Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 3042 (Cy.320)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Gwnaed

19 Rhagfyr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

16 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 11(1), (2)(b), (d), (f) a (3), 12(1), (2) a (4), 24(1)(c) a 26(3) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Ionawr 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(3).

Diwygio Rheoliadau 2004

2.  Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 2(1) (dehongli)

3.  Yn rheoliad 2(1)(4)

(a)hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);

(b)hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);

(c)yn y mannau priodol mewnosoder—

ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol(5);

ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol(6);;

(ch)hepgorer y diffiniadau o “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).

Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad”

4.  Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Amnewid y term “gwastraff trefol a gasglwyd”

5.  Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd”—

(a)rheoliad 6(1)(b) ac (c);

(b)yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);

(c)rheoliad 14(2)(ii).

Amnewid y term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”

6.  Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”.

Amnewid rheoliad 8 (penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff)

7.  Yn lle rheoliad 8 rhodder—

Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a gasglwyd sydd mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd

8.  Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd..

Dirymu Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

8.  Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011(7) wedi eu dirymu.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

19 Rhagfyr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).

Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat. Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt.

Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff. Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt. Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)). Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.

Defnyddir y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu. Mae Deddf GAMA yn cael ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Gwneir y diwygiadau hyn gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2499) a fydd yn dod i rym ar yr un adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Dangosir y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef. Gwneir diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol a gwastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004. Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol.

Cafodd y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i Reoliadau 2004 eu gwneud yn wreiddiol gan Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2555 (Cy. 279)) a ddaeth i rym ar 21 Tachwedd 2011. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailwneud y Rheoliadau cynharach hynny er mwyn gwneud yn eglur y pwerau y gwneir y diwygiadau odanynt.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(1)

2003 p. 33. Mae diwygiadau i adran 24 o'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155); diwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148) Atodlen 2 paragraffau 5 i 8 ac O.S. 2011/971 (Cy. 141) rheoliad 3.

(4)

Mae diwygiadau i reoliad 2(1) nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

I gael ystyr “local authority collected municipal waste” gweler adran 21(4) o'r Ddeddf.

(6)

I gael ystyr “biodegradable local authority collected municipal waste” gweler adran 21(2)(b) o'r Ddeddf.