Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 (O.S. 2009/3042) (“y prif reoliadau”) mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliad 1(3) o'r prif reoliadau yn darparu y ceir bodloni dyletswydd yn y rheoliadau hynny i baratoi neu gyhoeddi dogfen, drwy fod wedi paratoi neu gyhoeddi dogfen cyn i'r prif reoliadau ddod i rym (10 Rhagfyr 2009). Diwygir y ddarpariaeth honno gan y Rheoliadau hyn, fel y bydd modd i bersonau sy'n ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y prif reoliadau fodloni'r dyletswyddau hynny drwy weithredoedd o baratoi neu gyhoeddi a ymgymerwyd cyn 22 Rhagfyr 2010.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “reservoir” (rheoliad 4 o'r prif reoliadau) fel bod y diffiniad yn cyfeirio at gyforgronfa ddŵr mawr (“large raised reservoir”), fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975(1).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 36 o'r prif reoliadau i gyfeirio at y Gweinidog (“the Minister”) er mwyn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ofyn am yr wybodaeth sy'n ofynnol yn rhesymol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y prif reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch costau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.