RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt

Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion39

1

Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Disgyblion ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—

a

datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;

b

disgrifiad swydd yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;

c

unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;

ch

unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol; a

d

safonau proffesiynol athrawon ysgol fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

2

Caniateir i amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd—

a

dyheadau proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt; a

b

unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

3

Bydd amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgolion lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gweithio.

4

Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.

5

Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.

6

Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt geisio cytuno ar y cymorth y mae ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, y gwerthuswr fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.

7

Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—

a

asesiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;

b

manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut y mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac

c

manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.