- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
30.—(1) Mae gan athro neu athrawes ysgol hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 29(6).
(2) Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.
(3) Y pennaeth fydd y swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ac eithrio os y pennaeth yw'r gwerthuswr, a'r pryd hynny cadeirydd y corff llywodraethu fydd y swyddog apêl.
(4) Os cadeirydd y corff llywodraethu yw'r swyddog apêl, rhaid i'r awdurdod lleol benodi cynrychiolydd i gynorthwyo'r swyddog apêl.
(5) Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 31(2)(b), a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro neu'r athrawes ysgol i ystyriaeth.
(6) Caiff y swyddog apêl—
(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu
(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu
(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(7) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (6)(c) rhaid penodi gwerthuswr newydd yn unol â rheoliad 21 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(8) Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes gwerthuswr addas newydd a all gael ei benodi i'r athro neu'r athrawes ysgol o dan reoliad 21, rhaid i'r swyddog apêl benodi aelod o gorff llywodraethu'r ysgol yn werthuswr newydd i'r athro neu'r athrawes ysgol.
(9) Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn werthuswr i athro neu athrawes ysgol o dan baragraff (8).
(10) Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (7) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (6)(c).
(11) Ni chaniateir i'r swyddog apêl—
(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 26; na
(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 26 i gael eu diwygio.
(12) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 31 a 32 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 29(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 31 a 32, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: