Search Legislation

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2908 (Cy.312)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011

Gwnaed

2 Rhagfyr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru'n unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2011.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(3) fel a ganlyn.

(2Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 8—

8.(1) Rhaid i'r Cyngor gynnwys ar Bwyllgor—

(a)un neu ragor o aelodau lleyg; a

(b)un neu ragor o aelodau sy'n athrawon cofrestredig.

(2) Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.

(3) Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o'r Cyngor yn aelod o Bwyllgor.

(4) Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o'r Pwyllgor Ymchwilio sy'n ymchwilio i achos yn aelod o'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol na'r Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol sy'n penderfynu ar yr achos hwnnw.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 20 a 22, caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y mae'n barnu ei bod yn addas o ran y canlynol—

(a)aelodaeth Pwyllgor;

(b)ar ba delerau y mae aelodau'r Pwyllgor i ddal swydd ac ymadael â hi; ac

(c)y weithdrefn ar gyfer Pwyllgor.

(6) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o'r Pwyllgor nad yw—

(i)yn athro neu'n athrawes gofrestredig, neu

(ii)yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes neu wedi bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen felly o fewn cyfnod o 5 mlynedd a ddaeth i ben ar y dyddiad y penodwyd y person hwnnw i'r Pwyllgor,

ac ni fydd aelod lleyg sy'n dod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n cymryd swydd athro neu athrawes neu'n cael ei gymryd ymlaen fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried bellach yn aelod lleyg;

(b)ystyr “aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig” (“registered teacher member”) yw aelod o'r Pwyllgor—

(i)sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, a

(ii)sy'n gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes ar y dyddiad y penodir y person hwnnw i'r Pwyllgor,

ac ni fydd aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac sy'n peidio â bod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n peidio â dal swydd athro neu athrawes neu'n gorffen cael ei gymryd ymlaen fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried bellach yn aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig..

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 drwy gael rheoliad 8 newydd sy'n gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a gweithdrefn Pwyllgorau Ymchwilio, Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol y Cyngor. Mae'r rheoliad 8 newydd yn darparu na all aelod o'r Cyngor fod yn aelod o unrhyw un o'r Pwyllgorau hynny.

(1)

1998 p. 30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources