2011 Rhif 2939 (Cy.315)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(1), 3(2), 4, 5(1) a (2), 6(4) a 10(2) o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 20101 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2012.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdodau partner” (“partner authorities”) yw pob un o'r awdurdodau lleol ac unrhyw un neu ragor o Ymddiriedolaethau'r GIG sy'n cymryd rhan yn y gwaith o baratoi strategaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol;

  • ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw corff cyhoeddus sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 3(1) yn un sydd o dan ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth;

  • ystyr “strategaeth” (“strategy”) yw strategaeth gofalwyr y mae'n ofynnol ei pharatoi a'i chyhoeddi o dan adran 2(1) o'r Mesur; ac

  • ystyr “Ymddiriedolaethau'r GIG” (“the NHS Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Llunio Strategaeth3

1

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG, baratoi a chyhoeddi strategaeth.

2

Rhaid i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd i baratoi strategaeth drwy gymryd rhan yn y gwaith o baratoi un strategaeth ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cwmpasu ardal yr awdurdod lleol fel a nodir yn yr Atodlen.

3

At ddibenion adran 6(1) o'r Mesur (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru), y Bwrdd Iechyd Lleol yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer y strategaeth y mae'n ei pharatoi gydag awdurdod lleol.

4

Rhaid i strategaeth a baratowyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ac y mae un neu ragor o awdurdodau lleol wedi cymryd rhan yn y gwaith o'i pharatoi, nodi sut y bydd pob un o'r cyrff hyn yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd yr amcanion a nodir yn adran 2(1) (a), (b) ac (c) o'r Mesur.

5

Caniateir i bob un o Ymddiriedolaethau'r GIG gyflawni ei dyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth drwy gymryd rhan yn y broses o baratoi strategaethau'r Byrddau Iechyd Lleol.

Ymgynghori wrth baratoi strategaeth4

1

Wrth fynd ati i baratoi strategaeth, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner ymgynghori â'r cyrff gwirfoddol hynny sydd yn ei ardal y mae o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

2

Pan na fo Ymddiriedolaeth GIG yn “awdurdod partner”, rhaid iddi, serch hynny, ymgynghori â chyrff gwirfoddol y mae o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy wrth baratoi strategaeth.

Cynnwys strategaethau5

1

Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner, pan fyddant yn paratoi un strategaeth ar y cyd, gynnwys darpariaeth ynghylch y canlynol —

a

sut y byddant yn defnyddio ymarferwyr meddygol cyffredinol wrth roi'r strategaeth ar waith;

b

hyfforddi staff ;

c

ym mha fodd y trefnir y bydd gwybodaeth ar gyfer gofalwyr ar gael ac ym mha ieithoedd y gwneir hynny.

2

Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw—

a

person y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi ymrwymo mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol ag ef a hynny o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu

b

ymarferydd meddygol cofrestredig2 a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno; neu

c

person y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno.

Gwybodaeth briodol a chyngor priodol6

1

Dim ond rhannau canlynol y rheoliad hwn sy'n gymwys mewn perthynas â strategaeth a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru —

a

is-baragraffau (2)(a) i (c);

b

is-baragraffau (2)(f) a (2)(ng).

2

At ddibenion adran 2(1)(a) o'r Mesur, mae'r canlynol wedi eu rhagnodi yn wybodaeth briodol a chyngor priodol3

a

gwybodaeth am hawliau gofalwyr sy'n cynnwys cyfeiriad at ofalwyr y bobl y mae eu hanghenion yn ymwneud â'u hiechyd meddwl;

b

gwybodaeth am feddyginiaeth a'i sgileffeithiau posibl;

c

gwybodaeth am gyflwr meddygol a chwrs triniaeth personau y gofelir amdanynt;

ch

gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc sydd â rôl gofalu;

d

gwybodaeth am argaeledd, hawl i gael a ffynonellau cymorth lleol a chenedlaethol gan gynnwys—

i

gwyliau byr a gofal seibiant,

ii

asesiad o anghenion gofalwr,

iii

y Llys Gwarchod,

iv

taliadau uniongyrchol,

v

cymorth tai,

vi

eiriolaeth annibynnol,

vii

cwnsela gan gynnwys cefnogaeth mewn profedigaeth,

viii

gwarcheidiaeth,

ix

grwpiau cymorth sy'n briodol i oedran,

x

grwpiau cymorth sy'n briodol i ddiwylliant,

xi

cyngor a chymorth ariannol gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles,

xii

rheoli materion ariannol a gweinyddol personau y gofelir amdanynt.

dd

gwybodaeth a chyngor am ddarpariaethau cyflogaeth, gan gynnwys gweithio hyblyg;

e

gwybodaeth am ddyletswyddau awdurdodau lleol i asesu anghenion pobl a all fod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal yn y gymuned ac asesu anghenion gofalwyr, ac yn y ddau achos, ddarparu gwasanaethau 4 ;

f

gwybodaeth am argaeledd cynlluniau teithio rhatach a threfniadau eraill i gleifion i alluogi gofalwyr i fynd i apwyntiadau GIG gyda'r person y gofelir amdano;

ff

gwybodaeth a chyngor am gymhorthion corfforol ac addasiadau i dai;

g

gwybodaeth am reoleiddio ac arolygu gwasanaethau iechyd a gofal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Gofal ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru;

ng

gwybodaeth am asiantaethau cymorth i ofalwyr lleol ac am gyrff cenedlaethol priodol sy'n rhoi cymorth i gleifion, defnyddwyr a gofalwyr;

h

gwybodaeth am sut y mae pobl yn gallu osgoi cael eu derbyn i ysbyty;

i

gwybodaeth am argaeledd cymorth mewn argyfwng a sut i'w gyrchu;

j

gwybodaeth am argaeledd ailalluogi a gofal canolraddol i'r person y gofelir amdano;

l

gwybodaeth sy'n helpu i hybu iechyd a llesiant (gan gynnwys gwybodaeth a hyfforddiant ar dechnegau rheoli straen, bwyta'n iach ac ymarfer corff);

ll

gwybodaeth am weithdrefnau cwyno'r Bwrdd Iechyd Lleol a'r awdurdodau lleol;

m

gwybodaeth am raglenni cymorth i helpu gofalwyr i gyflawni eu rôl ofalu yn ddiogel ac yn effeithiol, i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol—

i

codi, symud a thrafod yn ddiogel,

ii

rheoli meddyginiaethau gan gynnwys rhoi meddyginiaeth yn ddiogel i'r gofalwr neu i'r person y gofelir amdano,

iii

sgiliau nyrsio perthnasol,

iv

defnyddio cymhorthion ac addasiadau,

v

gofal ymatal,

vi

rheoli straen,

vii

cymorth gyda bwyta ac yfed,

viii

trin agweddau ar ymddygiad y person y gofelir amdano;

ix

helpu gofalwyr i edrych ar eu hôl eu hunain.

3

Yn y rheoliad hwn, dylid darllen cyfeiriadau at “gwybodaeth” fel petaent yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol neu wybodaeth sydd ar gael o ffynhonnell arall, ac y darperir modd i'w chyrchu.

Ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt7

Rhaid i strategaeth nodi'r camau y bydd awdurdod dynodedig yn eu cymryd i sicrhau bod ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt yn digwydd ac yn benodol i sicrhau—

a

bod yr ymgynghori â gofalwyr ynghylch y trefniadau ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt yn digwydd cyn belled ag y bo modd cyn bod penderfyniadau'n cael eu gwneud;

b

bod adnabyddiaeth gofalwr o'r person y gofelir amdano yn cael ei pharchu gan staff sy'n darparu gwasanaethau ac y bydd yn cael ei defnyddio'n briodol;

c

bod gofalwyr yn dod yn ymwybodol o hyd a lled eu hawliau i asesiad o'u hanghenion gan awdurdod lleol ac i ddarpariaeth gwasanaethau;

ch

bod gofalwyr yn cael help i ddeall y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y sawl sy'n darparu triniaeth neu wasanaethau i bersonau y gofelir amdanynt a'u bod yn cael eu hannog i gyfrannu at y broses benderfynu;

d

pan fo penderfyniadau yn cael eu cymryd yn absenoldeb gofalwyr, bod gofalwyr yn cael esboniad o'r penderfyniad;

dd

bod ymgynghori yn digwydd yn rheolaidd ac yn cynnwys ystyriaeth o ba bryd mae angen cymorth ar ofalwyr ar fyr rybudd;

e

bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ffordd y mae ymgyngoriadau â gofalwyr yn cael eu cynnal gan roi sylw i unrhyw anabledd a all fod gan ofalwyr a chan roi sylw i oed, cefndir diwylliannol ac iaith gofalwyr;

f

bod gofalwyr a'r personau y gofelir amdanynt yn dod yn ymwybodol o'r help a'r cymorth a all fod ar gael iddynt oddi wrth gyrff gwirfoddol;

ff

bod hyfforddiant ar ymgynghori effeithiol yn cael ei roi i staff.

Cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru8

1

Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 10.

2

Rhaid i awdurdod dynodedig gyflwyno ei strategaeth gyntaf ar ffurff ddrafft i Weinidogion Cymru erbyn 31 Hydref 2012.

3

Rhaid cyflwyno strategaethau i'w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru ar ffurf electronig ac ar ffurf bapur.

4

Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo strategaeth, rhaid i'r awdurdod dynodedig gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o gyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru ynghylch cynnwys y strategaeth a'r amser erbyn pryd y mae'n rhaid ei hailgyflwyno.

Darpariaeth bellach am strategaethau9

1

Rhaid i strategaeth gwmpasu cyfnod o dair blynedd.

2

Rhaid i bob awdurdod dynodedig adolygu ei strategaeth ar ôl 18 mis a chyn paratoi strategaeth newydd.

3

Rhaid i bob awdurdod dynodedig baratoi strategaeth newydd i'w chyflwyno i Weinidogion Cymru dim mwy na thair blynedd ar ôl i'r strategaeth flaenorol gael ei chyflwyno i'w chymeradwyo.

4

Rhaid i bob strategaeth olynol gael ei chyhoeddi.

5

Rhaid i awdurdodau dynodedig ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru sy'n esbonio sut y maent yn rhoi eu strategaeth ar waith a'i monitro.

6

Os yw awdurdod dynodedig yn cynnig diwygio ei strategaeth yn sylweddol, rhaid iddo gyflwyno fersiwn ddiwygiedig ddrafft i Weinidogion Cymru i'w chymeradwyo.

7

Rhaid cyhoeddi'r strategaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

Dyletswyddau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â strategaethau ar y cyd10

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner yn paratoi un strategaeth ar y cyd, gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r cyfrifoldeb dros y canlynol—

a

cyflwyno'r strategaeth ar ffurf ddrafft i Weinidogion Cymru;

b

cyhoeddi'r strategaeth;

c

ymgynghori â'r awdurdodau partner cyn darparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar roi'r strategaeth ar waith a'i monitro;

ch

cyflwyno drafft o unrhyw strategaeth ddiwygiedig i Weinidogion Cymru.

Gwenda ThomasY Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENAwdurdodau Lleol y mae'n rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol baratoi strategaeth ar y cyd â hwy

Adran 3(2)

Bwrdd Iechyd Lleol

Awdurdodau Lleol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caerdydd a Bro Morgannwg

Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Powys

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Maent yn gymwys i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cyfeirir at y rhain fel “awdurdodau dynodedig”. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru a'r awdurdodau lleol sy'n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda'i gilydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth sy'n dangos sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Mae rheoliad 3 yn darparu mai Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yw'r “awdurdod arweiniol” wrth baratoi a chyhoeddi'r strategaeth ar y cyd y mae'n rhaid iddynt ei pharatoi gydag awdurdodau lleol. Rhaid i awdurdodau lleol gymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r strategaeth a rhaid i'r Byrddau Iechyd Lleol a'r awdurdodau lleol fel ei gilydd roi'r strategaeth ar waith. Rhaid i Ymddiriedolaethau GIG baratoi a chyhoeddi strategaeth a gallant gyflawni'r ddyletswydd drwy gymryd rhan yn y broses o baratoi strategaethau'r Byrddau Iechyd Lleol.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheini sy'n paratoi strategaethau ymgynghori â chyrff gwirfoddol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud gofynion penodol ynghylch y materion sydd i'w cynnwys mewn strategaeth.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi mathau penodol o wybodaeth sydd i'w darparu i ofalwyr yn “wybodaeth briodol a chyngor priodol”.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth bellach am y sylw y mae'n rhaid i strategaeth ei roi i faterion mewn perthynas ag ymgynghori â gofalwyr a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid cyflwyno strategaethau ar ffurf ddrafft i'w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Os na roddir cymeradwyaeth, yna rhaid i'r awdurdodau dynodedig gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau am gynnwys y strategaeth neu am amseriad ei hailgyflwyno.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod strategaethau i'w paratoi i gwmpasu cyfnod o dair blynedd a bod rhaid iddynt gael eu hadolygu ar ôl 18 mis a chyn paratoi'r strategaeth nesaf. Rhaid i'r awdurdodau dynodedig ddarparu adroddiad blynyddol ar sut y mae'n rhoi'r strategaeth ar waith a'i monitro ar y cyd â'r awdurdodau lleol. Pan fo'r awdurdodau yn dymuno gwneud diwygiadau sylweddol i'r strategaeth rhaid iddi gael ei hailgyflwyno i'w chymeradwyo. Rhaid i strategaeth gael ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

Mae rheoliad 10 yn pennu, yn achos strategaethau sy'n cael eu paratoi ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol, bod y cyfrifoldeb am ddyletswyddau penodol sy'n codi o dan reoliad 9 i'w ysgwyddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynghylch costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd, Gwanasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.