Search Legislation

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2939 (Cy.315)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011

Gwnaed

6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

1 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(1), 3(2), 4, 5(1) a (2), 6(4) a 10(2) o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2012.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “awdurdodau partner” (“partner authorities”) yw pob un o'r awdurdodau lleol ac unrhyw un neu ragor o Ymddiriedolaethau'r GIG sy'n cymryd rhan yn y gwaith o baratoi strategaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol;

ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw corff cyhoeddus sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 3(1) yn un sydd o dan ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth;

ystyr “strategaeth” (“strategy”) yw strategaeth gofalwyr y mae'n ofynnol ei pharatoi a'i chyhoeddi o dan adran 2(1) o'r Mesur; ac

ystyr “Ymddiriedolaethau'r GIG” (“the NHS Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Llunio Strategaeth

3.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG, baratoi a chyhoeddi strategaeth.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd i baratoi strategaeth drwy gymryd rhan yn y gwaith o baratoi un strategaeth ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cwmpasu ardal yr awdurdod lleol fel a nodir yn yr Atodlen.

(3At ddibenion adran 6(1) o'r Mesur (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru), y Bwrdd Iechyd Lleol yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer y strategaeth y mae'n ei pharatoi gydag awdurdod lleol.

(4Rhaid i strategaeth a baratowyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ac y mae un neu ragor o awdurdodau lleol wedi cymryd rhan yn y gwaith o'i pharatoi, nodi sut y bydd pob un o'r cyrff hyn yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd yr amcanion a nodir yn adran 2(1) (a), (b) ac (c) o'r Mesur.

(5Caniateir i bob un o Ymddiriedolaethau'r GIG gyflawni ei dyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth drwy gymryd rhan yn y broses o baratoi strategaethau'r Byrddau Iechyd Lleol.

Ymgynghori wrth baratoi strategaeth

4.—(1Wrth fynd ati i baratoi strategaeth, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner ymgynghori â'r cyrff gwirfoddol hynny sydd yn ei ardal y mae o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(2Pan na fo Ymddiriedolaeth GIG yn “awdurdod partner”, rhaid iddi, serch hynny, ymgynghori â chyrff gwirfoddol y mae o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy wrth baratoi strategaeth.

Cynnwys strategaethau

5.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner, pan fyddant yn paratoi un strategaeth ar y cyd, gynnwys darpariaeth ynghylch y canlynol —

(a)sut y byddant yn defnyddio ymarferwyr meddygol cyffredinol wrth roi'r strategaeth ar waith;

(b)hyfforddi staff ;

(c)ym mha fodd y trefnir y bydd gwybodaeth ar gyfer gofalwyr ar gael ac ym mha ieithoedd y gwneir hynny.

(2Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw—

(a)person y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi ymrwymo mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol ag ef a hynny o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu

(b)ymarferydd meddygol cofrestredig(2) a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno; neu

(c)person y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno.

Gwybodaeth briodol a chyngor priodol

6.—(1Dim ond rhannau canlynol y rheoliad hwn sy'n gymwys mewn perthynas â strategaeth a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru —

(a)is-baragraffau (2)(a) i (c);

(b)is-baragraffau (2)(f) a (2)(ng).

(2At ddibenion adran 2(1)(a) o'r Mesur, mae'r canlynol wedi eu rhagnodi yn wybodaeth briodol a chyngor priodol(3)

(a)gwybodaeth am hawliau gofalwyr sy'n cynnwys cyfeiriad at ofalwyr y bobl y mae eu hanghenion yn ymwneud â'u hiechyd meddwl;

(b)gwybodaeth am feddyginiaeth a'i sgileffeithiau posibl;

(c)gwybodaeth am gyflwr meddygol a chwrs triniaeth personau y gofelir amdanynt;

(ch)gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc sydd â rôl gofalu;

(d)gwybodaeth am argaeledd, hawl i gael a ffynonellau cymorth lleol a chenedlaethol gan gynnwys—

(i)gwyliau byr a gofal seibiant,

(ii)asesiad o anghenion gofalwr,

(iii)y Llys Gwarchod,

(iv)taliadau uniongyrchol,

(v)cymorth tai,

(vi)eiriolaeth annibynnol,

(vii)cwnsela gan gynnwys cefnogaeth mewn profedigaeth,

(viii)gwarcheidiaeth,

(ix)grwpiau cymorth sy'n briodol i oedran,

(x)grwpiau cymorth sy'n briodol i ddiwylliant,

(xi)cyngor a chymorth ariannol gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles,

(xii)rheoli materion ariannol a gweinyddol personau y gofelir amdanynt.

(dd)gwybodaeth a chyngor am ddarpariaethau cyflogaeth, gan gynnwys gweithio hyblyg;

(e)gwybodaeth am ddyletswyddau awdurdodau lleol i asesu anghenion pobl a all fod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal yn y gymuned ac asesu anghenion gofalwyr, ac yn y ddau achos, ddarparu gwasanaethau (4) ;

(f)gwybodaeth am argaeledd cynlluniau teithio rhatach a threfniadau eraill i gleifion i alluogi gofalwyr i fynd i apwyntiadau GIG gyda'r person y gofelir amdano;

(ff)gwybodaeth a chyngor am gymhorthion corfforol ac addasiadau i dai;

(g)gwybodaeth am reoleiddio ac arolygu gwasanaethau iechyd a gofal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Gofal ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru;

(ng)gwybodaeth am asiantaethau cymorth i ofalwyr lleol ac am gyrff cenedlaethol priodol sy'n rhoi cymorth i gleifion, defnyddwyr a gofalwyr;

(h)gwybodaeth am sut y mae pobl yn gallu osgoi cael eu derbyn i ysbyty;

(i)gwybodaeth am argaeledd cymorth mewn argyfwng a sut i'w gyrchu;

(j)gwybodaeth am argaeledd ailalluogi a gofal canolraddol i'r person y gofelir amdano;

(l)gwybodaeth sy'n helpu i hybu iechyd a llesiant (gan gynnwys gwybodaeth a hyfforddiant ar dechnegau rheoli straen, bwyta'n iach ac ymarfer corff);

(ll)gwybodaeth am weithdrefnau cwyno'r Bwrdd Iechyd Lleol a'r awdurdodau lleol;

(m)gwybodaeth am raglenni cymorth i helpu gofalwyr i gyflawni eu rôl ofalu yn ddiogel ac yn effeithiol, i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol—

(i)codi, symud a thrafod yn ddiogel,

(ii)rheoli meddyginiaethau gan gynnwys rhoi meddyginiaeth yn ddiogel i'r gofalwr neu i'r person y gofelir amdano,

(iii)sgiliau nyrsio perthnasol,

(iv)defnyddio cymhorthion ac addasiadau,

(v)gofal ymatal,

(vi)rheoli straen,

(vii)cymorth gyda bwyta ac yfed,

(viii)trin agweddau ar ymddygiad y person y gofelir amdano;

(ix)helpu gofalwyr i edrych ar eu hôl eu hunain.

(3Yn y rheoliad hwn, dylid darllen cyfeiriadau at “gwybodaeth” fel petaent yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol neu wybodaeth sydd ar gael o ffynhonnell arall, ac y darperir modd i'w chyrchu.

Ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt

7.  Rhaid i strategaeth nodi'r camau y bydd awdurdod dynodedig yn eu cymryd i sicrhau bod ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt yn digwydd ac yn benodol i sicrhau—

(a)bod yr ymgynghori â gofalwyr ynghylch y trefniadau ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt yn digwydd cyn belled ag y bo modd cyn bod penderfyniadau'n cael eu gwneud;

(b)bod adnabyddiaeth gofalwr o'r person y gofelir amdano yn cael ei pharchu gan staff sy'n darparu gwasanaethau ac y bydd yn cael ei defnyddio'n briodol;

(c)bod gofalwyr yn dod yn ymwybodol o hyd a lled eu hawliau i asesiad o'u hanghenion gan awdurdod lleol ac i ddarpariaeth gwasanaethau;

(ch)bod gofalwyr yn cael help i ddeall y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y sawl sy'n darparu triniaeth neu wasanaethau i bersonau y gofelir amdanynt a'u bod yn cael eu hannog i gyfrannu at y broses benderfynu;

(d)pan fo penderfyniadau yn cael eu cymryd yn absenoldeb gofalwyr, bod gofalwyr yn cael esboniad o'r penderfyniad;

(dd)bod ymgynghori yn digwydd yn rheolaidd ac yn cynnwys ystyriaeth o ba bryd mae angen cymorth ar ofalwyr ar fyr rybudd;

(e)bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ffordd y mae ymgyngoriadau â gofalwyr yn cael eu cynnal gan roi sylw i unrhyw anabledd a all fod gan ofalwyr a chan roi sylw i oed, cefndir diwylliannol ac iaith gofalwyr;

(f)bod gofalwyr a'r personau y gofelir amdanynt yn dod yn ymwybodol o'r help a'r cymorth a all fod ar gael iddynt oddi wrth gyrff gwirfoddol;

(ff)bod hyfforddiant ar ymgynghori effeithiol yn cael ei roi i staff.

Cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 10.

(2Rhaid i awdurdod dynodedig gyflwyno ei strategaeth gyntaf ar ffurff ddrafft i Weinidogion Cymru erbyn 31 Hydref 2012.

(3Rhaid cyflwyno strategaethau i'w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru ar ffurf electronig ac ar ffurf bapur.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo strategaeth, rhaid i'r awdurdod dynodedig gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o gyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru ynghylch cynnwys y strategaeth a'r amser erbyn pryd y mae'n rhaid ei hailgyflwyno.

Darpariaeth bellach am strategaethau

9.—(1Rhaid i strategaeth gwmpasu cyfnod o dair blynedd.

(2Rhaid i bob awdurdod dynodedig adolygu ei strategaeth ar ôl 18 mis a chyn paratoi strategaeth newydd.

(3Rhaid i bob awdurdod dynodedig baratoi strategaeth newydd i'w chyflwyno i Weinidogion Cymru dim mwy na thair blynedd ar ôl i'r strategaeth flaenorol gael ei chyflwyno i'w chymeradwyo.

(4Rhaid i bob strategaeth olynol gael ei chyhoeddi.

(5Rhaid i awdurdodau dynodedig ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru sy'n esbonio sut y maent yn rhoi eu strategaeth ar waith a'i monitro.

(6Os yw awdurdod dynodedig yn cynnig diwygio ei strategaeth yn sylweddol, rhaid iddo gyflwyno fersiwn ddiwygiedig ddrafft i Weinidogion Cymru i'w chymeradwyo.

(7Rhaid cyhoeddi'r strategaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

Dyletswyddau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â strategaethau ar y cyd

10.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner yn paratoi un strategaeth ar y cyd, gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r cyfrifoldeb dros y canlynol—

(a)cyflwyno'r strategaeth ar ffurf ddrafft i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi'r strategaeth;

(c)ymgynghori â'r awdurdodau partner cyn darparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar roi'r strategaeth ar waith a'i monitro;

(ch)cyflwyno drafft o unrhyw strategaeth ddiwygiedig i Weinidogion Cymru.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2011

Adran 3(2)

YR ATODLENAwdurdodau Lleol y mae'n rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol baratoi strategaeth ar y cyd â hwy

Bwrdd Iechyd LleolAwdurdodau Lleol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro MorgannwgPen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe
Bwrdd Iechyd Aneurin BevanBlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrYnys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r FroCaerdydd a Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Cwm TafMerthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf
Bwrdd Iechyd Hywel DdaSir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
Bwrdd Iechyd Addysgu PowysPowys

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Maent yn gymwys i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cyfeirir at y rhain fel “awdurdodau dynodedig”. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru a'r awdurdodau lleol sy'n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda'i gilydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth sy'n dangos sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Mae rheoliad 3 yn darparu mai Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yw'r “awdurdod arweiniol” wrth baratoi a chyhoeddi'r strategaeth ar y cyd y mae'n rhaid iddynt ei pharatoi gydag awdurdodau lleol. Rhaid i awdurdodau lleol gymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r strategaeth a rhaid i'r Byrddau Iechyd Lleol a'r awdurdodau lleol fel ei gilydd roi'r strategaeth ar waith. Rhaid i Ymddiriedolaethau GIG baratoi a chyhoeddi strategaeth a gallant gyflawni'r ddyletswydd drwy gymryd rhan yn y broses o baratoi strategaethau'r Byrddau Iechyd Lleol.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheini sy'n paratoi strategaethau ymgynghori â chyrff gwirfoddol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud gofynion penodol ynghylch y materion sydd i'w cynnwys mewn strategaeth.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi mathau penodol o wybodaeth sydd i'w darparu i ofalwyr yn “wybodaeth briodol a chyngor priodol”.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth bellach am y sylw y mae'n rhaid i strategaeth ei roi i faterion mewn perthynas ag ymgynghori â gofalwyr a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid cyflwyno strategaethau ar ffurf ddrafft i'w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Os na roddir cymeradwyaeth, yna rhaid i'r awdurdodau dynodedig gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau am gynnwys y strategaeth neu am amseriad ei hailgyflwyno.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod strategaethau i'w paratoi i gwmpasu cyfnod o dair blynedd a bod rhaid iddynt gael eu hadolygu ar ôl 18 mis a chyn paratoi'r strategaeth nesaf. Rhaid i'r awdurdodau dynodedig ddarparu adroddiad blynyddol ar sut y mae'n rhoi'r strategaeth ar waith a'i monitro ar y cyd â'r awdurdodau lleol. Pan fo'r awdurdodau yn dymuno gwneud diwygiadau sylweddol i'r strategaeth rhaid iddi gael ei hailgyflwyno i'w chymeradwyo. Rhaid i strategaeth gael ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

Mae rheoliad 10 yn pennu, yn achos strategaethau sy'n cael eu paratoi ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol, bod y cyfrifoldeb am ddyletswyddau penodol sy'n codi o dan reoliad 9 i'w ysgwyddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynghylch costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd, Gwanasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Mae'r term “registered medical practitioner” wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978.

(3)

Mae adran 3(2) o'r Mesur yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch beth sy'n gyfystyr â “gwybodaeth briodol a chyngor priodol” sydd i'w chynnwys mewn strategaeth. Mae'r ymadrodd “gwybodaeth briodol a chyngor priodol” wedi ei ddiffinio yn adran 3(1) o'r Mesur.

(4)

Mae'r term “community care services” wedi ei ddiffinio yn a.46(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 p.19.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources