw yn gyfnod o amser a fydd yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac yn gorffen pan ddaw tair blynedd i ben ar ôl dyddiad rhyddhau'r oedolyn hwnnw.

Lesley GriffithsY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch asesiadau iechyd meddwl ar gyfer defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

2

Mae rheoliad 3 yn darparu bod y cyfnod rhyddhau perthnasol a bennir i oedolyn fod yn gymwys am asesiad iechyd meddwl yn dilyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn dair blynedd. Os rhyddheir yr oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, bydd unrhyw gyfnod rhyddhau perthnasol a bennir i'r oedolyn hwnnw fel a ddarperir yn rheoliad 6.

3

Mae rheoliad 4 yn darparu bod copi o adroddiad o'r asesiad yn cael ei ddarparu heb fod yn hwyrach na deng niwrnod gwaith wedi i asesiad iechyd meddwl yr oedolyn gael ei gwblhau.

4

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer penderfynu man preswylio arferol yr oedolyn at ddibenion Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw man preswylio arferol oedolyn wedi ei leoli o fewn ardal awdurdod lleol penodol.

5

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer oedolyn sydd wedi cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd o fewn dwy flynedd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

6

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan: Y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.