- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Mae gan bennaeth hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 15(6).
(2) Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.
(3) O ran ysgol ac eithrio un sydd â chymeriad crefyddol, cadeirydd y corff llywodraethu fydd un o'r swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, bydd y corff llywodraethu'n penodi llywodraethwr nad yw wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath yn lle cadeirydd y corff llywodraethu. Bydd y corff llywodraethu hefyd yn penodi llywodraethwr arall na chymerodd ran yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.
(4) Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn swyddog apêl ar gyfer pennaeth yr ysgol.
(5) O ran ysgol ac eithrio un sydd â chymeriad crefyddol, bydd yr awdurdod lleol yn penodi dau o bobl, nad ydynt wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, yn swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.
(6) Yn achos ysgol sydd â chymeriad crefyddol, bydd y corff llywodraethu'n penodi un llywodraethwr yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, a'r llywodraethwr hwnnw fydd cadeirydd y corff llywodraethu, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, bydd y corff llywodraethu'n penodi llywodraethwr nad yw wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath yn lle cadeirydd y corff llywodraethu. Bydd yr awdurdod lleol yn penodi dau swyddog apêl a'r Awdurdod Esgobaeth yn penodi un swyddog apêl, ac ni chaiff yr un o'r swyddogion apêl hynny fod wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl.
(7) Rhaid i'r swyddogion apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 17(3), ac wrth wneud hynny rhaid iddynt gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan y pennaeth i ystyriaeth.
(8) Caiff y swyddogion apêl—
(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddogion apêl neu hebddynt; neu
(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb yr holl werthuswyr; neu
(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(9) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (8)(c) rhaid i'r holl werthuswyr gael eu disodli gan werthuswyr newydd a benodir yn unol â rheoliad 7 a rhaid i'r swyddogion apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(10) Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (9) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddogion apêl o dan baragraff (8)(c).
(11) Ni chaniateir i swyddogion apêl—
(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 12; na
(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 12 i gael eu diwygio.
(12) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 17 ac 18 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 15(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 17 ac 18, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan y swyddogion apêl o dan baragraff (8)(a).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: