2011 Rhif 551 (Cy.77)
Gorchymyn Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Diffiniadau) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y n dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3(6) a 19(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 20101.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, yn ôl adran 8(1) o'r Mesur hwnnw.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Diffiniadau) (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 30 Mawrth 2011.
Dehongli2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “gweithred adennill” (“recovery operation”) yw unrhyw weithred sy'n cynnwys ailbrosesu, gwirio, glanhau, atgyweirio, compostio neu dreulio anaerobig a'i phrif ganlyniad yw bod gwastraff yn gallu ateb diben;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010;
ystyr “y targedau” (“the targets”) yw targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a bennir yn adran 3(3) o'r Mesur.
Ailgylchu3
1
Mae gwastraff trefol awdurdod lleol2 yn cael ei ailgylchu at ddibenion y targedau—
a
pan fo'r gwastraff wedi mynd drwy weithred ailbrosesu; fel rhan o weithred adennill; a
b
pan fo'r gwastraff yn cael ei ailbrosesu yn gyn nyrch, deunydd, neu sylwedd, p'un a yw hynny at ei ddiben gwreiddiol neu ddiben arall.
2
Ond nid yw gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei ailgylchu at ddibenion y targedau os yw'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd nac ar gyfer gwaith ôllenwi.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “gwaith ôl-lenwi” yw gwaith lle y mae gwastraff yn cael ei ddefnyddio at ddibenion adfer mewn mannau sydd wedi eu cloddio neu at ddibenion peirianneg mewn tirlunio.
Paratoi i ailddefnyddio4
1
Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio at ddibenion y targedau—
a
pan fo cynnyrch gwastraff neu gydran o gynnyrch gwastraff wedi cael eu gwirio, glanhau neu atgyweirio fel rhan o weithred adennill; a
b
pan fo'r cynnyrch gwastraff neu gydran o'r cynnyrch gwastraff yn gallu cael eu hailddefnyddio at eu diben gwreiddiol.
Compostio5
1
Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei gompostio at ddibenion y targedau—
a
pan fo gwastraff bioddiraddadwy wedi bod drwy weithred adennill o gompostio neu dreulio anaerobig; a
b
pan fo gwastraff wedi cael ei ailbrosesu yn gynnyrch, yn ddeunydd neu sylwedd sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel cyflyrydd pridd, gwrtaith neu gyfrwng tyfu.
2
Yn yr erthygl hon, ystyr “compostio” yw'r driniaeth fiolegol o wastraff lle y mae dadelfeniad a sefydlogrwydd y gwastraff yn cael ei gyflawni drwy weithgaredd microbau gan broses aerobig.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “treulio anaerobig” yw'r driniaeth fiolegol o wastraff lle y mae dadelfeniad a sefydlogrwydd y gwastraff yn cael ei gyflawni drwy weithgaredd microbau gan broses anaerobig.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)