- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
15 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Chwefror 2011
Yn dod i rym
6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006(2).
2. Mae'r Atodlen i'r prif Reoliadau wedi'i diwygio fel a ganlyn—
(1) Yng ngholofn 1 (Categori o fwyd) o'r tabl, yn y trydydd categori, mewnosoder “neu wedi'u rhewi” ar ôl y gair “ffres”; a
(2) Yng ngholofn 2 (Goleddfiad) o'r tabl, yn lle'r trydydd goleddfiad, rhodder y canlynol—
“Ffrwythau a llysiau ffres neu wedi'u rhewi gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ffrwythau neu lysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd atynt fraster, halen, siwgr, cyflasyn neu unrhyw gynhwysion eraill.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Atodlen i'r prif Reoliadau, drwy ddiwygio'r diffiniad o ffrwythau a llysiau er mwyn cynnwys ffrwythau a llysiau “wedi'u rhewi” ac er mwyn gwneud goleddfiad y categori hwnnw yn fwy eglur.
Ymgymerwyd ag asesiad effaith rheoleiddiol llawn mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth y Gangen Bwyd a Gweithgarwch Corfforol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p.7. Amnewidiwyd adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 gan adran 185(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: